ACAI, y brand dillad awyr agored i fenywod, yn ehangu i’r farchnad ryngwladol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
ACAI

Mae ACAI o Sir y Fflint yn chwyldroi’r diwydiant dillad awyr agored i fenywod ac mae’r cwmni ar y llwybr cywir i ddyblu ei drosiant i £6 miliwn a dechrau allforio i farchnadoedd rhyngwladol gyda chymorth benthyciad o £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Lansiwyd y cwmni ACAI yn 2017 gan Joe a Kasia Bromley, sy’n ŵr a gwraig, ac mae’n cynnig amrywiaeth o ddillad awyr agored cynaliadwy, ffasiynol ac ymarferol wedi’u cynllunio gan fenywod ar gyfer menywod.

Bydd ACAI yn defnyddio’r cyllid fel cyfalaf gweithio er mwyn buddsoddi mewn system weithredu ERP newydd, stoc ychwanegol a chryfhau’r tîm drwy greu hyd at 10 o swyddi newydd. Y cyntaf i ymuno yw cyn-Bennaeth Gweithrediadau American Golf, Neil Mahon. Ymunodd â’r cwmni fel Prif Swyddog Gweithredu ac mae’r broses o recriwtio amryw o weithwyr cyllid, marchnata, gwasanaethau cwsmeriaid a warws hefyd yn mynd rhagddi.

Mae’r trowsus tynn gwreiddiol ar gyfer yr awyr agored sydd wedi’i wneud o orchudd gwrth-ddŵr heb Poly-Fluoro-Carbon yn rhan o gynnyrch ACAI. Mae’r gorchudd yn sicrhau na chaiff unrhyw gemegau niweidiol eu rhyddhau i’r amgylchedd. Defnyddir gwlân merino ffeibr naturiol hefyd ac mae pob cynnyrch yn cael ei lapio mewn bag golchi dillad rhwyll yn hytrach na bag plastig.  

Gyda’r diwydiant dillad awyr agored i fenywod yn ffynnu, mae ACAI am allforio i’r Almaen i ddechrau, ac mae gan yr Almaen gadwyn gyflenwi gyda Tsieina, Twrci a Phortiwgal. Bydd yr holl ddillad yn parhau i gael eu dosbarthu o Ogledd Cymru tan i’r cwmni brynu ail warws yn yr UE.

Meddai Joe Bromley, Prif Weithredwr ACAI: “Bu’r galw’n llawer uwch na’r cyflenwad yn ystod 2020 felly rydym yn paratoi ar gyfer ail hanner prysur i’r flwyddyn ariannol gyfredol ac yn ceisio tyfu er mwyn gallu manteisio ar rai o’r cyfleoedd rhyngwladol cyffrous o’n canolfan yma yn Sandycroft.

“Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ac rydym yn hynod falch o gael cefnogaeth gan y Banc Datblygu; mae’r cyllid a gawsom yn gwneud gwahaniaeth mawr gan fod modd i ni gyflogi’r bobl gywir i ddatblygu brand ACAI ymhellach a chyflwyno systemau a fydd yn trawsnewid ein cynhyrchiant wrth i ni dyfu. Rydym hefyd am fuddsoddi yn y cynnyrch sydd ar gael a chael cyflenwad cyson o gynnyrch newydd i gwrdd â’r galw gan gwsmeriaid.

“Rydym hefyd yn elwa ar y ffaith bod y Banc Datblygu wedi cael ein cyflwyno i dîm o gynghorwyr masnach rhyngwladol yn Llywodraeth Cymru. Mae cymorth ymarferol a chyngor strategol y tîm yn help mawr i ni ddatblygu ein strategaeth allforio a diffinio ein llwybr i farchnadoedd rhyngwladol.”

Stewart Williams yw swyddog portffolio Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae ACAI yn addo cynnig cynnyrch newydd a steil heb gyfaddawdu ar gyfforddusrwydd na pherfformiad. Mae ein cyllid yn darparu’r cyfalaf gweithio sydd ei angen i fuddsoddi yn nhwf y busnes drwy brynu stoc a recriwtio staff allweddol.

“Nid yw’r ffaith bod y DU wedi gadael yr UE bellach yn mennu dim ar atal Joe a Kasia. Mae ganddynt ganolfan gref yma yng Nghymru a byddant yn addasu’n greadigol ac yn arloesol er mwyn manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol. Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn o ran rhagolygon y cwmni fel brand byd-eang yn y dyfodol.”

Daeth y cyllid ar gyfer ACAI o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru sy’n werth £500 miliwn. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae’r gronfa wedi’i neilltuo ar gyfer cytundebau rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael gyda thelerau hyblyg hyd at 15 mlynedd.