Arloeswr Technoleg Addysg ‘Simply Do Ideas’ yn Codi £550,000

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Simply Do Ideas
  • Technoleg yn goresgyn y rhwystrau at arloesedd ac entrepreneuriaeth
  • Datgelu arloesedd trwy ddarparu gofod digidol diogel er mwyn i syniadau yn eu camau cynnar gael eu cipio, eu profi a'u rhannu 
  • Mae technoleg yn dod â diwydiant ac addysg at ei gilydd er mwyn 'cyd-ffynonellu' syniadau ar gyfer heriau sefydliadol
  • Arweiniodd angylion busnes profiadol, gan gynnwys Ashley Cooper y buddsoddiad, ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru

 

Mae Simply Do Ideas, sy'n seiliedig yng Nghaerdydd, y cwmni technoleg addysg sy'n helpu pobl i adeiladu a phrofi eu syniadau, wedi codi £550,000 yn ei rownd gyllido ddiweddaraf. Sicrhawyd yr arian gan fuddsoddwyr angel a arweinir gan Gadeirydd y cwmni, Ashley Cooper, ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru.

Sefydlwyd Simply Do Ideas gan Lee Sharma yn 2015 ar ôl gweld y rhwystredigaethau y mae busnesau newydd a sefydliadau sy'n bodoli eisoes yn eu hwynebu wrth iddynt ymdrin â syniad newydd drwodd i'w weithredu. Ers hynny, mae'r cwmni wedi datblygu llwyfannau meddalwedd-fel-gwasanaeth B2B a Phroses Busnes fel Gwasanaeth sy'n seiliedig ar gwmwl. Mae eu cynhyrchion wedi cael eu defnyddio fel enghraifft o arfer gorau gan rai fel Huffington Post, Forbes a Business Insider.

Dewiswyd y cwmni y llynedd fel un o "Ddwsin Digidol" Innovation  Point. Y rhain yw'r deuddeg busnes technoleg newydd mwyaf disglair yng Nghymru sydd ar y trywydd iawn i ddarparu trosiant cyfunol o dros £100 miliwn y flwyddyn erbyn 2020. Mae’r cwmni hefyd wedi bod yn rhan o raglen Entrepreneurial Spark a ariennir gan NatWest a Rhaglen Twf Cyflymedig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lee Sharma: "Rydym bellach mewn byd lle mae'n hanfodol cael meddylfryd creadigol ac arloesol. Mae ein technoleg yn datgloi ymddygiad entrepreneuraidd unigolion, sefydliadau a chymunedau trwy ddod â phobl at ei gilydd yn ddigidol. Mae hyn yn agor y mynediad at adnoddau, syniadau ac atebion sydd heb eu canfod o'r blaen tra'n pontio'r bwlch rhwng diwydiant a'r academia yn ddi-dor."

Gyda chymorth y cronfeydd hyn a'r grŵp buddsoddwyr gwych y tu ôl i ni, byddwn yn parhau i dyfu ein cyfran o'r farchnad ac yn atgyfnerthu ein sefyllfa rhwng y diwydiant a'r byd academaidd. Ein nod yw dod yn ddewis 'de facto' ar gyfer sefydliadau sy'n chwilio am ffordd symlach o gefnogi arloesedd cyfnod cynnar."

Ochr yn ochr â'r angel arweiniol Ashley Cooper - a wnaeth hefyd gymryd rhan yng nghylch cyllid sbarduno'r cwmni yn 2015 - mae buddsoddwyr yn y rownd ddiweddaraf yn cynnwys: ei gyd-sylfaenydd ar gyfer Catalyst Growth Partners Philip Roberts; yr entrepreneuriaid arbed ynni Andrew Diplock a Gruff Dodd; entrepreneur technoleg diwydiannol a sylfaenydd Sunnybarn Investments, Phil Buck; a Paul Teather o Pragmatica, arbenigwyr mewn Trawsnewid Digidol. Penodir Paul Teather ar y Bwrdd fel Buddsoddwr Gyfarwyddwr.

Meddai Ashley Cooper: "Mae arloesedd ac entrepreneuriaeth yn hanfodol i lwyddiant unrhyw economi. Mae'r gallu i gipio syniadau trwy gyfrwng dull cydweithredol ar draws rhanddeiliaid ac yna mynd ati i "dorf ffynonellu" yr ateb yn caniatáu i fusnesau dyfu ar gyfradd gynyddol. Mae cynnyrch Simply Do Ideas yn offeryn gwych i ysgogi a rheoli'r gweithgarwch arloesi hwn.

"Fe wnaethon ni ddod â grŵp o fuddsoddwyr Angel oedd "wedi bod yno, wedi gweld a chael y profiad" ac maen nhw i gyd wedi creu llwyddiant trwy gipio a thyfu syniadau arloesol. Mae'r grŵp hwn yn adlewyrchiad gwirioneddol o "Gyfalaf Call" sy'n dod ag arbenigedd a chyllid at ei gilydd i ysgogi twf busnes. Edrychwn ymlaen at helpu Simply Do Ideas i dyfu ar gyflymder."

Wrth sôn am y gweithgareddau codi arian diweddaraf, dywedodd Carmine Circelli, a arweiniodd y buddsoddiad ar gyfer Banc Datblygu Cymru: "Rydym yn falch o gefnogi Simply Do Ideas gyda'u parodrwydd ar gyfer twf cyflym. Mae gallu cipio arloesedd yn allweddol i unrhyw fusnes sy'n tyfu ac rydym yn edrych ymlaen at yr effaith y gall Simply Do Ideas ei gael ar dwf busnesau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae gan y grŵp buddsoddwyr yn Simply Do Ideas brofiad sylweddol rhyngddynt ac fe fydd hyn o fudd mawr."

Hefyd, fe restrodd Simply Do Ideas y cyfle buddsoddi ar y llwyfan buddsoddwyr ar-lein Angylion Buddsoddi Cymru, a hwylusodd gyflwyniadau buddsoddwyr angel ychwanegol, gan helpu'r busnes i godi mwy o arian. Ychwanegodd Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: "Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn falch o fod wedi chwarae rhan wrth ymgysylltu rhai o'r buddsoddwyr angel yn y rownd gyllido hon. Mae'n ffocws allweddol gennym ni i ddod â grwpiau angel a syndicadau at ei gilydd a'u datblygu er mwyn gallu cefnogi rhagor o'r busnesau rhagorol newydd a'r rhai sy'n tyfu yng Nghymru."

Hyd yn hyn, mae Simply Do Ideas wedi gweithio gyda dros 80 o sefydliadau gan gynnwys cleientiaid proffil uchel o feysydd addysg, gwasanaethau ariannol, elusennau a'r llywodraeth. Mae'n disgwyl chwyldroi sut mae addysg yn gweithio ymysg sefydliadau corfforaethol a sefydliadau cyhoeddus er mwyn cael effaith economaidd a chymdeithasol.