Banc Datblygu Cymru yn cefnogi’r #LlaisAwards am y pedwaredd blwyddyn

Beverley-Downes
Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Busnesau technoleg

Mae Gwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes, neu’r #LlaisAwards fel mae’n cael ei adnabod, yn dathlu cyfraniad pwysig merched i’r byd busnes yng Nghymru. Mae’r Gwobrau Llais Cymru yn unigryw, yn ddigwyddiad cenedlaethol a dwyieithog sy’n dathlu busnesau o bob math ac o bob maint.

Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru sydd wrth wraidd y cyfan. Wedi lansio Mam Cymru, blogzine dwyieithog i hybu mamau Cymru nol yn 2017, cyhoeddi ei llyfr ‘Mam Croeso i’r Clwb’ gyda gwasg Y Lolfa yn 2018 ac yn fwy diweddar wedi cyfrannu ei stori a chefnogi Cylchgrawn Cara gyda’r gyfrol ‘Menopositif’ yn 2023, mae Heulwen yn angerddol iawn am gefnogi merched Cymru.

Prif noddwr y Gwobrau eto eleni yw Banc Datblygu Cymru. Wedi bod yn brif noddwr ers y dechrau maent yn falch o hybu merched busnes Cymru.

Dwedodd Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu, Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Heulwen unwaith eto, sy’n gweithio’n ddiflino i amlygu a dathlu llwyddiannau merched mewn busnesau Cymreig. 

“Mae’r Gwobrau Llais Cymru yn rhoi llwyfan I fodelau rôl ac arweinwyr i rannu eu profiad ar sut maent wedi goresgyn rhwystrau i fentergarwch ac wedi chwarae rhan bwysig wrth greu economi Gymreig gynhwysol. Mae Banc Datblygu yn hynod o angerddol ynghylch ein hymrwymiad i gefnogi merched mewn busnes ledled Cymru. 

“Mae gan tua thraean o’r busnesau rydyn ni’n eu cefnogi gyfarwyddwyr benywaidd, ffigwr rydyn ni’n benderfynol o barhau i gael effaith gadarnhaol arno.” 

Dwedodd Heulwen Davies, sylfaenydd Llais Cymru: “Yn Fam i lodes 11 oed ac yn un sydd wedi fy magu mewn teulu a chymuned o ferched cryf, dwi’n cael boddhad mawr o helpu ac ymbweru merched. Mae rhedeg busnes yn anodd i bawb, ond dwi’n credu ei bod hi’n anoddach i ferched. Pam? Mislif, beichiogrwydd, menopôs heb son am ddisgwyliadau cymdeithas. 

“Mae’r ffaith bod merched Cymru’n parhau i fynd amdani a chreu cyfleoedd i bobl eraill yn rhywbeth sydd angen ei ddathlu a’i genhadu, dyna’n union pam mae’r Gwobrau yma’n bodoli - i roi llais a llwyfan i’r holl ferched sy’n gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau Cymreig.”

Fel sefydliad sydd eisiau gweld mwy o ferched busnes yng Nghymru yn ystyried y farchnad ehangach, mae’r Adran Busnes a Masnach yn falch o gefnogi Gwobrau Llais Cymru am y tro cyntaf eleni.

Eleni eto mae categorïau sy’n cydnabod cyfraniad merched i feysydd amrywiol o wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg i gategorïau unigryw fel ‘Mam Mewn Busnes’. Categori newydd eleni yw ‘Pencampwr y Menopôs’;

Ychwanegodd Heulwen: “Fel un sy’n mynd trwy’r perimenopôs, gallai gadarnhau mai hwn yw’r her fwyaf ‘dwi wedi gwynebu yn fy mywyd ac yn y gwaith. Mae angen chwalu’r stigma a normaleiddio’r sgwrs o amgylch y pwnc, dyma pam rwy’n cyflwyno’r categori newydd yma eleni, i ddathlu’r cyflogwyr hynny sy’n cefnogi merched trwy’r menopôs ac i annog eraill i wneud mwy. Mae’r categori yn agored i’r rhai sy’n cefnogi staff trwy’r menopôs neu’n llwyddo i gynnal a thyfu busnes tra’n byw efo’r menopôs”.

Llynedd, derbyniwyd 4,328 o enwebiadau ar gyfer merched busnes o bob cornel o Gymru

Bydd enwebiadau #LlaisAwards 2024 yn fyw ac ar agor ar www.llaiscymru.wales o’r 8fed o Fawrth - Diwrnod Rhyngwladol Merched - a phen-blwydd Llais Cymru yn bedair oed! Dyddiad cau enwebiadau yw’r 8fed o Fehefin, gyda’r rhestr fer, sy’n nodi’r merched gyda’r nifer uchaf o enwebiadau, yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Bydd y ddwy sy’n dod i’r brig ym mhob categori yn cael eu gwahodd i’r noson wobrwyo arbennig yn yr Egin ym mis Medi.

Am fanylion pellach, cysylltwch a heulwen@llaiscymru.wales/