Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Antur gwerth £35,000 i Fanc Datblygu Cymru

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
RAW Adventures

Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi £35,000 yn RAW Adventures ym Mrynrefail, sef cwmni gweithgareddau mynydd sy’n cael ei redeg gan Kate a Ross Worthington, sy’n ŵr a gwraig.

Y micro fenthyciad hwn yw ail fuddsoddiad y Banc Datblygu yn y cwmni, ar ôl cefnogi’r busnes yn flaenorol yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r tîm o bump sydd yn y swyddfa i gyd yn arweinwyr a hyfforddwyr cymwys. Maen nhw’n gweithio’n rheolaidd gydag unigolion o bob oed a gallu, yn ogystal â grwpiau elusennol a chorfforaethol, gan gynnal diwrnodau Dringo’r Wyddfa, arwain heriau Mynyddoedd 3000 Troedfedd Cymru, a chynnig anturiaethau mynyddig pwrpasol yn Eryri ac ar hyd a lled y DU. Mae RAW hefyd yn cefnogi pob agwedd ar yr elfen Alldeithiau ar gyfer Gwobr Dug Caeredin a’r wythnosau preswyl ar gyfer Gwobr Aur Dug Caeredin.

Mae’r micro fenthyciad o £35,000 gan y Banc Datblygu yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu eu Rhaglen Partneriaid Elusennol ymhellach, i gael cyfleusterau ychwanegol i storio offer, ac i helpu i ariannu’r broses o wneud cais am Ardystiad B Corp.

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Ross Worthington: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cynllunio anturiaethau pwrpasol, yn ogystal â chynnig llwybrau mwy adnabyddus a diwrnodau dringo i’r copa i’n cleientiaid. Rydyn ni eisoes yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o elusennau sy’n defnyddio ein gwasanaethau fel cyfleoedd i godi arian am ddim, a bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i ymestyn y cynnig hwn i’r rhai sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel hosbisau.

“Fydden ni ddim wedi goroesi’r pandemig heb gefnogaeth y Banc Datblygu yn ystod y cyfnod hwnnw, heb sôn am dyfu’r busnes a chymryd camau pellach i reoli a gwella’r effaith gadarnhaol rydyn ni’n ei chael ar ein hamgylchedd a’n cymuned. Bydd y benthyciad diweddaraf hwn yn ein galluogi ni i symud ymlaen a pharhau i arwain y ffordd ym maes anturiaethau awyr agored. Mae’n hwb mawr i ni i gyd ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r ffydd yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.”

Mae Mal Green yn Swyddog Gweithredol Portffolios gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae RAW Adventures yn fusnes penderfynol sy’n cael ei arwain gan bwrpas. Mae’r tîm yn rhannu ymrwymiad dwfn i safonau uchel o ran perfformiad, atebolrwydd a thryloywder – sydd i gyd yn ffactorau rydyn ni’n seilio ein penderfyniadau buddsoddi arnynt, felly mae’n rhoi boddhad mawr i ni eu gweld yn ffynnu yn y rhan arbennig hon o Gymru.”

Daeth y micro fenthyciad ar gyfer RAW Adventures o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy’n werth £500 miliwn. Mae’r Gronfa hon ar gyfer cytundebau sydd werth rhwng £25,000 a £10 miliwn, ac fe’i cyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru, am gyfnodau o hyd at 15 mlynedd.