Banc Datblygu Cymru yn cefnogi CCC llwyddiannus BiVictriX Therapeutics ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Tiffany Thorn, CEO and founder of BiVictriX

Mae BiVictriX Therapeutics (AIM: BVX), cwmni biotechnoleg sy'n dod i'r amlwg sy'n defnyddio dull newydd i ddatblygu therapïau canser y genhedlaeth nesaf gan ddefnyddio mewnwelediadau sy'n deillio o brofiad clinigol rheng flaen, wedi rhestru'n llwyddiannus ar farchnad fuddsoddi amgen (MBA) Cyfnewidfa Stoc Llundain heddiw, gan godi £10 miliwn o'i gynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC).

Mae gan ddull gweithredu arloesol ‘manwl’ BiVictriX o drin canser y potensial i ddarparu piblinell eang o therapiwteg perchnogol, Bi-Cygni® cyntaf yn ei ddosbarth i alluogi’r potensial o uwch-ddosio a gwaredu â thiwmors mwy ymosodol mewn cleifion, heb achosi sgîl-effeithiau niweidiol. Trwy fynediad at dechnegau o’r radd flaenaf yn eu cyfleuster labordy yn Llanelwy, mae BiVictriX wedi nodi llyfrgell amrywiol o olion bysedd antigen sy’n benodol i ganser y gellir eu defnyddio i drin ystod eang o arwyddion canser. Mae prif ymgeisydd BiVictriX, BVX001, wedi’i gynllunio i ddarparu dull therapiwtig sy’n torri cwys cwbl newydd i gleifion â Lewcemia Myeloid Acíwt (LMA).

Fel cydran o'r CCC, bydd Iain Ross yn ymuno â'r bwrdd fel Cadeirydd, ynghyd â'r cyfarwyddwyr anweithredol profiadol Susan Lowther a Drummond Paris. Mae'r Athro Bob Hawkins, oncolegydd ac arloeswr biotechnoleg byd-enwog yn cwblhau'r bwrdd a bydd yn ychwanegu cefnogaeth wyddonol sylweddol. Mae'r prif fuddsoddwr presennol, Banc Datblygu Cymru, wedi prynu cyfran ychwanegol o £500,000 ac mae'n parhau fel cyfranddaliwr mwyaf y cwmni, gan ddal xx% o'r ecwiti.

Gyda rhestriad BiVictriX ar MBA, daw Tiffany Thorn, Prif Weithredwr 33 oed, yn un o Brif Weithredwyr benywaidd ieuengaf cwmni technoleg a restrwyd yn gyhoeddus yn y DU.

Dywedodd Prif Weithredwr a Sylfaenydd BiVictriX, Tiffany Thorn: “Mae hwn yn gam cyffrous i bob un ohonom yn BiVictriX. Bydd y dgiwyddiad codi arian hwn yn caniatáu inni gyflymu ein twf a hwyluso'r gwaith o ddatblygu a darparu ein therapiwteg canser cenhedlaeth nesaf, hynod ddetholus i gleifion sydd wedi'u diagnosio â rhai o'r canserau anoddaf i'w trin, sydd angen therapïau mwy effeithiol ar frys. Hoffem achub ar y cyfle hwn i gynnig ein gwerthfawrogiad diffuant a'n diolch i'n holl fuddsoddwyr cefnogol, hen a newydd, am eu cymorth i'n galluogi i gyflawni'r gwaith hanfodol hwn."

Ac yntau wedi derbyn buddsoddiad sbarduno i ddechrau yn 2016, mae BiVictriX wedi cael cefnogaeth dros rowndiau cyllido lluosog gan Fanc Datblygu Cymru.

Dywedodd Dirprwy Reolwr y Gronfa, Mike Bakewell: “Rydyn ni wedi gweithio gyda BiVictriX a Tiffany Thorn ers pum mlynedd, gan fuddsoddi cyllid ecwiti sbarduno yn ogystal â rowndiau dilynol wrth i’r cwmni ddatblygu ei ymgeisydd therapiwtig arweiniol. Rydym yn credu mewn bod yn bartner tymor hir i'n cwmnïau technoleg twf uchel. Mae BiVictriX yn datblygu dull gweithredu unigryw a fydd wirioneddol yn chwyldroi triniaeth canserau anodd eu hymladd fel LMA. Rydyn ni'n falch iawn o weithio gyda Tiffany a'r tîm wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf gyda'r rhestriad hwn ar MBA."

Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru: “Mae Tiffany a BiVictriX yn arwain y ffordd mewn ymchwil feddygol bwysig, yn ogystal â chwalu rhwystrau 'ystafell fwrdd' i fenywod mewn technoleg. Mae Tiffany yn Brif Weithredwr ac yn wyddonydd talentog iawn ac mae gan ddull gweithredu BiVictriX y potensial clir i ddatblygu triniaethau canser y genhedlaeth nesaf. Ar ôl sefydlu'r cwmni yn 28 oed, bum mlynedd yn ddiweddarach mae hi bellach yn un o'r Prif Weithredwyr benywaidd ieuengaf i restru ar yr MBA. Mae hi wirioneddol yn un sy'n torri cwysi newydd cyffrous. Fel buddsoddwr, rydym wedi ymrwymo i bartneriaethau tymor hir - fel ein perthynas â BiVictriX - a darparu cyfalaf amyneddgar i gefnogi cwmnïau o adeg sbarduno i restriad neu ymadawiad.”

BiVictriX yw'r pumed cwmni y mae tîm buddsoddiadau menter technoleg Banc Datblygu Cymru wedi'i gefnogi gyda'i restriad ar y MBA.
 

MAE'R CYHOEDDIAD HWN A'R WYBODAETH A GYNHWYSIR YNDDO YN GYFYNGEDIG AC NI DDYLID EI RYDDHAU, EI GYHOEDDI NA'I DDOSBARTHU, YN EI GYFANRWYDD NAC YN RHANNOL, YN UNIONGYRCHOL NEU'N ANUNIONGYRCHOL, YN, NEU I MEWN NEU O'R TALEITHIAU UNEDIG, AWSTRALIA, CANADA, (HEBLAW YN UNOL â CHYFREITHIAU DIOGELWCH CANADA), JAPAN NA GWERINIAETH DE AFFRICA NAC UNRHYW AWDURDODAETHAU ERAILL LLE BYDDAI HYN YN ANGHYFREITHLON. YN ATEGOL I HYNNY, MAE'R CYHOEDDIAD HWN AR GYFER DIBENION GWYBODAETH YN UNIG AC NID YW'N CYNNWYS CYNNIG I WERTHU NEU GYHOEDDI NA DEISYFU I BRYNU, NA CHAFFAEL FEL ARALL UNRHYW GYFRANDDALIADAU YN BIVICTRIX THERAPEUTIC PLC (Y "CWMNI") MEWN UNRHYW AWDURDODAETH LLE BYDDAI CYNNIG NEU GYFLEUSTER O'R FATH YN ANGHYFREITHLON.


 
Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn ffurfio nac yn rhan o, ac ni ddylid ei ddehongli fel cynnig i werthu neu gyhoeddi, neu ddeisyfiad o unrhyw gynnig i brynu neu danysgrifio ar gyfer unrhyw warantau, mewn unrhyw awdurdodaeth, gan gynnwys yn neu i mewn i Unol Daleithiau America (gan gynnwys ei thiriogaethau a'i meddiannau, unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau ac Ardal Columbia (yr "Unol Daleithiau" neu'r "UD"), Awstralia, Canada, Japan, Gweriniaeth De Affrica (pob un yn "Awdurdodaeth Gyfyngedig")  neu unrhyw awdurdodaeth arall lle i wneud hynny fod yn groes neu'n torri unrhyw gyfraith berthnasol ac ni ddylai hwn nac unrhyw ran ohono fod yn sail i unrhyw gontract neu ymrwymiad o gwbl, neu y gellir dibynnu arno mewn cysylltiad ag ef.


 
Ni ddylai buddsoddwyr ddefnyddio'r cyhoeddiad hwn fel sail ar gyfer unrhyw fuddsoddiad yng ngwarantau'r Cwmni y dylid ei wneud ddim ond ar sail gwybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen dderbyn (y "Ddogfen Derbyn") y bwriedir ei chyhoeddi gan BiVictriX Therapeutics plc (y "Cwmni" ac, ynghyd â'i is-ymrwymiadau, y "Grŵp", "BiVictriX") maes o law mewn cysylltiad â'r bwriad i dderbyn ei Gyfranddaliadau Arferol i fasnachu ar y farchnad MBA ("MBA") Cyfnewidfa Stoc Llundain ccc ( "Cyfnewidfa Stoc Llundain"), ("Derbyn"). Ar ôl ei gyhoeddi, bydd copïau o'r Ddogfen Dderbyn ar gael i'w harchwilio ar wefan y Cwmni yn fan hyn www.bivictrix.com.

 

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni