Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Business News Wales.
Mae sefydliadau mawr sy'n cynrychioli busnes o'r sector gyhoeddus a'r sector breifat wedi uno mewn cyfarfod diweddar yn Noc Penfro. Mae'r digwyddiad, sydd wedi'i gynllunio i ddatgloi'r potensial enfawr sydd gan Sir Benfro i'w gynnig ac sy'n cyflymu twf ar hyd a lled y rhanbarth, yn awr yn ceisio cynnwys busnesau a buddsoddwyr yn y sector breifat ar hyd a lled y sir.
Trefnwyd y thema gychwynnol 'Rhoi Sir Benfro ar y Map ’, gan yr aelod sylfaenwyr Cyngor Sir Benfro, Banc Datblygu Cymru, FfBB, Planed, Y Siambr Fasnach, Newyddion Busnes Cymru a Bombora Wave Power.
Wrth i'r sir ddechrau cyflymu ei strategaeth mewnfuddsoddi, mae ffurfio'r grŵp newydd hwn yn hwb mawr i'r rhanbarth.
Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys, sut y gall Sir Benfro ddenu mwy o fewnfuddsoddi, adeiladu rhwydwaith wasgarol newydd, datblygu cadwyni cyflenwi lleol a gwella strategaeth gyfathrebu Sir Benfro.
Mae cam nesaf y fenter bartneriaeth hon yn cynnwys dyblu cyfranogiad lleol o'r sector breifat a nodi pob llif buddsoddi posibl ar gyfer y rhanbarth.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y fenter hon gysylltu â mark@businessnewswales.com.
Dywedodd y Cynghorydd Syr Paul Miller, Aelod Cabinet dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant:
“Rydw i'n awyddus iawn dros y 12 mis nesaf i ail osod perthynas y Cyngor gyda'r gymuned fusnes a datblygu fforwm adeiladol newydd lle gallwn gyfarfod, ymgysylltu a chydweithio i gyflawni'r twf economaidd sydd ei angen ar Sir Benfro. Rydym yn gwneud ymrwymiadau mawr fel gweinyddiaeth tuag at Ddatblygu Economaidd ac Adfywio a bydd ymgysylltu'n rhagweithiol â busnes yn chwarae rhan fawr o ran gwneud ein buddsoddiad yn llwyddiant fel y mae angen iddo fod.”
Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru:
“Croesawodd y banc datblygu'r cyfle i gynnal trafodaeth mor fywiog â'r gymuned fusnes leol gyda'r nod o roi Sir Benfro ar y map. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi busnesau ar hyd a lled Cymru ond mae ein dull gweithredu wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion busnesau unigol. Gyda thîm pwrpasol yng Ngorllewin Cymru yn Nafen, rydym yn awyddus i ehangu ein gwaith gyda chyflogwyr lleol, Cyngor Sir Benfro a chefnogi sefydliadau fel Canolfan Arloesedd y Bont i sicrhau y gallwn gefnogi busnesau Sir Benfro a'u helpu i gyrraedd eu potensial twf.”
Meddai Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach:
“Mae'r sgwrs hon yn bwysig iawn nid yn unig i ddatblygu economi Sir Benfro ond hefyd i ddiffinio ei chyfraniad i economi ehangach Cymru. Mae cyfoeth o gyfleoedd a photensial ar gyfer datblygu busnes a'r economi yn y sir. Fodd bynnag, yr hyn a oedd yn glir o'r drafodaeth o amgylch y bwrdd yw'r angen am well cysylltiad ac ymdrech gyfunol i ddiffinio 'Sir Benfro' lle y gallwn i gyd gasglu i werthu'r sir i'r byd a chreu hyder i ddatblygu ein busnesau sydd wedi tyfu gartref. Roedd tystiolaeth amlwg o'r uchelgais honno ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid fel y Cyngor a Banc Datblygu Cymru ac eraill i fanteisio ar y cyfle i ddatblygu hyn”.
Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr, PLANED:
“Yn ogystal â chael dadl fywiog, roedd yn wych gweld cytundeb ar y camau nesaf amlwg yn Sir Benfro. Byddwn yn cysylltu â busnesau ar draws y sir ac yn gofyn iddynt beth sydd ei angen arnynt a beth y gallant ei wneud i helpu eraill yn ymarferol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad ydym yn sefydlu siop siarad arall ond bod y fforwm hwn yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau yn Sir Benfro”.
Dywedodd Mark Powney, Rheolwr Gyfarwyddwr, Newyddion Busnes Cymru:
“Ar ôl cael fy magu yng Ngorllewin Cymru, mae gen i ddealltwriaeth dda o'r heriau y mae'r ardal yn eu hwynebu. Rwyf hefyd yn teimlo'n gyffrous ynghylch y potensial. Mae gan Sir Benfro lawer iawn o Bwyntiau Gwerthu Unigryw (PGU) ac mae'n wych bod yn rhan o fenter mor uchelgeisiol. Mae gan y rhanbarth lawer i fod yn falch yn ei gylch ac rwy'n edrych ymlaen at chwarae fy rhan wrth adeiladu ar gyfathrebu blaengar a seilwaith cyfryngau lleol”.
Dywedodd Chris Williams, Rheolwr Masnachol, Bombora Wave Power:
“Fel cwmni technoleg arloesol sy'n sefydlu ein hunain yn Sir Benfro, rydym yn hynod falch o'r gefnogaeth leol yr ydym wedi'i chael a'r gallu a'r brwdfrydedd yn y gadwyn gyflenwi leol. Gydag ymrwymiad i greu busnes cynaliadwy hir dymor yn Noc Penfro a chyda llawer o'n gweithwyr newydd yn dod o'r Sir, rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi Menter Sir Benfro i greu canolfan lewyrchus a ffyniannus ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy”.
Dywedodd Richard Easton, Swyddog Portffolio, Banc Datblygu Cymru:
“Mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi busnesau Cymru gyda'u cynlluniau twf trwy ddarparu cyllid a chyngor sydd wedi'u strwythuro'n briodol. Mae gennym dîm cryf o Swyddogion sy'n cwmpasu Gorllewin Cymru sydd wedi cael eu geni a'u magu yn Sir Benfro, rwyf innau'n awyddus i ddarparu cymaint o fewnbwn a chefnogaeth ag y gallaf i helpu'r economi leol i dyfu a ffynnu. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda'r sefydliadau eraill i helpu i roi ‘Sir Benfro ar y Map’ ac i gefnogi cynifer o fusnesau â phosibl dros y blynyddoedd nesaf".