5 cam i adeiladu tîm rheoli gwych

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Twf
5 steps

Yr allwedd i unrhyw fusnes llwyddiannus yw pwy sy'n ei redeg. Hyd yn hyn, efallai mai chi oed yr unig un oedd yn gwneud hynny: perchennog y busnes.

Ond wrth i'r cwmni dyfu, mae'n anochel y byddwch chi'n ei chael hi'n fwyfwy anodd rheoli pob agwedd ar y busnes eich hun. Mae'n debyg eich bod hefyd wedi darganfod eich bod yn well mewn rhai rolau nag eraill.

I symud y busnes yn ei flaen, bydd angen tîm o reolwyr arnoch chi sydd â'r cyfuniad cywir o sgiliau. Gall tîm rheoli llwyddiannus gynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â ag ymdrin ag unrhyw heriau neu gyfleoedd sy'n codi yn gyfrifol. Rydych chi eisiau tîm sy'n deall ac yn gofalu am eich cwsmeriaid, ond hefyd yn gwybod sut i wneud elw.

Nid tasg hawdd yw adeiladu tîm rheoli gwych, ond bydd gwybod beth i edrych amdano a gwneud penderfyniadau gofalus, ystyriol yn eich helpu i'w gyflawni.

P'un a ydych chi'n fusnes sydd newydd ei sefydlu, yn fusnes technoleg newydd neu’n fusnes sy'n tyfu, darllenwch ymlaen i gael rhywfaint o arweiniad ar adeiladu a datblygu eich tîm rheoli

1. Meddyliwch allan pa sgiliau sydd eu hangen arnoch

Bydd y rolau sydd eu hangen arnoch a'r sgiliau sy'n ofynnol i'w llenwi yn dibynnu ar natur eich busnes. Ond fel rheol gyffredinol, byddwch angen:

1. Rhywun sy'n dda am drin pobl sy'n meddu ar sgiliau arwain fel blaen ffigwr y cwmni. Bydd yr unigolyn hwn yn cymryd y safbwynt strategol ac yn gallu dirprwyo yn ôl yr angen.

I lawer o berchnogion busnes, mae rôl arweinydd yn un y maen nhw'n ei mabwysiadu'n naturiol. Ond os yw'ch sgiliau yn bodoli yn rhywle arall, neu os ydych chi am ganolbwyntio ar faes penodol o'ch busnes, yna fe allai wneud mwy o synnwyr i gyflogi Prif Weithredwr. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo entrepreneuriaid yn dda am arloesi ac eisiau treulio mwy o'u hamser ar ddatblygu cynnyrch, yn hytrach na chael eu dal yn rheolaeth bob dydd y busnes.

Mae cyflogi Prif Weithredwr wrth gwrs yn benderfyniad sylweddol a bydd angen rhywun arnoch sydd nid yn unig yn meddu ar graffter busnes cryf, ond sydd yr un mor angerddol dros yr hyn y mae eich cwmni yn ei wneud ac sy'n hawdd ichi gydweithio ag o / hi.

2. Rhywun ag ymennydd ariannol rhagorol sy'n gallu edrych ar gyllidebau a rhagolygon. Bydd gan yr unigolyn hwn sgiliau adrodd da ac yn gallu rhoi sylw craff i fanylion.

I rai busnesau bach, gallai'r gwasanaethau ariannol sylfaenol a ddarperir gan gyfrifydd neu geidwad llyfr fod yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Fodd bynnag, os nad oes gennych strategaeth ariannol ac angen rhywun i ddarparu gwybodaeth y gellir ei gweithredu i lywio'ch penderfyniadau, yna gallai fod yn bryd cyflwyno Prif Swyddog Ariannol (PSA).

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd sy'n aml yn gofyn am help PSA, er enghraifft: rydych chi'n codi cyllid allanol, yn ehangu i farchnadoedd newydd, yn profi twf cyflym, neu'n paratoi ar gyfer caffaeliad.

