Allbryniant rheolwyr wedi ei ysgogi gan y gwerthwr a ariannwyd gan Fanc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
R Lewis

Mae Cyfarwyddwr sefydlu cwmni arbenigol amddiffyn rhag tân yng Nghaerdydd, R Lewis & Co (UK) Ltd, wedi cyhoeddi allbryniant rheolwyr a ysgogwyd gan y gwerthwr (a adwaenir yn aml fel VIMBO) ar ôl 25 mlynedd mewn busnes.

Wedi'i sefydlu ym 1997 gan Roger Lewis, mae R Lewis & Co yn ddarparwr atebion amddiffyn goddefol rhag tân sydd wedi ennill gwobrau ac wedi'u hachredu'n llawn. Bydd Roger yn aros fel Rheolwr Gyfarwyddwr gyda chyfranddaliad lleiafrifol i sicrhau trosglwyddiad esmwyth at ei feibion ​​Chris a Jonathan Lewis ynghyd â'i gyd-gyfarwyddwr Craig Cleveland. Mae benthyciad chwe ffigur wedi'i ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru.

Gyda throsiant o fwy na £5.3 miliwn, mae R Lewis & Co yn cyflogi tua 80 o staff ac mae ganddo sylfaen gwsmeriaid ledled y wlad sy'n cynnwys Wilmott Dixon, Kier, Bouygues a'r GIG. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys arolygon amddiffyn rhag tân goddefol, atal tân, peirianneg tân ac ymgynghoriaeth, haenau ysbeidiol, drysau tân a haenau arbenigol.

Meddai Roger Lewis: “Gyda dros 25 mlynedd o brofiad ym maes amddiffyn goddefol rhag tân, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau a gwybodaeth i wella perfformiad cyffredinol ein gwasanaethau ledled y DU. Credwn fod hyfforddiant ac achrediadau o'r pwys mwyaf er mwyn cynnal ein lle ar lefel uchaf y diwydiant amddiffyn rhag tân yn y Deyrnas Unedig. Yr ethos hwn sy'n sail i bopeth a wnawn.

“Mae tyfu busnes yn siwrnai ac rydw i wedi bod yn glir iawn gydol yr amser ynghylch fy nghyrchfan i; dod â thîm o uwch reolwyr rhagorol yn eu blaen a'u datblygu a bellach mae gan y rhain y cyfle i symud ein busnes yn ei flaen. Rwy'n falch iawn o bopeth rydyn ni wedi'i gyflawni ac wrth fy modd mai fy nau fab fydd yn gweithio ochr yn ochr â Craig fel y genhedlaeth nesaf sy'n gyfrifol am arwain R Lewis & Co.

Dywedodd Chris Lewis: “Mae ansawdd wrth wraidd ein busnes a bydd hynny'n wir bob amser. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac mae’n dyst i arweinyddiaeth fy Nhad fod Craig, Jonathan a minnau bellach yn barod i arwain ein tîm rhagorol wrth inni gychwyn ar gam nesaf ein taith.

“Mae’r cyllid hyblyg a’r cyngor arbenigol gan y Banc Datblygu wedi ein galluogi i gytuno ar becyn sy’n gweithio i bawb dan sylw. Rydyn ni'n gyffrous am y dyfodol ac yn edrych ymlaen at dyfu ein gwasanaethau a'n tîm gyda chefnogaeth barhaus fy Nhad fel Rheolwr Gyfarwyddwr."

Dywedodd Matthew Wilde o Fanc Datblygu Cymru: “Mae Roger a’r tîm wedi adeiladu busnes llwyddiannus iawn sy’n cael budd o fod ag enw eithriadol o dda. Mae rheoli olyniaeth yn golygu bod angen blaengynllunio; buddsoddi yn y bobl iawn a chymryd yr amser i'w hyfforddi a'u mentora fel bod y trawsnewid yn digwydd yn esmwyth.

“Bydd ein cyllid yn helpu i sicrhau parhad y busnes gydag agwedd raddol tuag at drosglwyddo'r awenau gan Roger i Chris, Jonathan a Craig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i helpu i hwyluso'r allbryniant rheolwyr hwn a ysgogwyd gan y gwerthwr a'u cefnogi ar eu taith."

Cynghorodd Mark Hislop o Advantage Accountancy Roger Lewis gyda Blake Morgan yn gweithredu ar ran Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd Mark Hislop: “Ar ôl gweithredu ar ran Roger ers 2016, bûm yn falch o gefnogi datblygiad y busnes hir sefydlog hwn sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gyson yn broffidiol. Gyda strategaeth ymadael glir, mae Roger wedi gweithio’n galed i weithredu cynllun olyniaeth llwyddiannus ac roeddwn i’n gwybod y byddai’r Banc Datblygu yn awyddus i gynnig eu cefnogaeth. Fel arbenigwyr ym maes olyniaeth, mae eu pecynnau cyllido hyblyg yn berffaith ar gyfer perchnogion busnes a thimau rheoli sydd am weld y drefn yn cael ei chwblhau'n effeithlon."