Angylion yn cefnogi busnes technoleg feddygol Caerdydd MeOmics mewn rownd £300,000

Carol-Hall
Rheolwr Rhwydwaith Cyd-fuddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
MeOmics

Mae'r busnes technoleg feddygol MeOmics Precision Medicine o Gaerdydd yn ehangu ar ôl buddsoddiad ar y cyd mewn rownd ariannu gwerth £300,000 gan Angylion Buddsoddi Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru.

Dechreuodd MeOmics Precision Medicine yn 2021 fel cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth grant Innovate UK a chefnogaeth gan bartneriaid St Andrew's Healthcare. Mae'n defnyddio technegau sy'n seiliedig ar gelloedd bonyn i nodi mathau biolegol cleifion wrth gynnal profion darganfod cyffuriau ar gyfer cyflyrau fel sgitsoffrenia.

Mae'r profion a ddefnyddir gan y busnes yn caniatáu datblygu cyffuriau'n fwy targedig, gan leihau'r risg o fethu yn y clinig neu ddewis triniaeth aneffeithiol i gleifion.

Mae'r busnes wedi derbyn £125,000 mewn buddsoddiad ecwiti gan Ferched Angylion Cymru - dan arweiniad yr arbenigwr data a'r prif fuddsoddwr Sara Boltman - ynghyd â £125,000 mewn cyllid cyfatebol gan Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru a £50,000 gan fuddsoddwyr presennol. Mae hefyd yn dilyn grant o £25,000 gan Lywodraeth Cymru, trwy Gymorth Arloesi Hyblyg Clyfar (CAHC).

Bydd y buddsoddiad diweddaraf yn caniatáu i MeOmics Precision Medicine hyrwyddo datblygu platfformau a chynhyrchu data, a chyflogi staff technegol newydd.

Dywedodd Lucy Sykes, Prif Weithredwr MeOmics Precision Medicine: “Mae cymhlethdod afiechydon meddwl yn golygu ei bod hi’n anodd datblygu therapïau newydd a fydd yn gweithio i bawb. Gall triniaeth anghywir ar gyfer afiechydon meddwl arwain at sgîl-effeithiau llethol i’r claf unigol, gan arwain hefyd at gostau enfawr i’r GIG.

“Mae ein technoleg yn caniatáu i ni wneud ym maes seiciatreg yr hyn sy’n cael ei  wneud ym maes oncoleg, a helpu datblygwyr cyffuriau i baru eu triniaethau nid yn unig ar draws poblogaethau eang o gleifion, ond yn hytrach i grwpiau targedig o gleifion yn dibynnu ar eu bioleg sylfaenol.”

Ychwanegodd: “Bydd y buddsoddiad hwn gan Angylion Buddsoddi Cymru a Merched  Angylion Cymru yn ein helpu i wneud y gorau o’n platfform ar gyfer cwsmeriaid, ehangu ein partneriaethau a thyfu ein tîm, wrth i ni gymryd y cam nesaf yn ein taith tuag at fasnacheiddio.”

Dywedodd Sara Boltman, Merched Angylion Cymru: “Rydw i wedi gwneud nifer o fuddsoddiadau llai yn y gorffennol, ond dyma’r buddsoddiad cyntaf rydw i wedi arwain arno. Fel rhywun sydd â chefndir mewn data, roedd gen i ddiddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud gan Lucy a’r tîm yn MeOmics, ac roeddwn i’n falch o’r cyfle i ni gefnogi sylfaenydd benywaidd arall.”

Dywedodd Carol Hall, Rheolwr Rhwydwaith Cyd-fuddsoddi ym Manc Datblygu Cymru: “Mae MeOmics Precision Medicine yn enghraifft ardderchog o’r math o fusnesau sy’n gweithio yn ecosystem technoleg feddygol Cymru. Roeddem yn falch o gefnogi buddsoddiad Merched Angylion Cymru yn y busnes, ac yn croesawu arbenigedd Sara Boltman fel prif fuddsoddwr.”

Wedi'i sefydlu i helpu i gefnogi merched yng nghymuned buddsoddi cynnar Cymru, mae Merched Angylion Cymru yn cael ei gefnogi ar y cyd gan Fanc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru. Mae gan y syndicet fynediad at gyd-fuddsoddiad o hyd at £350,000 ar gyfer pob bargen o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £8 miliwn y Banc Datblygu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn fan hyn www.womenangelsofwales.com