Dewis poblogaidd yw defnyddio PSA rhan-amser, gan fod angen y cyfeiriad a ddarperir gan PSA ar lawer o fusnesau ond ni allant fforddio llogi un yn llawn amser.

3. Rhywun sy'n rheoli gweithrediadau ar gyfer y busnes ac sydd bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella.

Efallai bod gan eich busnes weithrediadau cymhleth neu eich bod chi'n cynllunio ehangiad a fydd yn gwneud gweithrediadau’n fwy cymhleth. Neu efallai eich bod yn ei chael hi'n anodd gweithio ar strategaeth a goruchwylio gweithrediadau dyddiol ar yr un pryd. Yn yr achos hwn, gall llogi rheolwr gweithrediadau ryddhau eich amser i ganolbwyntio ar y darlun ehangach, yn hytrach na chael eich llethu gan y manylion.

4. Rhywun sy'n gwybod sut i farchnata'ch cwmni yn effeithiol.

Os nad oes gennych yr amser na'r arbenigedd i ddatblygu'ch brand, lleoli'ch cynhyrchion a sicrhau bod eich negeseuon yn iawn, yna mae angen i chi ymgysylltu arbenigwr marchnata yn gyflym.

5. Rhywun sy'n wych am werthu'ch cynnyrch.

Mae gan y mwyafrif o fusnesau newydd broblem cynhyrchu refeniw hyd yn oed os yw eu hymwybyddiaeth marchnata a brand yn dda. Mae 'pobl sy’n gwerthu' yn fath penodol iawn fel unigolion felly mae angen i chi wybod hefyd sut i'w rheoli a'u cymell yn iawn. Ar ôl i chi gael ychydig o bobl gwerthu ac angen rhywun i reoli'ch proses werthu, yna ystyriwch gyflogi rhywun i fod yn bennaeth ar eich tîm gwerthu.

Fel yr ydym wedi crybwyll eisoes, mae lefel y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer pob un o'r rolau hyn yn amrywio o fusnes i fusnes. Nid fyddwch wastad yn mynd i fod angen gweithrediaeth Lefel C (ac efallai na fyddwch chi'n gallu ei fforddio). Ac fel busnes bach, yn enwedig os ydych chi newydd sefydlu, gall un person feddu ar nifer o’r sgiliau sy'n berthnasol i rai o'r rolau hyn.

2. Sefydlwch pa sgiliau sydd gennych chi

Adolygwch sefyllfa bresennol eich busnes ac edrych ar eich tîm presennol. Pwy sy'n gyfrifol am ba faes busnes?

Un ymarfer da yw ysgrifennu bywgraffiadau byr ar gyfer eich tîm - gan gynnwys chi eich hun - a nodi'r sgiliau sydd gan bob aelod o staff.

Fel hyn, fe fyddwch chi'n gwybod ble mae'ch cryfderau a lle mae'r mannau gwan. Yna dylech ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r gwendidau hyn, a sicrhau bod digon o arbenigedd wedi'i neilltuo ar gyfer pob maes busnes hanfodol.

3. Llenwch y bylchau

Os ydych chi wedi gweld bwlch sgiliau, meddyliwch am y ffordd orau o fynd i'r afael ag o.

A allai rhywun yn eich tîm presennol weddu'n dda i'r rôl? Mae dyrchafu yn fewnol yn rhoi cyfle i chi nodi a gwerthuso staff sydd â photensial arwain, ac, os oes angen, eu huwch sgilio trwy hyfforddiant.

Os yw'n dasg tymor byrrach y mae angen help arnoch chi gyda hi, neu’n rhywbeth y mae angen arbenigedd arnoch o bryd i'w gilydd yn unig, yna efallai y byddai'n well rhoi gwaith ar gontract allanol yn hytrach na recriwtio aelod o staff parhaol.

Gallwch hefyd amgylchynu'ch hun gydag aelodau cryf o'r Bwrdd (a fydd yn gweithio am ecwiti yn lle cyflog) ac yn aml gall hyn gryfhau'r tîm yn ddigonol.

