Mae Banc Datblygu Cymru yn nodi ei flwyddyn weithredu lawn gyntaf trwy gyhoeddi ei fod wedi cael effaith o £156m ar economi Cymru yn ystod y cyfnod.
Sefydlwyd y banc datblygu, a grëwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, i lenwi'r bwlch cyllido rhwng y cyllid sydd ei angen ar fusnesau Cymru a'r hyn y mae'r farchnad yn ei ddarparu.
Flwyddyn yn ddiweddarach wedi'r digwyddiad lansio proffil uchel yng Ngwesty’r Exchange Hotel, mae'r banc datblygu wedi buddsoddi £72m i mewn i 344 o fusnesau, sy'n gynnydd o 24% yn ystod blwyddyn olaf ei ragflaenydd Cyllid Cymru. Yn ei dro, mae hyn wedi denu £84 miliwn mewn buddsoddiad preifat gan fuddsoddwyr megis y Wealth Club, HSBC Ventures a Wesley Clover.
Bu'n flwyddyn gyntaf brysur i'r banc, sydd hefyd wedi lansio rhwydwaith angylion busnes newydd, Angylion Buddsoddi Cymru a Dirnad Economi Cymru, sy'n gydweithrediad ymchwil gydag Ysgol Fusnes Caerdydd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Y mis diwethaf cwblhawyd symud ei bencadlys i Barc Technoleg Wrecsam gan ychwanegu 18 o aelodau newydd o staff at dîm Gogledd Cymru, allan o gyfanswm gwir nifer o 30 ar draws Cymru.
Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: "Mae blwyddyn gyntaf Banc Datblygu Cymru wedi dangos cynnydd da, gan wneud Cymru yn lle deniadol i fusnesau micro a chanolig i godi'r cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.
"Rydw i'n arbennig o falch, fel buddsoddwr ecwiti a thechnoleg gweithredol, ein bod wedi helpu Caerdydd i lwyddo i gyrraedd safle rhif 18 o ran mantais ecwiti ar y Traciwr Ecwiti Busnesau Bach.
"Ein blaenoriaeth yw parhau i gynyddu'n graddfa tra'n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gwych i'n cwsmeriaid. Rydym yn buddsoddi yn ein trawsnewidiad digidol ac yn recriwtio ym mhob rhanbarth o Gymru, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r rhyngweithiad wyneb yn wyneb y gwyddom fod ein cwsmeriaid yn ei werthfawrogi."
Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"O sefydlu ei bencadlys yn Wrecsam i lansio mentrau newydd fel Angylion Buddsoddi Cymru, 'does dim amheuaeth fod Banc Datblygu Cymru wedi cyflawni pethau enfawr yn ystod ei flwyddyn gyntaf, gan gefnogi busnesau o bob cwr o Gymru i dyfu a ffynnu.
"Fe wnes i sefydlu'r Banc Datblygu achos roeddwn i eisiau ei gwneud hi'n llawer haws i fusnesau gael mynediad at yr arian sydd ei angen arnynt i ddechrau ac i ehangu. Gan weithio ochr yn ochr â Busnes Cymru a phartneriaid eraill, mae hyn wedi galluogi i gyngor a chyllid amserol gael ei ddarparu mewn ffordd syml ac effeithiol ac, yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cynllun Gweithredu Economaidd, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud wrth gefnogi Busnesau Cymru o bob maint, gan gryfhau ein heconomïau rhanbarthol a chenedlaethol yn y broses.
"Llongyfarchiadau i'r Banc Datblygu ar flwyddyn gyntaf wirioneddol ffyniannus a hir y pery ei lwyddiannau pellgyrhaeddol.”
Mae dau o'r busnesau sydd wedi elwa ar fuddsoddiad, sef Nutrivend sy'n gwmni peiriannau gwerthu yn seiliedig yn Ne Cymru, a Meithrinfa Ddydd Homestead yn Wrecsam.
Mae Nutrivend wedi bod yn cyflenwi peiriannau gwerthu maeth chwaraeon ar gyfer campfeydd, canolfannau hamdden a phrifysgolion o Lanelli i Aberdeen ers 2012.
Derbyniodd y cwmni, sydd wedi'i leoli ym Mharc Busnes Llantrisant ym Mhont-y-clun, gyfanswm o £675,000 o fuddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn cynyddu'r twf yn dilyn buddsoddiad micro-fenthyciad a buddsoddiad angel busnes gwerth £50,000 trwy gyfrwng Angylion Buddsoddi Cymru.
Meddai Scott Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Nutrivend: "Fel BBaCh, waeth pa mor dda yw'ch cysyniad busnes, mae angen cyllid arnoch i allu tyfu'n gyflym. Roedd y gefnogaeth gan y banc datblygu yn ein galluogi i weithredu seilwaith cenedlaethol gyda systemau cadarn, ac ni allem fod wedi gwneud hynny heb eu cefnogaeth.
"Mae'n sicr wedi ein galluogi i fod yn broffidiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac i barhau i ehangu ar gyfradd heb ei debyg."
Roedd Nutrivend yn y chweched safle 50 Twf Cyflym Cymru 2017 ac mae'n gobeithio cyrraedd safle uwch eleni wedi i'r trosiant gynyddu 433% yn ystod y cyfnod cymhwyso. Yn 2017-18, roedd y trosiant yn £4m ac fe ragwelir y bydd yn £5.5m yn 2018-19, gan ddangos sut y gall buddsoddiad gan y Banc Datblygu Cymru gefnogi busnesau sy'n tyfu.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Meithrinfa Homestead yng Ngresffordd, ger Wrecsam wedi gweld y feithrinfa yn cynyddu cynhwysedd o 27%. Bellach mae'n cynnig addysg Hawl Cynnar i blant cyn ysgol ac mae wedi ehangu ei ddarpariaeth ar gyfer plant dros 3 oed trwy adeiladu dau gaban pren a datblygu ei safle yn Ysgol y Goedwig.
Dywedodd Kim Jones, cydberchennog Meithrinfa Homestead: "Roeddem angen y benthyciad gan y Banc Datblygu Cymru o achos roedd ein banc ni eisiau rhannu rhan o'r cyllid er mwyn lleihau eu risg hwy. Hebddo, ni fyddem wedi gallu prynu'r rhydd-ddaliad ar ein busnes."
Cerrig Milltir Allweddol ym mlwyddyn gyntaf Banc Datblygu Cymru:
- Hydref 2017 - Lansio Banc Datblygu Cymru
- Mawrth 2018 - Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi £68m yn y flwyddyn ariannol 2017-18
- Mai 2018 - Lansio Angylion Buddsoddi Cymru a Chronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru o £8m
- Mai 2018 - Lansio Dirnad Economi Cymru
- Medi 2018 - Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi £33m hanner ffordd trwy blwyddyn ariannol 2018-19
- Hydref 2018 - buddsoddwyd £71 miliwn (+ 24%) i mewn i 344 (+ 23%) o fusnesau yn ystod y 12 mis cyntaf o'i gymharu â'r £58 miliwn a fuddsoddwyd i mewn i 279 o fusnesau y flwyddyn flaenorol.