Banc Datblygu Cymru yn codi dros £53k i Alzheimer’s Research UK

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
tvi row

Mae Banc Datblygu Cymru wedi llwyddo i godi £53,705 i Alzheimer’s Research UK,  ei Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2019/20, dros gyfnod o 19 mis. Cafodd y cyfnod codi arian ei ymestyn am saith mis er mwyn gallu parhau i godi arian o bell yn sgil cyfyngiadau Covid 19.

Dechreuodd aelodau’r staff y gweithgaredd codi arian drwy berfformio fel côr a chynnal dawns môr-ladron yng Nghaerdydd ym mis Medi 2019, cynnal her beicio 24 awr yn y felodrome yng Nghasnewydd ym mis Hydref 2019 a chynnal cwis ym mis Chwefror 2020. Wrth i lawer o ddigwyddiadau codi arian wyneb yn wyneb gael eu canslo yn sgil y cyfyngiadau, daeth cydweithwyr at ei gilydd yn rhithwir; gan gymryd rhan mewn heriau heicio, rhwyfo a rhedeg megis Marathon Rhithwir Llundain.

Fel rhan o’r fenter Elusen y Flwyddyn, mae Banc Datblygu Cymru yn codi arian i elusen a enwebwyd gan aelod o staff. Cafodd yr elusen Alzheimer’s Research UK ei henwebu gan y Swyddog Buddsoddi Allison Routledge, a hon yw’r chweched elusen i gael ei dewis fel Elusen y Flwyddyn. Meddai Allison: “Fe wnes i enwebu Alzheimer’s Research UK fel elusen y flwyddyn ar gyfer ein cwmni gan y bu fy mam yng nghyfraith yn dioddef o’r clefyd creulon hwn am 10 mlynedd, a bu farw ohono ym mis Mehefin 2020.

“Er fy mod yn obeithiol o allu codi o leiaf cymaint â’r symiau blaenorol, rwyf fi ac, yn wir, y teulu cyfan, wedi cael ein syfrdanu gan y swm anferthol a godwyd i’r elusen haeddiannol hon.  Gwn y bydd yr arian hwn yn mynd gam o’r ffordd tuag at ddod o hyd i iachâd ar gyfer y cyflwr erchyll hwn sy’n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl.

“Diolch i bawb a fu’n codi arian, mewn amryw o ffyrdd arloesol dros yr 19 mis diwethaf, rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.”

Meddai Jo Emes, Rheolwyr Cyfrifon Alzheimer’s Research UK: “Dim ond drwy haelioni ac ymrwymiad ein cefnogwyr y gellir cyflawni gwaith Alzheimer’s Research UK. Rydym wrth ein bodd o weld swm mor anhygoel, a fydd yn helpu i hyrwyddo’r gwaith ymchwil hanfodol i drawsnewid bywydau pobl â dementia. Mawr yw ein diolch i bawb ym Manc Datblygu Cymru am eich ymdrechion rhagorol. Gyda’n gilydd fe lwyddwn i dorri tir newydd.”

Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl, yw elusen newydd y flwyddyn Banc Datblygu Cymru. Cafodd yr elusen Mind Cymru ei henwebu gan sawl cydweithiwr ar draws y cwmni. Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Elusennau Rebecca Rowden: “Cawsom sawl cais i roi Mind Cymru ar y rhestr fer ar gyfer Elusen y Flwyddyn eleni. Roedd yn amlwg o’r enwebiadau a gawsom fod pawb yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan broblemau iechyd meddwl a bod y problemau hyn wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod clo.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi dewis Mind Cymru fel ein helusen newydd. Drwy gefnogi’r elusen gyda’n gweithgareddau codi arian, gallwn ei helpu i fod ar ben arall y ffôn i’r rhai sydd mewn angen, codi ymwybyddiaeth o heriau iechyd meddwl a cheisio cael gwared ar y cyflyrau sy’n effeithio ar fwy nag un o bob pedwar ohonom ar unrhyw adeg.”

Meddai Lucy Lloyd, Uwch Swyddog Codi Arian Mind Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru am ein dewis fel elusen y flwyddyn. Yn ystod y pandemig hwn, mae miliynau ohonom wedi dioddef problemau iechyd meddwl, neu wedi gweld anwyliaid yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Dyna pam y mae angen ein cymorth ar bobl Cymru yn fwy nag erioed o’r blaen. Bydd yr ymwybyddiaeth a’r arian a godir gan Fanc Datblygu Cymru yn ein helpu i barhau i frwydro yn erbyn iechyd meddwl, sy’n golygu brwydro dros newid, tegwch, parch a chymorth sy’n newid bywydau.

Drwy ein gwasanaethau cymorth a’n rhwydwaith o 20 o ganghennau Mind lleol yng Nghymru, rydym yn darparu cymorth sy’n caniatáu i bobl â phroblemau iechyd meddwl fyw bywyd mor llawn â phosibl. Bydd y gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru yn ein helpu i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda staff Banc Datblygu Cymru dros y 12 mis nesaf.”

Meddai Sian Price, Rheolwr Ymchwil a Phartneriaethau Banc Datblygu Cymru: “Hon yw’r chweched flwyddyn i ni gynnal y fenter Elusen y Flwyddyn. Mae’n rhan hanfodol o’n strategaeth a’n diwylliant corfforaethol ac yn rhoi’r cyfle i’n cydweithwyr roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ehangach drwy godi arian at achosion sy’n agos at eu calonnau. Mae Alzheimer’s Research UK a Mind yn ddwy elusen bwysig iawn sy’n gwneud gwaith gwerthfawr drwy ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth o gyflyrau sy’n cael effaith fawr ar gynifer o’n cydweithwyr a’u teuluoedd. Rydym mor falch ein bod wedi llwyddo i godi bron i £180,000 i elusennau a enwebwyd gan y staff ers 2014 ac edrychwn ymlaen at barhau â’n hymdrechion dros y blynyddoedd nesaf.”