Mae yna lawer o opsiynau, ond peidiwch â bod ofn llogi rhywun newydd sydd â'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes. Mae'n dda cael cymysgedd o rai wedi'u llogi yn fewnol ac yn allanol. Cefndiroedd amrywiol gyda nodau wedi'u halinio yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano.

4. Llogi'r bobl iawn

Bydd yr arweinwyr cywir yn helpu i lywio'ch cwmni tuag at lwyddiant. Fodd bynnag, gall llogi'r rhai anghywir ar lefel uchaf y busnes arwain at ganlyniadau niweidiol. Dyma ychydig o awgrymiadau i'w cofio wrth i chi logi'ch tîm rheoli:  

  • Rydyn ni eisoes wedi sôn am amrywiaeth. Bydd llogi pobl â gwahanol brofiadau a chefndiroedd a all ddarparu safbwyntiau a syniadau amrywiol yn helpu i sbarduno twf eich busnes.
  • Chwiliwch am brofiad arwain blaenorol. Nid yw bob amser yn ymwneud â phrofiad diwydiant na lefel yr arbenigedd sydd gan rywun mewn maes penodol. Er enghraifft, efallai nad y gwerthwr gorau yw arweinydd gorau eich tîm gwerthu.  
  • Arhoswch am yr ymgeisydd iawn. Os nad ydych wedi dod o hyd i'r ffit ddelfrydol eto, mae'n debyg ei bod yn well aros hyd nes eich bod chi, - yn hytrach na recriwtio'r person anghywir. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn llogi pobl yn fympwyol pan fyddant yn boddi mewn gwaith sydd yn ddieithriad yn arwain at y penderfyniadau anghywir. Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i rywun yna ewch i rwydweithio, ehangu'ch chwiliad gwaith, neu ceisiwch ddefnyddio cwmni chwilio gweithredol.
  • Diwylliant yw'r peth pwysicaf gyda llogi mewn cwmni bach. Defnyddiwch y cyfweliad i ddeall yn iawn pwy yw'r person. Canfyddwch beth sy'n eu cymell, pa mor galed maen nhw'n gweithio, a beth yw eu gwerthoedd. A yw'r rhain yn cyd-fynd â gwerthoedd eich cwmni? Yn ei dro, bydd bod â diwylliant cryf, wedi'i ddiffinio'n dda yn eich helpu i ddenu a chadw talent, felly canolbwyntiwch ar ddiffinio a chyfleu hyn i'ch gweithwyr presennol ac yn y dyfodol.

 

5. Daliwch ati i adeiladu a datblygu

Felly rydych chi wedi llwyddo i gael yr unigolion iawn ar gyfer y swyddi cywir - beth nawr?

Wrth i chi gymryd cam yn ôl a throsglwyddo'r awenau i bobl eraill, mae angen i chi wybod eu bod nhw'n cyflawni.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod amcanion clir, yn cynnal adolygiadau rheolaidd i fonitro perfformiad, a darparu hyfforddiant a datblygiad. Rhowch yr hyn sydd ei angen ar eich tîm rheoli i gyflawni eu swyddi yn dda, ac ystyriwch ffyrdd o wobrwyo perfformiad da.

Deallwch y bydd anghenion eich busnes yn esblygu dros amser a bydd angen sgiliau gwahanol ar wahanol gamau. Daliwch i adolygu a mynd i'r afael ag unrhyw fylchau sgiliau, fel bod gennych chi'r tîm iawn ar bob cam i gyrraedd eich nodau.

Yn olaf, edrychwch ar ôl eich pobl. Mae gweithwyr yn mynd a dod yn beth hynod gostus ac yn aml yn niweidiol i'r diwylliant. Crëwch dîm sy'n perfformio'n uchel. Mantra CM yw rheolaeth, rheolaeth, rheolaeth, felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r gorau.