Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi yn nhwf busnes sy’n gwneud cawsiau â llaw

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
castell gwyn

Mae’r gwneuthurwr, Jackie Whittaker o Castell Gwyn Limited, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei chaws, yn ehangu ei busnes gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru yn dilyn buddsoddiad o £13,000 yn ei micro-laethdy.

Mae’r micro-fenthyciad gan y Banc Datblygu yn golygu y bydd Jackie, sy’n caru caws ac yn beirniadu caws yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol yn rheolaidd, yn prynu cawsellt 500 litr a gwasgwr caws a fydd yn ei galluogi i gynhyrchu mwy o gawsiau meddal yn ogystal â dechrau cynhyrchu cawsiau caled.

Mae Castell Gwyn yn cyflenwi delis lleol, siopau caws arbenigol, siopau fferm a bwytai, gan gynnwys Gwinllan Conwy Vinyard a bistro Bryn Williams ym Mhorth Eirias. Mae ei chawsiau sydd wedi ennill sawl gwobr hefyd ar gael ar-lein.

Eglura Jackie Whittaker: “Rwyf wedi bod yn cynhyrchu ac yn gwerthu caws ers rhai blynyddoedd bellach. Dechreuais yn y Ganolfan Technoleg Bwyd ar Ynys Môn, cyn rhentu llaethdy yn Llandudno.  Erbyn hyn, rydw i wedi adeiladu micro-laethdy pwrpasol. Fy ngweledigaeth o’r cychwyn cyntaf oedd adeiladu llaethdy fy hun ac i Gastell Gwyn ddod yn frand adnabyddus.

“Rwy’n cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau ffres taenadwy blasus sydd wedi ennill sawl gwobr.  Mae ffresni’r llaeth, sy’n cael ei gasglu gan ein cyfeillion ym Llaethdy Mostyn, a’r ffaith ei fod yn llaeth o wartheg croes-jersey yn gwneud caws Castell Gwyn yn gynnyrch moethus dros ben  ̶  mae hyn hefyd yn helpu i gadw ein milltiroedd bwyd yn isel iawn.  Rydyn ni’n gweithredu safonau iechyd amgylcheddol uchel. Rydyn ni eisoes wedi derbyn sgôr hylendid bwyd 5* gan Gyngor Sir Ddinbych, ac rydyn ni hefyd wrthi’n cael achrediad Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol (SALSA)

“Gan fod fy nghawsiau meddal â blas arnynt wedi bod yn gymaint o lwyddiant, teimlaf ei bod hi’n amser perffaith i mi dyfu’r busnes. Ond, allwn i byth â dychmygu gwneud hynny heb gefnogaeth gan y Banc Datblygu a’r cawsellt 500 litr.  Mae eu cyllid yn fy helpu i ddatblygu’r busnes i fod yn un a all gystadlu’n genedlaethol ac mae’r cymorth rwyf wedi’i gael wedi bod yn amhrisiadwy. Rwy’n falch bod ganddyn nhw ffydd yn fy musnes a’i botensial.”

Dywedodd Alex Baines, Swyddog Gweithredol Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae gan Jackie yr angerdd a’r egni i droi ei chariad at gaws yn fusnes llwyddiannus sy’n arddangos y cynnyrch lleol gorau sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig. Mae ein cyllid micro-fenthyciad yn golygu bod ganddi’r cyfleusterau a’r capasiti i ddatblygu’r busnes a photensial gorau posib am dwf.”

Mae Cronfa Micro-fenthyciadau Cymru, sy’n werth £30 miliwn, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda’r telerau ad-dalu’n amrywio o un i ddeng mlynedd. Gall busnesau bach, unig fasnachwyr a mentrau cymdeithasol yng Nghymru, neu sy’n fodlon symud i Gymru, wneud cais.