Banc Datblygu Cymru yn codi £19,000 ar gyfer elusen cefnogi profedigaeth

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
charity ball

Mae Banc Datblygu Cymru wedi codi dros £19,000 ar gyfer elusen y flwyddyn, 2 Wish Upon A Star, ar ôl noson o ddigwyddiadau a dawnsio yn ei ddawns elusennol flynyddol, a gynhaliwyd yn Stadiwm SWALEC.

Bob blwyddyn mae'r buddsoddwr yn ymroddi yr elw i'r elusen a gafodd ei dewis. Y llynedd, ar ffurf Cyllid Cymru, cododd y banc fwy na £35,000 i'w elusennau, gan gynnwys £31,000 ar gyfer elusen y flwyddyn - Y Sefydliad Ymchwil Clefyd Siwgr (Diabetes) i Bobl Ifanc (JDRF).

Eu helusen eleni yw 2 Wish Upon A Star. Fe'i sefydlwyd gan Rhian Burke i wella gwasanaethau profedigaeth ar hyd a lled Cymru, ac mae'r elusen yn gweithio i ddarparu cefnogaeth syth bin i rieni sy'n colli plentyn neu berson ifanc o dan 25 oed yn sydyn neu'n annisgwyl.

Dywedodd Rhian fod pawb yn yr elusen wrth eu bodd yn mynychu: "Cawsom noson wych yn ystod dawns elusen Banc Datblygu Cymru ac fe wnaethon gyfarfod pobl anhygoel. Rydym yn anelu at ddenu rhagor o gefnogaeth gorfforaethol, felly roedd hi'n wych rhwydweithio gyda chymaint o fusnesau dylanwadol a sefydledig.

"Rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar ein bod wedi cael ein dewis fel elusen y Flwyddyn ar gyfer Banc Datblygu Cymru, yn enwedig a ninnau'n dathlu ein pen-blwydd yn bump eleni! Mae'r arian a godir gan yr elusen yn mynd tuag at helpu'r rheiny sydd angen cymorth yn syth bin ac i wella'r cyfleusterau profedigaeth mewn ysbytai lleol ac adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

"Mae ein gwaith ni yn helpu pobl trwy eiliadau gwaethaf eu bywydau, ond dim ond os oes gennym ddigon o gyllid y gallwn wneud hynny. Mae partneriaethau fel hyn gyda Banc Datblygu Cymru yn hanfodol i'n strategaeth gefnogol."

Mae staff Banc Datblygu Cymru yn enwebu ac yn dewis eu helusen am y flwyddyn, bob blwyddyn yn eu hadolygiad diwedd blwyddyn ym mis Ebrill.

Meddai Emma Phillips, Rheolwr Gweithrediadau Buddsoddiadau Angylion Cymru ym Manc Datblygu Cymru, a enwebodd 2 Wish Upon A Star: "Mae Rhian a'r tîm yn 2 Wish yn ysbrydoledig wrth iddynt ddarparu cefnogaeth amhrisiadwy i bobl yn ystod un o'r adegau pan fyddant fwyaf bregus yn eu bywydau. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu codi dros £19,000 ar eu cyfer yn ein dawns elusennol. Edrychwn ymlaen at godi mwy ar eu cyfer dros y misoedd nesaf wrth i'r staff fynd i'r afael â nifer o wahanol heriau noddedig a threfnu digwyddiadau codi arian eraill. Rydym yn falch iawn o allu helpu'r elusen leol hon gyda'u gwaith."

Am ragor o wybodaeth neu i gefnogi'r elusen, gallwch ymweld â www.2wishuponastar.org.