Angylion ar frig y don drwy fuddsoddi yn Marine Power Systems

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
marine power systems

Mae syndicet o angylion buddsoddi blaenllaw o Gymru wedi cwblhau’r broses o fuddsoddi gwerth £950,000 yn Marine Power Systems sydd wedi’i leoli yn Abertawe.

O dan arweiniad y prif fuddsoddwr Andrew Diplock, buddsoddodd y syndicet o 15 buddsoddwr £700,000 ynghyd â £250,000 o arian cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, Banc Datblygu Cymru. Mae swm ychwanegol o £750,000 gan fuddsoddwyr preifat yn golygu bod cyfanswm yr ecwiti a godwyd bellach yn £1.7 miliwn.

Yn ogystal â hynny, mae Marine Power Systems newydd agor cyfnod cyn-cofrestru er mwyn gallu cael mynediad cynnar at yr ymgyrch cyllido torfol ar Crowdcube a fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin. Nod yr ymgyrch yw cynyddu’r cyfanswm i o leiaf £2.5m er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu grid aml-megawat cysylltiedig a refeniw i greu arddangoswr masnachol yng ngogledd Sbaen yn ystod 2022 a sicrhau bod y busnes yn barod ar gyfer y farchnad.

Sefydlwyd Marine Power Systems yn 2008 gan Dr Gareth Stockman a Dr Graham Foster, gan chwyldroi’r ffordd rydym yn cynaeafu ynni o gefnforoedd y byd. Mae’r cwmni ar y trywydd cywir i fod yn arweinydd byd o ran cyflenwi offer echdynnu ynni gwynt a thonnau sy’n arnofio drwy gael y dechnoleg fwyaf cost-effeithiol sy’n perfformio orau sydd ar gael ar y farchnad.

Ar ôl profi’r dechnoleg cynhyrchu ynni morol, sydd â phatent llawn, yn llwyddiannus ar lefel ganolig, mae’r cwmni bellach yn gweithio ar raddfa megawat er mwyn gallu arddangos ei dechnoleg sy’n cysylltu â’r grid cyn cael ei fasnacheiddio.

Meddai Dr Gareth Stockman: “Rydym bellach yn gweithio ar raddfa lawn sy’n gyfystyr â cham olaf ein rhaglen brofi cyn y byddwn mewn sefyllfa i allu darparu dyfeisiau masnachol i’n cwsmeriaid. Mae’r busnes eisoes yn ennill tir yn y farchnad ac mae gennym nifer o brosiectau cyn-fasnachol sy’n creu refeniw ar y gweill a fydd yn profi effeithiolrwydd ein technoleg ymhellach cyn i ni ddarparu ein dyfeisiau i gwmnïau masnachol ar raddfa cyfleustodau yma yn y DU a thramor.”

“Mae’r ymgyrch codi arian ddiweddaraf hon yn gyfle gwych i fuddsoddi cyn y cylch cyllid ecwiti sefydliadol a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni. Mae’r cymorth parhaus gan fuddsoddwyr yn golygu ein bod wrth wraidd yr agenda twf gwyrdd. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth.”

Fel un o’r buddsoddwyr mwyaf gweithgar ar hyn o bryd sydd ‘wedi’i gymeradwyo’ i weithio gyda Chronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, mae portffolio Andrew Diplock o fuddsoddiadau preifat yn un sy’n tyfu ac mae’n eiriolwr brwd dros ddatblygu busnesau newydd a BBaChau yng Nghymru. Meddai: “Gyda’r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn rhagweld y bydd anghenion ynni byd-eang yn cynyddu 30% erbyn 2040 – sy’n gyfystyr ag ychwanegu’r galw am ynni yn Tsieina ac India at y galw byd-eang heddiw – ynni morol adnewyddadwy yw’r ffynhonnell fwyaf cynaliadwy o greu trydan a’r mwyaf cystadleuol o ran. Gallai ynni morol fodloni 20% o’r galw am ynni yn y DU erbyn 2050.”

“Mae hwn yn gyfle mawr i’r DU fel ynys arwain y ffordd yn y sector newydd hwn; creu swyddi a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi sy’n gosod Cymru yn gadarn ar y map byd eang. Gyda chefndir ym maes ynni, mae’n fraint gallu cefnogi BBaChau o Gymru fel cyd-fuddsoddwr ac rwy’n teimlo’n hynod gyffrous i gael  gweithio gyda syndicet o angylion o’r un anian a phob un ohonynt yn rhannu’r un ymrwymiad i fuddsoddi er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Tom Preene o Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae Marine Power Systems mewn sefyllfa i fod yn un o’r ychydig ddarparwyr technoleg llwyddiannus sydd â’r potensial i gymryd yr awenau menw marchnad fyd-eang fawr.

“Mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro oherwydd y galw sylweddol am ddyfeisiau ynni gwynt a thonnau sy’n arnofio ar y môr. Dyma fusnes cynaliadwy hirdymor sy’n hyblyg ac yn gydweithredol ac yn buddsoddi mewn technoleg arloesol. Mae hynny, ynghyd â thîm rheoli hynod brofiadol, yn gwneud Marine Power Systems yn fuddsoddiad deniadol, yn arbennig i’r rhai sy’n awyddus i gefnogi uchelgais Cymru i greu economi werdd. Fel prif fuddsoddwr, mae gan Andrew lawer o brofiad yn y sector gan ddod â syndicet o 15 o fuddsoddwyr ynghyd i sicrhau arian cyfatebol gan ein cronfa cyd-fuddsoddi a chynyddu grym syndicet angylion i fuddsoddi.”

Wedi’i sefydlu yn 2017, Angylion Buddsoddi Cymru yw prif rwydwaith angylion buddsoddi Cymru ac mae’n rhan annatod o Fanc Datblygu Cymru. Mae ganddo dros 250 o angylion busnes cofrestredig sy’n rhan o rwydwaith eang sy’n anelu at ddarparu buddsoddiad ecwiti preifat i fusnesau sy’n tyfu a busnesau newydd yng Nghymru.