AerFin yn hedfan yn yr uchelfannau gyda buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Fanc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
robert james ceo aerfin

Mae AerFin o Gaerffili wedi cadarnhau cynlluniau i ehangu ei fusnes awyrofod ac amddiffyn sy’n tyfu’n gyflym yn yr Unol Daleithiau yn dilyn buddsoddiad saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi'i enwi gan y Financial Times fel y cwmni Awyrofod ac Amddiffyn sy'n Tyfu Gyflymaf yn Ewrop 2020, mae AerFin yn arbenigwr byd-eang blaenllaw yn y maes darparu atebion cymorth ôl-farchnad i'r diwydiant hedfan. Mae'r gwasanaethau'n amrywio o werthu neu brydlesu awyrennau cyfan a’r injans hyd at ddadosod, storio a dosbarthu'r rhestr nwyddau hedfan.

Mae dros 200 o wahanol weithredwyr cwmnïau hedfan yn defnyddio AerFin ar gyfer cefnogaeth ôl-farchnad gan gynnwys Finnair. Fel cwmni hedfan blaenllaw’r Ffindir, penododd Finnair AerFin yn 2020 i reoli’r broses o ddirwyn yr awyrennau sy’n ymddeol i ben yn raddol gan gynnwys yr A319, y mae eu peiriannau’n cael eu datgymalu a’u hatgyweirio yng nghyfleuster 150,000 metr sgwâr AerFin yng Nghaerffili.

Mae Air France, British Airways a Lufthansa hefyd yn gwsmeriaid i AerFin. Bydd y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru yn darparu cyfalaf gweithio tymor byr i ariannu ehangu rhaglenni diwedd oes ar gyfer awyrennau ac injans yn yr Unol Daleithiau lle mae dros 75% o weithredwyr cwmnïau hedfan Ejet y byd wedi'u lleoli, un o'r llinellau cynnyrch allweddol y mae AerFin yn canolbwyntio arnynt.

Robert James yw Prif Weithredwr AerFin. Meddai: “Dechreuodd AerFin ar ei weithrediadau yn 2010 ar anterth yr argyfwng dyled rhyngwladol a gydiodd mewn prydleswyr awyrennau, cwmnïau hedfan a buddsoddwyr gyda’r nod o dynnu ar y wybodaeth dechnegol a masnachol helaeth o fewn y tîm i gynyddu gwerthoedd gweddilliol asedau yn yr amodau economaidd anodd hynny.

“Mae'r galw gan ein cwsmeriaid wedi gweld AerFin yn creu ystod o raglenni arloesol a hyblyg i wneud y mwyaf o'n dadosodiad mewnol, storio a dosbarthu rhestr nwyddau hedfan. Bydd ehangu ein gwasanaethau yn barhaus yn ein galluogi i dyfu ein datrysiadau gwasanaeth ôl-farchnad ymhellach wrth i'r economi fyd-eang baratoi i fownsio'n ôl o Covid-19.

“Mae stociau rhestr nwyddau strategol wedi’u lleoli ledled y byd i gefnogi gofynion uniongyrchol ein cwsmeriaid. Mae hyn yn holl bwysig wrth i gwmnïau hedfan geisio lleihau costau, cwtogi amseroedd darparu, lleihau effaith amgylcheddol a gwella cynaliadwyedd. Trwy weithio gyda chwmnïau hedfan, gallwn helpu i leihau effaith amgylcheddol y sector hedfan a chynyddu gwerth gweddilliol awyrennau ac injans i'r eithaf ar yr un pryd.

“Mae’r buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu bod gennym bellach y cyfalaf gweithio sydd ei angen i ehangu ein gweithrediadau ymhellach o’n canolfan yng Nghaerffili i’r Unol Daleithiau lle rydym mewn sefyllfa dda i fanteisio ar adferiad y diwydiant hedfan wrth i bobl ddechrau hedfan unwaith eto.“

Gweithiodd Ashely Jones, Chris Dhenin a Navid Falatoori o Fanc Datblygu Cymru gydag AerFin i strwythuro'r cyllid. Dywedodd Navid Falatoori: “Mae AerFin yn elwa o dîm rheoli hynod gydlynol a chraff yn dechnegol sy’n credu mewn gwneud hedfan yn fwy cynaliadwy.

“Gyda gweithlu medrus iawn o 50 wedi’i leoli yng Nghaerffili, mae Aerfin yn gwmni cryf sydd â hanes trawiadol o ddarparu trosiant o fwy na $100m. Wrth i'r byd wella o'r pandemig byd-eang, mae AerFin mewn sefyllfa dda i elwa o fod angen i weithredwyr cwmnïau hedfan gynnal eu fflyd bresennol a lleihau ôl troed carbon, gan gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae ein cyllid yn darparu lle i AerFin fanteisio ar gyfleoedd stoc ac asedau wrth iddynt symud i mewn i farchnad yr UD.”

Daw cyllid ar gyfer AerFin o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru. Mae'r gronfa £137 miliwn ar gyfer buddsoddiadau rhwng £25,000 a £10 miliwn gyda thelerau ad-dalu hyblyg hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael.