Banc Datblygu Cymru yn agor Pencadlys Wrecsam

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wrexham office opening

Mae Banc Datblygu Cymru yn agor ei bencadlys newydd yn Wrecsam heddiw (dydd Gwener 14 Medi) ym Mhentref Busnes Iâl yn y Parc Technoleg.

Gyda swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaerdydd a Llanelli, mae'r Pencadlys newydd yn cefnogi strategaeth lleoliad Cymru gyfan y Banc i wasanaethu busnesau ar hyd a lled y wlad.

I ddechrau, bydd 23 o staff y Banc yn cael eu lleoli ym Mhencadlys Wrecsam, ond disgwylir y bydd hyn yn dyblu i fwy na 50 erbyn 2021. Bydd gweithwyr yn elwa o gael swyddfeydd sydd wedi'u hailwampio'n llawn a gynlluniwyd i hyrwyddo gweithio ystwyth mewn amgylchedd hyblyg a chynhyrchiol.

Bydd y Cyfarwyddwr Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol Neil Maguinness yn seiliedig yn y Pencadlys (PC) newydd, a fydd hefyd yn darparu sylfaen reolaidd i'r Prif Weithredwr Giles Thorley yn ogystal ag uwch staff eraill, gan gynnwys y David Staziker, y Cyfarwyddwr Cyllid, sydd newydd gael ei benodi ynghyd â Swyddogion Buddsoddi newydd. Bydd hanner yr holl gyfarfodydd bwrdd yn cael eu cynnal yn Wrecsam.

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr y Banc Datblygu: "Rwyf wrth fy modd bod pencadlys Wrecsam bellach yn agored i fusnes.

"Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhoi ffocws ar gryfhau economïau rhanbarthol Cymru. Er ein bod wedi gwella ein hygyrchedd ar-lein, mae busnesau'n dal i ddweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi'r cyswllt wyneb yn wyneb sy'n digwydd wrth gael timau ar lawr gwlad.

"Dyna pam yr ydym wedi bod yn cynyddu ein gweithrediadau yng Ngogledd Cymru dros y flwyddyn ac rydym yn parhau i weld uchelgais a'r awydd am fuddsoddiad ymysg busnesau yn y rhanbarth, gyda chefnogaeth cymuned fusnes fywiog.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Bron i ddwy flynedd yn ôl fe wnes i nodi fy uchelgais i bencadlys Banc Datblygu Cymru gael ei leoli yng Ngogledd Cymru felly rwy'n falch iawn fy mod yn awr yn agor y swyddfeydd newydd yn y Parc Technoleg yn Wrecsam yn ffurfiol.

"Mae'r pencadlys newydd yn dangos fy mod yn benderfynol y bydd y banc datblygu wirioneddol yn gwasanaethu Cymru gyfan. Fe fydd yn bartner pwysig, gan weithio'n agos â Busnes Cymru, gyda'n gwaith o gryfhau economïau rhanbarthol Cymru wrth ddarparu 50 o swyddi o safon uchel yng Ngogledd Cymru. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod y banc yn darparu'r effeithlonrwydd gweithredol gorau o'i fath, wrth ddarparu busnesau yn y rhanbarth gyda'r cyswllt wyneb yn wyneb y gwyddom eu bod yn ei werthfawrogi."