Antiverse yn codi £1.4 miliwn ($2 miliwn USD) i ddatblygu ei blatfform darganfod cyffuriau gwrthgyrff DA

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Antiverse.

  • Bydd y cyllid yn cyflymu datblygiad technoleg darganfod cyffuriau gwrthgyrff wedi'i bweru gan DA y Cwmni, gan ganolbwyntio ar nodi therapiwteg newydd ar gyfer afiechydon canser, y galon a'r ysgyfaint
  • Nod y dechnoleg yw cyflymu datblygiad cyffuriau o flynyddoedd i wythnosau
  • Adeiledir labordy newydd yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru

 

Mae Antiverse, cwmni biotechnoleg sy'n datblygu platfform darganfod cyffuriau gwrthgyrff trwy ddull cyfrifiadol, wedi codi cyllid sbarduno gwerth cyfanswm o £1.4 miliwn ($2 filiwn USD), yn cynnwys buddsoddiad newydd a chyllid cyfatebol o raglen UKI2S Cyflymu Arloesedd Innovate UK. Defnyddir yr arian i ddatblygu ymhellach eu platfform darganfod cyffuriau gwrthgyrff DA, sy'n rhagweld rhwymiad gwrthgyrff-antigen yn gyflym ac yn gywir i nodi darpar gyffuriau gwrthgyrff.

Ymhlith y buddsoddwyr yn y rownd cyllid sbarduno mae Banc Datblygu Cymru, y Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion, Tensor Ventures, Wren Capital, Ed Parkinson, Cambridge Angels, a SyndicateRoom. Bydd cyfran o'r cyfalaf a godir yn cael ei ddefnyddio i adeiladu labordy yng Nghaerdydd, Cymru ac ehangu'r tîm technegol trwy recriwtio peirianwyr dysgu peiriannau arbenigol, gwyddonwyr labordy a biolegwyr strwythurol.

Mae Antiverse yn cyfuno technegau dysgu peirianyddol ac arddangos bacterioffagau i fodelu rhyngweithiadau gwrthgyrff-antigen. Mae fersiwn gyfredol y platfform yn defnyddio dilyniant y genhedlaeth nesaf a DA er mwyn darparu gwrthgyrff amrywiol ar gyfer unrhyw darged penodol. Bydd y dechnoleg yn galluogi i gyffuriau gael eu datblygu ar gyfer targedau “anodd” sy'n gysylltiedig ag afiechydon canser, y galon a'r ysgyfaint.

Meddai Murat Tunaboylu, Prif Weithredwr Antiverse: “Mae ein buddsoddwyr yn cydnabod potensial ein platfform darganfod cyffuriau gwrthgyrff wedi'i bweru gan DA i ddarparu datblygiad arloesol yn y diwydiant. Gyda'n technoleg, bydd yn bosibl datblygu cyffuriau ar gyfer targedau anodd ac, yn y pen draw, lleihau'r amserlenni ar gyfer darganfod cyffuriau o flynyddoedd i wythnosau. Yn ogystal â datblygu platfformau, bydd y cyllid yn ein galluogi i fuddsoddi mewn cyfleusterau a recriwtio; rydym yn ddiolchgar i’n buddsoddwyr ac Innovate UK am eu cefnogaeth barhaus.”

Dywedodd Ed Parkinson, prif fuddsoddwr ar gyfer y syndicâd o Fuddsoddwyr Angel: “Mae gan Antiverse dîm uchelgeisiol o arbenigwyr a gwyddonwyr DA sydd â gweledigaeth i drawsnewid maes darganfod cyffuriau. Dyma enghraifft wych o fusnes o'r radd flaenaf yn dechrau yng Nghymru gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru.”

"Rydyn ni'n gyffrous iawn ac yn hyderus wrth fuddsoddi yn Antiverse. Mae gan y cwmni uchelgeisiau gwych ac mae'n dangos potensial enfawr wrth groesffordd bioleg a DA.” meddai Martin Drdul, sylfaenydd a phartner cyffredinol Tensor Ventures.

Dywedodd Rafael Joseph, Banc Datblygu Cymru: “Ynghyd â'n Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru, mae'r Banc Datblygu yn helpu mwy o fusnesau Cymru i dyfu gyda chyllid ecwiti; gan greu effaith er budd economi Cymru. Mae ein syndicadau a rhwydweithiau angylion yn weithredol ledled Cymru ac rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Antiverse ar eu taith gyda'n buddsoddiad sbarduno. Maen nhw wirioneddol ar flaen y gad o ran defnyddio DA i ychwanegu at y broses darganfod cyffuriau a'i chyflymu. Mae eu gwaith yn drawsnewidiol ac mae'n gyffrous iawn ei fod yn digwydd yma yng Nghymru.”