6 awgrym hanfodol i reoli busnes

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Managing-a-rugby-club

Mae ansicrwydd economaidd a'r argyfwng costau byw yn cyflwyno heriau eithriadol i fusnesau. Gofynnom i Bethan Evans, Partner yn Menzies LLP, i rannu rhywfaint o wybodaeth am sut i reoli busnes yn llwyddiannus ac adeiladu cadernid, a gobeithiwn y bydd yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau yn y cyfnod ansefydlog hwn.

Rheoli tîm rygbi, rheoli busnes?

Nid yw rheoli busnes yn hawdd - hyd yn oed pan fo'r dirwedd economaidd a gwleidyddol yn sefydlog. Mae cael y cynnyrch neu'r gwasanaeth a gynigir yn gywir, marchnata, staffio, targedau gwerthu, rheoli credyd, cyllid ac yn y blaen i gyd angen ystyriaeth ofalus a rheolaeth barhaus. Mae'n gelfyddyd y mae rhai pobl yn llwyddo i wneud iddo edrych yn hawdd ac maen nhw’n rhagori arni - yn debyg i lawer o reolwyr o fewn rygbi a phêl-droed. Felly, pa debygrwydd arall sydd gan reoli tîm rygbi neu bêl-droed i fusnes, a beth allwn ni ei ddysgu o hyn i’n galluogi i redeg busnes yn fwy effeithiol?

1. Hyblygrwydd

Mae angen i dîm fod yn hyblyg yn dibynnu ar eu gwrthwynebydd. Mae'r un peth yn wir mewn busnes. Mae angen cynllun busnes arnoch sy'n hyblyg i wrthsefyll y newidiadau y bydd y busnes yn anochel yn eu hwynebu drwy gydol ei oes. Gallai newidiadau gynnwys deddfwriaeth y llywodraeth, rheoleiddio diwydiant, grymoedd economaidd, trychinebau naturiol, digwyddiadau gwleidyddol ac yn y blaen. Bydd gallu bod yn ystwyth wrth weithredu eich cynllun busnes er mwyn gwneud lle i'r newidiadau hyn olygu bod y busnes yn cael ei roi mewn sefyllfa dda.

2. Cyfathrebu

Mae angen i dîm gyfathrebu i gyrraedd y llinell gais neu'r nod. Mewn busnes, mae cyfathrebu â chwsmeriaid yn allweddol i werthiant, gyda chyflenwyr mae'n allweddol i adnoddau, gyda staff mae'n allweddol i egni a chymhelliant, gyda chynghorwyr mae'n allweddol i'r cyngor gorau a chyda chyllidwyr mae'n allweddol i gyllid. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â sut mae'r rhanddeiliaid hyn yn cefnogi'r busnes a bydd diffyg cyfathrebu yn cyfateb i golli cymorth, gan effeithio ar gylchred cyfalaf gweithio, llif arian a phroffidioldeb.

3. Gweithwyr proffesiynol

Mae angen i dîm amgylchynu ei hun gyda gweithwyr proffesiynol. Mae angen hyfforddwyr, ffisiotherapyddion, meddygon a dietegwyr i'w helpu i gyrraedd ei botensial. Mae angen cymorth proffesiynol ar fusnesau hefyd, dim ond enwau gwahanol sydd ganddyn nhw wedi’r cwbl - fel cynghorydd AD, cyfrifydd, cyfreithiwr, banciwr, brocer. Yr hyn sy'n bwysig yw cydnabod pan fydd angen y gweithwyr proffesiynol hyn ar y busnes a cheisio eu cyngor yn hytrach na mynd ar eich trywydd eich hun. Rwy'n amau a fyddai'r tîm rygbi yn rhoi'r gorau i ddefnyddio arbenigedd y meddyg, felly ni ddylai'r busnes roi'r gorau i arbenigedd eu gweithwyr proffesiynol chwaith.

4. Llesiant

Mae angen amser ar gyfer meithrin llesiant personol ar dimau. Mae angen amser arnynt i ddatgywasgu ar ôl gêm galed; i fyfyrio, ymlacio, adfywio. Mae pobl fusnes angen gwneud hyn hefyd. I rai fe all hyn fod ar ffurf ymwybyddiaeth ofalgar, y gampfa yw’r encil i rai eraill ac efallai y bydd eraill eisiau dianc trwy wylio rhywbeth di-sylwedd ar y teledu neu ymgolli mewn llyfr da. Yr hyn sy'n bwysig yw'r amser i ffwrdd er mwyn galluogi gwell persbectif a gallu gweld y darlun ehangach yn haws.

5. Safbwynt

Weithiau mae angen edrych ar y darlun ehangach. Camwch yn ôl o'r llif o ddydd i ddydd ac edrychwch ar y busnes yn ei gyfanrwydd. Edrychwch arno trwy lygaid gwahanol randdeiliaid a cheisiwch ei weld o'u safbwynt nhw. Bydd hyn yn helpu i wneud penderfyniadau strategol holl bwysig.

6. Arian parod

Mae hyd yn oed timau rygbi a phêl-droed angen arian parod, ac mae ansolfedd sawl un dros y blynyddoedd yn brawf o hynny. Does dim dianc rhag y ffaith bod arian parod yn frenin ac mae'n rhaid gofalu amdano. Mae hynny’n golygu gofalu am werthiannau gyda swyddogaethau rheoli credyd digonol a bod yn ofalus wrth gynnig credyd. Mae'n golygu rheoli cyflenwyr a gweithio'r cyfalaf gweithio. Bydd paratoi llif arian yn helpu busnesau'n sylweddol i flaengynllunio, gwneud penderfyniadau strategol a nodi gofynion ariannu.

Yn sicr ni fydda’ i ac nid yw’n fwriad gen i reoli unrhyw dimau rygbi na phêl-droed unrhyw bryd, ond efallai y byddaf yn gwylio rhywfaint o rygbi da ac yn helpu un neu ddau o fusnesau ar hyd y ffordd.

Mae tîm Adfer Busnes Menzies LLP yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i fusnesau o bob maint, ar draws sectorau diwydiant. Lle bo modd, mae arbenigwyr y cwmni yn darparu atebion ymarferol ar gyfer gwella rheolaeth arian parod a chadernid gweithredol ac mae ymgysylltu’n gynnar yn allweddol i wella canlyniadau. I gael gwybod mwy, cysylltwch drwy e-bostio bevans@menzies.co.uk.