Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Alacrity Alumni Validient yn sicrhau buddsoddiad o £300,000

Hannah-Mallen
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid ecwiti
Cyllid a chyfrifo
Ariannu
Twf
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
Technoleg busnesau
Validient

Mae busnes technoleg o Gasnewydd sy’n helpu’r sector gwasanaethau proffesiynol i gadw i fyny â chydymffurfiaeth reoleiddiol gynyddol wedi sicrhau ail fuddsoddiad o £200,000 gan Fanc Datblygu Cymru a £100,000 gan Wesley Clover.

Sefydlwyd Validient gan y mentergarwyr ifanc Ieuan Leigh, Katie Turnbull, Thomas Elliott a Gareth Williams ar ôl cwblhau rhaglen yr Alacrity Foundation yn 2021. Mae’r cwrs mentergarwch unigryw yn cyfuno mentergarwyr graddedig â mentoriaid o safon fyd-eang i greu’r genhedlaeth nesaf o gwmnïau technoleg.

Cafodd sylfaenwyr Validient gefnogaeth Capital Law fel partneriaid strategol yn ystod y rhaglen 15 mis ac maent bellach yn darparu system rheoli cydymffurfiaeth a diwydrwydd dyladwy awtomataidd ar gyfer cwmnïau cyfreithiol a busnesau rheoledig ledled y DU. Mae Validient yn trawsnewid prosesau sy'n wynebu cleientiaid ar gyfer y diwydiant gwasanaethau proffesiynol trwy ddarparu dilysiad hunaniaeth a dogfen, adnabyddiaeth wyneb biometrig, gwiriadau gwrth-wyngalchu arian, asesiadau risg, diwydrwydd dyladwy parhaus, strwythurau perchnogaeth cwmni, a phyrth cleient pwrpasol ynghyd â gwiriadau person sy'n agored i wleidyddol.

Dyma’r ail fuddsoddiad i Validient gan y Banc Datblygu a Wesley Clover sydd, gyda’i gilydd, eisoes wedi buddsoddi £140,000. Y busnes twf cyflym hwn yw’r unig gwmni technoleg o Gymru i gael lle ar Raglen LawtechUK, gan gefnogi cynlluniau ehangu ar gyfer y DU gyfan.

Ieuan Leigh yw Prif Weithredwr Validient. Meddai: “ Fel busnes technoleg gyfreithiol, rydym yn cynnig meddalwedd rheoli cydymffurfiaeth sy’n caniatáu i fusnesau a reoleiddir arbed amser a lleihau costau gyda gofynion cydymffurfio o’r dechrau i’r diwedd.

“Mae Validient yn galluogi cwmnïau a reoleiddir i ddisodli eu hasesiadau risg cleientiaid â llaw ac yn aml ar bapur a’u gweithredoedd cydymffurfio â llwyfan popeth-mewn-un hawdd ei ddefnyddio. Mae hyn yn galluogi timau cyfreithiol i gael trosolwg cliriach o bwy y maent yn gwneud busnes â nhw, gan gadw'r gymuned yn ddiogel rhag twyllwyr a gwyngalchwyr arian.

“Mae’r ecosystem dechnoleg yng Nghymru mor gefnogol a chydweithredol. Ar ôl cyfarfod drwy gyfrfwng Alacrity, rydym wedi cael mynediad at y cymorth a’r arweiniad mwyaf anhygoel gan gynnwys cyllid buddsoddi gan y Banc Datblygu a Wesley Clover a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ein cynnyrch ymhellach a buddsoddi yn ein hadnodd gwerthu. Mae sicrhau’r buddsoddiad hwn yn gynnar yn ein datblygiad yn hanfodol i ni ddod yn brif system rheoli cydymffurfiaeth ar y farchnad.”

Dywedodd Hannah Mallen, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda’r Banc Datblygu: “Gyda sylfaen cleientiaid sy’n tyfu’n gyflym ledled y DU, mae Validient yn symleiddio’r broses gyfan o ymuno â chwmnïau cyfreithiol ac ymgysylltu â nhw. Mae'n gwella prosesau mewnol a phrosesau sy'n wynebu cleientiaid gan gynyddu effeithlonrwydd a lleihau costau.

“Fel busnes ifanc a chyffrous, gyda thîm hynod ddeinamig, mae Validient yn cael ei ddenu’n fawr yn y farchnad ac rydym wrth ein bodd yn eu cefnogi ar eu taith gyda chyllid o’n Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru. Bydd ein cefnogaeth a’n buddsoddiad yn galluogi’r busnes i dyfu, a dymunwn bob llwyddiant i’r busnes yn y dyfodol.”

Daeth y buddsoddiad ar gyfer Validient o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £350,000 ar gael i fusnesau technoleg Cymreig a’r rhai sy’n fodlon adleoli i Gymru ar y cam profi’r cysyniad.