Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi yn yr arloesydd taliadau symudol Yimba

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Yimba

Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi £250,000 yn Yimba, platfform amlgyfrwng a marchnata fintech sy'n galluogi banciau i wahaniaethu eu cynnig waled symudol a chynhyrchu mewnolwg newydd i ddefnyddwyr trwy uwch dechnoleg.

Bydd y buddsoddiad, y disgwylir iddo hefyd gynhyrchu dros 50 o swyddi fintech newydd, yn cyflymu galluoedd Yimba i helpu banciau a fintechiaid i wella profiad cwsmeriaid gyda chardiau talu wedi'u personoli a waledi digidol, a alluogir gan ei blatfform technoleg sy'n darparu cysylltiad â'r rhwydwaith taliadau digidol 'caeedig'.

Mae darpariaeth Yimba ar gyfer datrysiadau cost isel a chynnal a chadw isel yn ei gwneud yn syml i ddatblygwyr integreiddio â’i wasanaethau, gan droi cost waledi digidol yn ffrwd refeniw ychwanegol gyda dim ond pum llinell cod.

Dywedodd Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Yimba, Robert Dowd, a arferai arwain y strategaeth a'r dechnoleg arloesol ar gyfer nifer o sefydliadau gwasanaethau ariannol sglodion glas gan gynnwys American Express, Barclaycard a Worldpay: “Mae waledi symudol fel Apple Pay yn tyfu o ran mabwysiadu ond mae ymchwil yn dangos bod personoleiddio yn hanfodol o ran llwyddiant marchnata digidol. Er bod cwsmeriaid eisiau cael cynnwys cymhellol a phrofiad wedi'i bersonoli, nid yw apiau talu ac ariannol yn cwrdd â disgwyliad defnyddwyr ar hyn o bryd.

“Mae Yimba yn darparu ‘cysylltedd cyffredinol ’ar draws yr ecosystem daliadau. Gall ein partneriaid gael gafael ar atebion sydd o fudd iddynt yn unigol a'u cwsmeriaid hefyd; ac mae'n helpu defnyddwyr i ymgysylltu â chynhyrchion bancio digidol trwy wella profiad  cwsmer unrhyw waled ddigidol, un gydran ar y tro.

“Mae cyllid ecwiti gan y Banc Datblygu wedi rhoi cyfalaf gweithio mawr ei angen i ni heb orfod poeni ynghylch gwneud ad-daliadau am fenthyciad, felly gall yr holl fuddsoddiad fynd tuag at gyflawni ein cynlluniau twf. O brofiad blaenorol, gwn mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o alluogi twf cyflymach a chreu gwerth yn y tymor hir tra hefyd yn sicrhau cefnogaeth buddsoddwr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â ni i gyflawni ein gweledigaeth.”

Mae David Blake yn Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: “Mae'r defnydd cynyddol o ddyfeisiau symudol ar gyfer taliadau a marchnata ynghyd â safon y tîm hynod brofiadol yn golygu bod Yimba wedi bachu sylw'r gymuned o fuddsoddwyr a darparwyr waledi fel Apple Pay.

“Fel busnes sy'n dechrau o'r newydd ar ddatblygu technoleg yn y sector fintech, mae Yimba yn gyfatebiad delfrydol ar gyfer buddsoddiad o'n cronfa sbarduno technoleg ac rydym yn falch iawn o groesawu'r tîm i'n portffolio. Mae hon yn fenter dechnoleg sy'n werth cadw llygad arni ac rydym yn falch y bydd eu canolfan ger Wrecsam a Chaer yn galluogi'r tîm i fanteisio ar y canolbwynt bancio ac ariannol yn y Gogledd Orllewin.”