Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Arbenigwyr diagnosis modurol yn ehangu gyda buddsoddiad o £100,000

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Maverick

Mae Laura Hall, Rheolwr Gyfarwyddwr Maverick Diagnostics o Wrecsam, yn paratoi i ehangu yn dilyn buddsoddiad o £100,000 gan Fanc Datblygu Cymru. 

Fel busnes offer diagnostig cerbydau arbenigol, mae Maverick Diagnostics wedi nodi twf o 25% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ôl lansio academi hyfforddi i uwchsgilio mecanyddion a thechnegwyr lleol a fydd yn cynnwys cyrsiau ychwanegol ar Tesla a Graddnodi ADAS cyn bo hir. Dyma'r eildro i'r cwmni gael cefnogaeth gan y Banc Datblygu, ar ôl derbyn benthyciad ym mis Ebrill 2020 i helpu i reoli masnachu yn ystod pandemig Covid-19.

Bydd y benthyciad o £100,000 yn galluogi Maverick Diagnostics i barhau i ehangu’r ystod o offer diagnostig a chymorth technegol y mae'r tîm o 12 yn eu cynnig i weithdai modurol a garejys ledled y DU.  Mae'r cwmni'n datblygu system gweithredu meddalwedd awtomatig a fydd yn darparu diweddariadau meddalwedd rheolaidd ac yn paratoi i lansio gwasanaeth adnewyddu batri a diagnosteg ar gyfer cerbydau trydan yn gynnar yn 2025. 

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Maverick Diagnostics, mae Laura Hall yn llysgennad balch i fenywod yn y diwydiant modurol ac yn aelod o'r Automotive 30% Club sy'n ymgyrchu dros sicrhau cydbwysedd gwell rhwng y rhywiau yn y diwydiant modurol. Meddai Laura: "Ni yw'r cwmni Ewropeaidd cyntaf i gefnogi'r holl offer diagnostig delwyr yn yr ôl-farchnad. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi ennill ymddiriedaeth a sefydlu partneriaethau ledled y byd, gan roi'r gallu i'r gweithdai ôl-farchnad gystadlu’n llawn â phrif rwydweithiau delwyr.

"Mae ein hystod eang o offer diagnostig yn ddelfrydol ar gyfer gweithdai bach a mawr. Bu’n bosibl i ni gynnal ein gwasanaeth drwy gydol y pandemig diolch i gefnogaeth y Banc Datblygu. Gyda dealltwriaeth dda o'n busnes, mae'r Banc bellach wedi gallu strwythuro pecyn ariannu gyda thelerau sy'n gweithio i ni fel y gallwn ni barhau â'n hymdrechion i rymuso'r ôl-farchnad trwy gyrraedd mwy o garejys a'u hannog i gofleidio technoleg newydd. Y nod cyffredinol yw gwneud y dyfodol yn fwy hygyrch.

Mae Malcom Green yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Dywedodd: "Mae ôl-farchnad fodurol y DU yn ffynnu, ond weithiau gall garejys llai, mwy lleol ei chael hi'n anodd cadw i fyny â datblygiadau mewn technoleg ddiagnostig. Mae Maverick Diagnostics yn elwa o dîm medrus iawn sydd ag angerdd dros rannu eu technoleg a'u harbenigedd gyda garejis a gweithdai ledled y DU, gan eu galluogi i gystadlu â phrif ddelwyr. Mae ein cefnogaeth i'w busnes yn golygu y gallant wneud mwy i alluogi eu cwsmeriaid i helpu perchnogion ceir gyda gofynion atgyweirio, cynnal a chadw a gwasanaethu."

Daeth y benthyciad ar gyfer Maverick Diagnostics o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sydd werth £500 miliwn. Mae'r Gronfa, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer dêls rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru gyda thymhorau o hyd at 15 mlynedd.