Banc Datblygu Cymru yn adrodd ar ganlyniadau hanner blwyddyn ar gyfer 2020

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
gareth bullock

Buddsoddwyd £137 miliwn mewn cwmnïau Cymreig gan Fanc Datblygu Cymru yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill a Medi 2020, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan gwmni buddsoddi Cymru heddiw.

Mewn chwe mis rhyfeddol, buddsoddwyd cyfanswm o £137 miliwn mewn rhyw 1500 o gwmnïau gyda Chynllun Benthyciad Busnes COVID -19 Cymru yn cyfrif am ddwy ran o dair o'r buddsoddiad £92 miliwn ar draws 1334 o fusnesau.

Yn ogystal, buddsoddwyd £45 miliwn mewn tua 200 o fuddsoddiadau, sy'n gymharol â lefelau'r buddsoddiad a welwyd y llynedd. Mae trosoledd y sector preifat ar y ffigur hwn yn £27 miliwn.

Gyda hyder busnesau bach a chanolig Cymru wedi bod ar eu lefel isaf erioed yn ystod y cyfnod gyda 66% o BBaCh Cymru yn gweld cwymp mewn trosiant a 31% naill ai heb arian wrth gefn neu ddim ond digon am dri mis, mae Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru,Giles Thorley yn credu fod cefnogaeth barhaus i fusnesau yn hanfodol. Meddai: “Fe fu’n chwe mis rhyfeddol, ond mae’n fusnes fel arfer o ran benthyciadau ac ecwiti. Defnyddiwyd tua £45 miliwn i gefnogi busnesau micro, technoleg ac eiddo ynghyd â chynllunio olyniaeth a thwf. Roedd y busnesau newydd ddechrau fel cyfran o’r micro-fenthyciadau wedi mwy na dyblu o 18% yn 2019 i 40% yn 2020 a buddsoddwyd £23.4 miliwn, dros hanner ein cyllid busnes fel arfer, i mewn i 58 prosiect eiddo gyda saith bargen dros £1 miliwn.

“Roedd buddsoddiad ecwiti gwerth cyfanswm o £8 miliwn yn cynnwys bron i £5 miliwn ar gyfer busnesau technoleg gyda deg buddsoddiad mewn deg wythnos ar anterth y cyfnod clo. Ymhlith yr uchafbwyntiau nodedig eraill yn ystod y cyfnod mae ein hymadawiad o Glamorgan Telecom wedi iddo gael ei gaffael gan Onecom a pherfformiad cryf yr holl gronfeydd eiddo, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer DS Properties fel datblygwyr y Goods Shed yn Y Barri.

“Mae argaeledd Benthyciadau Bownio Nôl, CBYBCC a Chynllun Benthyciad Busnes Covid -19 Cymru wedi siapio llif bargeinion gyda’r sectorau hamdden, lletygarwch, cyfanwerthu ac adeiladu wedi cael eu taro’n arbennig gan y pandemig. Adlewyrchir hyn yn y ceisiadau am ein cymorth ariannol a'i dderbynwyr.

“Fodd bynnag, mae’r chwe mis diwethaf wedi dangos pa mor gadarn ac ystwyth yw perchnogion a mentergarwyr busnes Cymru; maent wedi dod o hyd i gyfleoedd mewn adfyd, wedi gwyrdroi modelau busnes yn gyflym a sicrhau marchnadoedd newydd pwysig.

Ychwanegodd Gareth Bullock, Cadeirydd Banc Datblygu Cymru: “Mae'r canlyniadau hanner blwyddyn hyn yn dangos i ni bwysigrwydd cefnogaeth barhaus i BBaCh Cymru a'u gweithwyr a dyna pam rwyf mor ddiolchgar i'n tîm am wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi ein cwsmeriaid trwy rai o'r adegau mwyaf heriol y mae ein heconomi a'n cymdeithas wedi'u hwynebu erioed. Mae ein canlyniadau hanner blwyddyn yn dangos graddfa enfawr popeth a gyflawnwyd.

“Wrth gwrs, mae’r ffordd o'n blaenau yn parhau i fod yn un anodd gyda rhagolygon y bydd yr economi yn crebachu ymhellach, ond rydym yn parhau i fod yn gadarn gyda'n cefnogaeth i fusnesau Cymru a’r rhai sydd am fuddsoddi yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni helpu i lywio ein dyfodol economaidd gan ddefnyddio ein gwahanol gronfeydd i ategu unrhyw gymorth ychwanegol gan gynlluniau llywodraeth y DU.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Ken Skates: “Mae’r ffigurau hyn yn dangos y rôl hanfodol y mae’r Banc Datblygu wedi’i chwarae wrth gefnogi busnesau Cymru trwy flwyddyn anhygoel o anodd.

“Yng Nghymru rydym wedi rhoi’r pecyn cymorth mwyaf hael ar waith i fusnesau unrhyw le yn y DU er mwyn eu helpu i ddelio â heriau’r pandemig coronafirws ac ni ellir tanamcangyfrif rhan y Banc Datblygu yn hynny o beth. Yn ôl ym mis Ebrill, derbyniodd Cynllun Benthyciad Busnes Covid -19 Cymru fwy na 1,500 o geisiadau mewn wythnos, a diolch i waith caled y tîm yn y Banc Datblygu, cymeradwywyd y benthyciadau cyntaf cyn pen tridiau ar ôl lansio'r gronfa - gan sicrhau bod busnesau yn cael cymorth ariannol pan roeddynt ei angen fwyaf.

“Hoffwn ddiolch i Fanc Datblygu Cymru am bopeth maen nhw wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i ddarparu’r cymorth, yr arweiniad a’r gefnogaeth ariannol sydd eu hangen ar fusnesau Cymru i amddiffyn a chreu swyddi yn ogystal â datblygu a ffynnu. Bydd eu gwaith yn parhau i fod yn hanfodol wrth i ni wella ac ailadeiladu ar ôl y pandemig.”