Agor siop newydd – beth i’w gofio

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi
Newidwyd:
Opening a shop

Mae agor siop newydd, boed hynny’n fusnes cyntaf neu'n rhan o'ch busnes sy'n tyfu, wastad yn adeg cyffrous i unrhyw berchennog busnes. Fodd bynnag, nid yw hyn mor syml ag y byddai llawer yn ei feddwl. I fod yn llwyddiannus, mae angen i chi ystyried nifer o ffactorau.

Felly pa fath o bethau sydd angen i chi eu sefydlu er mwyn agor eich siop newydd a dechrau tyfu eich ymerodraeth fanwerthu?

Yr eiddo:

Un o'r pethau pwysicaf sydd eu hangen arnoch chi yw lleoliad da. 
"Mae gwahanol opsiynau lleoliad yn gweddu i wahanol fusnesau," meddai Tim Williams o Busnes Cymru. "Mae cael lleoliad da i'ch busnes yn hanfodol, ond gall dewis yr un iawn fod yn dipyn o gamp cydbwysedd. Yn ddelfrydol, dylai'r lleoliad fod yn gyfleus i'ch cwsmeriaid, gweithwyr a'ch cyflenwyr - heb fod yn rhy ddrud. 
"Trwy roi ystyriaeth i'r holl ffactorau perthnasol, gallwch adnabod eiddo addas mewn lleoliad sy'n diwallu anghenion eich busnes, eich cwsmeriaid a'ch staff."
Byddwch hefyd angen rhent, weithiau hyd at chwe mis ymlaen llaw, ffioedd asiant a blaendal diogelwch. 

"Gall costau ymlaen llaw fod yn eithaf mawr," esbonia’r Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru, Tara Lee-Fox. "Felly mae angen i chi sicrhau bod gennych yr adnoddau yn eu lle cyn i chi ddisgyn mewn cariad gydag uned benodol. Fodd bynnag, mae yna lawer o gyllid hyblyg ar gael. Er enghraifft, os ydych chi'n fusnes tymhorol, gallwch chi drefnu benthyciad fel eich bod yn talu mwy ar eich adegau prysur a llai yn ystod yr adegau pan fydd hi'n fwy tawel. "

Y stoc:

Nawr bod gennych y lleoliad, mae angen i chi sicrhau bod gennych y stoc iawn - a digon ohono - i gwrdd â galw cwsmeriaid. Ond mae eisiau i chi fod yn ofalus rhag cael gormod o stoc, o achos fe all hyn achosi problemau gyda llif arian. 

"Bydd rheoli stoc yn effeithlon yn golygu bod gennych y swm cywir o stoc yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Mae'n sicrhau nad yw arian eich busnes yn cael ei glymu yn ddiangen, ac mae'n diogelu cynhyrchiad pan fo problemau gyda'r gadwyn gyflenwi," ychwanega Tim Williams o Busnes Cymru. "Rydym yn argymell eich bod yn cynnal cyfri stoc yn rheolaidd ac yn dod i'r arfer o ddefnyddio prosesau 'mewn pryd' fel nad yw stoc yn cronni tra'n sicrhau ar yr un pryd bod gennych ddigon o nwyddau i gwrdd ag anghenion eich cwsmeriaid." 

"Mae sicrhau fod llif arian a rheolaeth stoc yn cyd-fynd a'i gilydd yn bwysig iawn," meddai Tara. "Sicrhewch fod gennych fynediad at yr hyn sydd ei angen arnoch ac edrychwch ar yr opsiynau cyllid i lenwi'r bwlch neu i gwrdd a’r costau ymlaen llaw i'ch helpu chi."

Y staff:

Er mwyn i'ch busnes adwerthu ffynnu bydd angen staff arnoch chi. Bydd angen i chi hefyd sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi ar eich tiliau a'ch systemau.
"Gellir talu costau i hyfforddi staff mewn sawl ffordd," eglurodd Tara "Mae yna lawer o gyrsiau am ddim ar gael a all helpu, a gallwch edrych ar fenthyca arian er mwyn dod ag arbenigedd penodol i mewn."

Mae gan Busnes Cymru lawer o gefnogaeth a chyngor ar gael ar opsiynau hyfforddi staff, ewch i weld businesswales.gov.wales/cy am ragor o fanylion.

Lledaenu’r gair: 

Nawr bod gennych y lleoliad, y stoc a'ch staff mae angen i chi allu marchnata'ch busnes. 

"Mae yna lawer o wahanol ddewisiadau marchnata allan yn fanna," meddai Tim Williams o Busnes Cymru. "Mae yna hysbysebion papur newydd, radio, teledu os oes gennych gyllideb fawr, neu fe allech roi cynnig ar farchnata digidol. Rydym yn rhedeg nifer o gyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol - ac mae'n rhad ac am ddim i fynychu'r rhain. Mae hefyd yn werth siarad â siambrau masnach lleol a'r Ffederasiwn Busnesau Bach am unrhyw gymorth marchnata y gallent hwy ei ddarparu. "

Os ydych chi'n chwilio am gyllid i agor siop newydd, cysylltwch â ni.  I siarad â'n cydweithwyr yn Busnes Cymru, ffoniwch 03000 6 03000.