Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu Cymru yn cefnogi'r chwyldro cynhwysiant

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
ThinkEDI

Mae'r mentergarwyr benywaidd Sophie Mason a Merryn Roberts-Ward yn dechrau 'chwyldro cynhwysiant' gyda lansiad Ap sy'n sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Ap ThinkEDI yn coladu, mesur ac olrhain data amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’n ateb syml ac arloesol i amrywiaeth a chynhwysiant – gan gadw pobl wrth ei wraidd tra’n caniatáu i sefydliadau wneud penderfyniadau strategol mesuradwy y gellir eu gweithredu ar sail data caled. Mae’r Ap wedi’i ddatblygu gan WeGetDesign o Gaerdydd.

Mae gan y cyd-sylfaenwyr Sophie Mason a Merryn Roberts-Ward ill dau brofiad personol o’r gwahaniaethu a’r rhagfarn anymwybodol sy’n cael ei wynebu gan bobl anabl ynghyd ag arbenigedd helaeth mewn rheoli newid Adnoddau Dynol (AD) byd-eang. Fe wnaethant nodi bod yna gyfle i gael  digidol yn gyntaf sy'n cefnogi unigolion ac yn ei gwneud yn hawdd i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau gydymffurfio; cadw cwsmeriaid a doniau o'r radd flaenaf.

Fel aelodau o Fintech Cymru, mae ThinkEDI wedi’i leoli yn Welsh ICE ym Mharc Busnes Caerffili. Dywedodd y Cyfarwyddwr Sophie Mason: “Mae Economi’r DU yn unig yn gwario £127 biliwn ar hawliadau gwahaniaethu bob blwyddyn. Mae hynny tua £3800 y person mewn cyflogaeth. Dim ond mor bell y mae hyfforddiant a hyfforddi yn mynd a phan fydd camgymeriadau'n digwydd, mae diffyg cydymffurfio yn beth gostus.

“Fel defnyddiwr cadair olwyn crwydrol ac yn weithiwr proffesiynol rheoli newid AD, rwy’n deall y rhwystrau yn y gweithle o safbwynt cyflogai a chyflogwr. Bydd ap ThinkEDI yn dod ag enillion ariannol a chymdeithasol ar fuddsoddiadau i sefydliadau.

“Mae Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi cael ei weld yn y gorffennol fel rhywbeth sy’n rhoi pobol mewn bocs, dydyn ni ddim yn ei weld felly. Rydyn ni i gyd yn unigolion ag anghenion a phrofiadau unigryw. Mae angen ychydig o ddealltwriaeth a chefnogaeth arnom ni i gyd ar adegau. Gyda byd Deallusrwydd Artiffisial (DA) a globaleiddio yn bethau sy'n cynyddu'n barhaus , mae ThinkEDI yn sicrhau bod pobl yn aros wrth wraidd y newidiadau hyn.

“Mae’r cyllid gan y Banc Datblygu wedi ein galluogi i ddatblygu offer newydd a chyffrous ar gyfer yr ap, ac mae’n barod i fod o fudd i’n marchnad. Mae Merryn a minnau’n ddiolchgar am y gefnogaeth ac yn teimlo’n gyffrous ynghylch y cam nesaf ar ein taith.”

Dywedodd Claire Vokes, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu: “Fel hyrwyddwyr cynhwysiant, mae Sophie a Merryn yn rym go iawn. Maent wedi datblygu offeryn digidol arloesol sy'n symleiddio'r broses o reoli data cydraddoldeb. Eu stori mewn gwirionedd yw un o ymroddiad, gwydnwch ac agwedd benderfynol – sy’n torri rhwystrau i lawr a gosod safonau newydd. Mae’n fraint cael eu cefnogi.”

Fe ddaeth y micro fenthyciad ar gyfer ThinkEDI o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymreig gyda thelerau o hyd at 15 mlynedd.