Beverley Downes

Yn gyfrifol am bobl a datblygiad, cyfathrebu, y brand, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfleusterau, mae Beverley yn chwarae rhan allweddol wrth lunio profiad cydweithwyr a rhanddeiliaid fel ei gilydd. Mae ei chylch gwaith yn dod â’n swyddogaethau pobl a chyfathrebu ynghyd, gan gefnogi dull mwy integredig o ymgysylltu, datblygu arweinyddiaeth, effeithiolrwydd sefydliadol a diwylliant.

Mae Beverley yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ledled y busnes, Llywodraeth Cymru, partneriaid a rhanddeiliaid i gryfhau perthnasoedd, cefnogi blaenoriaethau strategol a sicrhau bod Banc Datblygu Cymru yn parhau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i fusnesau a chymunedau ledled Cymru.

Y tu allan i’w rôl gyda Banc Datblygu Cymru, mae Beverley wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel is-gadeirydd WJEC CBAC Ltd, un o brif gyrff arholi Cymru a Lloegr, a bu’n cadeirio'r pwyllgor cydnabyddiaeth rhwng 2018 a 2022.