Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Arbenigwyr buddsoddi yn ymuno â Bwrdd Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid a chyfrifo
Ariannu
Twf
Annie Ropar, Giles Thorley, Sally Bridgeland a Paul Oldham

Mae arbenigwyr cyllid blaenllaw'r DU, Annie Ropar a Paul Oldham, wedi ymuno â Bwrdd Banc Datblygu Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol.

Annie yw Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Ariannol y Gronfa Cyfoeth Genedlaethol. Roedd hi'n un o weithwyr cyntaf Banc Seilwaith Canada (CIB) cyn hynny, gan ymuno fel ei Brif Swyddog Ariannol a'i Brif Swyddog Gweinyddol cyntaf. Treuliodd Annie bum mlynedd hefyd gydag Aequitas NEO Exchange Inc. (CBOE Canada bellach), a naw mlynedd gyda changen Marchnadoedd Cyfalaf Banc Brenhinol Canada, lle'r oedd ei gyrfa'n cwmpasu cyllid, ecwiti preifat a'r busnes masnachu ecwiti sefydliadol.

Mae Paul Oldham yn Gyfarwyddwr Portffolio ac yn aelod o Bwyllgor Buddsoddi'r cwmni buddsoddi ecwiti BGF. Ymunodd â BGF ym mis Mai 2011 a sefydlodd a rheolodd swyddfeydd y cwmni ym Mryste, Caerdydd a Reading. Bu'n gweithio'n flaenorol fel buddsoddwr ecwiti preifat am 16 mlynedd gyda 3i ac LDC. Ar ôl cymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig gyda KPMG, mae gyrfa Paul hefyd wedi cynnwys cyfnod o chwe blynedd fel Partner gyda Grant Thornton ac yn ystod y cyfnod hwnnw arweiniodd dîm cynghori cyllid corfforaethol y cwmni yn Ne-orllewin a De Cymru.

Capten Anrhydeddus y Grŵp Sally Bridgeland yw Cadeirydd y Banc Datblygu. Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o groesawu Annie a Paul fel aelodau'r Bwrdd yn ystod yr amser cyffrous hwn i Fanc Datblygu Cymru. Gyda dros £2 biliwn mewn cronfeydd dan reolaeth a phortffolio o fwy na 3,600 o fusnesau, mae ein dylanwad yn tyfu ac yn cyrraedd yn ddyfnach i gymunedau ledled Cymru.

“Mae’r Banc Datblygu wedi dod yn gyswllt hanfodol rhwng buddsoddwyr sefydliadol a mentrau lleol—gan bontio’r bwlch a datgloi cyfleoedd ar gyfer partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rwy’n credu’n gryf mai cydweithio yw conglfaen twf cynaliadwy, a chyda’r penodiadau newydd hyn, rydym yn cryfhau ein safle ymhellach fel partner dibynadwy i fusnesau, buddsoddwyr a chymunedau Cymru.”

Dywedodd Paul Oldham: “Mae’r Banc Datblygu yn cael ei barchu’n eang fel y prif ddarparwr cyllid cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer busnesau Cymru. Mae’r model busnes yn sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei drin yn gyfrifol heb beryglu uchelgais tra bod y gefnogaeth gynnar i fentrau â photensial uchel yn paratoi cwmnïau fel Coincover a Space Forge, a gefnogir gan y Banc Datblygu, i gystadlu ar y llwyfan byd-eang.

“Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn yr wyf yn siŵr y bydd yn gyfle gwerth chweil o ddifri i helpu i lunio dyfodol busnesau bach a chanolig ledled Cymru drwy arwain penderfyniadau ariannu sy’n galluogi busnesau newydd, busnesau sy’n ehangu, a chymunedau i ffynnu.”

Ychwanegodd Annie Ropar: “Mae Banc Datblygu Cymru yn gatalydd ar gyfer arloesedd lleol, creu swyddi, a chydbwysedd economaidd. Gyda ffocws ar dwf economaidd cynaliadwy, mae gennym y potensial i drawsnewid rhanbarthau trwy ddatgloi doniau, adeiladu ecosystemau, a lefelu cyfleoedd lle mae eu hangen fwyaf. Gwelais y gwahaniaeth a wnaeth y dull gweithredu hwn yng Nghanada yn ystod fy amser gyda Banc Seilwaith Canada ac mae bellach hefyd wrth wraidd y gwaith rydym yn ei wneud yn y Gronfa Cyfoeth Genedlaethol. Rwy'n gyffrous am ddod â'r profiad hwn i Gymru a gwneud yr hyn a allaf i annog cydweithio a chynyddu effaith buddsoddiad preifat ochr yn ochr â chyllid cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru.”

Fel sefydliad cyllid cyhoeddus sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, mae Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau ac ecwiti i fusnesau, pobl a chymunedau Cymru i gefnogi amcanion polisi ehangach y Llywodraeth gan gynnwys y newid i economi carbon isel a datblygu cartrefi newydd ac eiddo masnachol. Mae £959 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig a datblygwyr eiddo gan y Banc Datblygu ers ei lansio yn 2017.

Mae gan y Banc Datblygu bellach £2 biliwn mewn cronfeydd dan reolaeth a phortffolio o fwy na 3,600 o gwsmeriaid busnesau bach. Helpodd cyllid dyled ac ecwiti gwerth cyfanswm o £152 miliwn 502 o fusnesau i greu a diogelu 6,185 o swyddi ledled Cymru yn ystod 2024/25.