Angen help i redeg eich busnes chi neu un eich cleient? Mae yna 'app' ar gyfer hynny!

Sarah-Smith
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
smartphone homescreen

Boed chi'n entrepreneur, yn unig fasnachwr, neu yn bennaeth ar dîm bach, wrth i'ch menter dyfu, bydd eich cyfrifoldebau’n tyfu hefyd yn yr un modd. Mae angen ymdopi â llawer o bethau. Cyllid. Marchnata. Gweithrediadau. A phopeth yn y canol.

Diolch byth, mae datblygwyr meddalwedd wedi cwrdd â'r her, ac erbyn hyn mae yna gannoedd o 'apps' allan yna sydd wedi cael eu cynllunio i wneud y gwaith o redeg busnes bach yn haws mewn cymaint o ffyrdd.

Dyma rai enghreifftiau:

Denu cwsmeriaid

Gall ychydig o hyrwyddo ar-lein fynd yn bell. Ond os ydych chi'n rhedeg busnes brics a morter mae'n aml yn anodd gweld manteision uniongyrchol marchnata digidol. Ac ar gyfer y manwerthwyr mawr yn unig mae cynlluniau teyrngarwch ynde? Tydi hynny ddim yn wir mwyach. Mae Apps fel Memberoo, yn ei gwneud yn haws i fanwerthwyr llai redeg hyrwyddiadau ar-lein yn effeithiol a chynnig gostyngiadau i gwsmeriaid. Mae'n app teyrngarwch digidol sy'n caniatáu i siopau annibynnol, caffis, a bwytai i gynnig gwobrau, darparu mewnwelediad gwerthfawr am ddefnyddwyr, a manteisio ar argymhellion cyfoedion-i-gyfoedion.

Ysgafnhau’r baich gweinyddol

Wrth redeg menter swyddogol daw nifer o rwymedigaethau yn sgil. Mae'r pethau sy'n ymddangos fel pethau eilaidd ar y dechrau mwyaf sydyn yn dod bethau pwysig iawn - ac mae'n bosib iddynt ddwyn llawer o amser - pethau fel treth  neu gydymffurfio.

Mae cofio cadw llygad ar dreuliau yn fwgan cyffredin, ond mae gwasanaethau fel 1Tap Receipts yn cynnig ffordd gyflym, hawdd, a di-drafferth o gadw costau o ddydd i ddydd gyda'i gilydd, ar-lein.

Ar gyfer y rhai sydd angen cadw cofnodion manwl - megis cofnodion iechyd a diogelwch neu fanylion archwilio - mae Papertrail eisoes yn bodoli. Mae'n wych ar gyfer busnesau bach sydd angen storio dogfennau digidol yn ddiogel, ar gwmwl.

Sicrhau fod pethau’n cael eu gwneud

Mae yna nifer fawr o ddarparwyr Meddalwedd fel Gwasanaeth sy'n cynnig nifer o wahanol gyfarpar rheoli amser / prosiect / cyfathrebu - ac maent yn amrywio o ran eu defnyddioldeb. Fodd bynnag mae Trello yn sefyll allan. Mae'n hawdd iawn a gellir ei ddefnyddio i drefnu unrhyw beth o bicnic cwmni i ymgyrch marchnata aml-sianel.

Ac os nad yw’n bodoli...

Wnaethoch chi ddim dechrau cwmni i gael eich boddi yn y manion o redeg busnes, ond mae'r pethau hyn yn rhan o'r fargen i ryw raddau pan fyddwch yn dechrau busnes. Ac os nad oes app eisoes ar gael allan yna sy'n cynnig gwasanaeth ar gyfer eich poeniadau chi neu eich cleientiaid ... pam na wnewch chi ymchwilio i greu un eich hun?

Am fwy o wybodaeth am ddechrau busnes, neu i gael gwybod mwy am ariannu a chyllid, ffoniwch ni ar 0800 587 4140.