Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi partner elusennol yr elusen iechyd meddwl bigmoose ar gyfer 2025/26; gyda £57,870 wedi'i godi ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon yn 2024/25

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Banc Datblygu Cymru wedi dewis yr elusen iechyd cymorth meddwl bigmoose sydd wedi'i lleoli yng Nghymru fel ei phartner elusennol ar gyfer 2025/26.

Mae’r grŵp wedi dechrau codi arian am bigmoose gyda digwyddiad llwyddiannus, ar ôl codi mwy na £25,000 gyda Dathliad Elusennol FW Capital yn St James Park, Castell Newydd.

Mae hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus o gefnogaeth i Sefydliad Prydeinig y Galon, lle cododd y Banc Datblygu £57,870 drwy gydol y flwyddyn – ei ail gyfanswm codi arian uchaf erioed – i helpu'r elusen yn ei nod o gefnogi diagnosis, triniaeth ac atal clefyd cardiofasgwlaidd.

Trefnodd cydweithwyr yn y Banc Datblygu, a'i is-gwmni FW Capital, nifer o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon, gan gynnwys cynnal dawnsfeydd elusennol yng Nghaerdydd a Newcastle; cymryd rhan yn ras gyfnewid pedair awr ar hugain Endure24 ar draws 315 milltir; a chyda thimau'n ymuno â Hanner Marathon Caerdydd, y Great North Run a'r Liverpool Santa Dash. Cymerodd aelodau unigol o'r tîm ran hefyd yn y West Highland Way Walk, Marathon Berlin a'r her Rhedeg/Cerdded/Beicio dros Galonnau 100 milltir.

Helpodd y digwyddiadau hyn, ynghyd â boreau coffi mewn swyddfeydd rhanbarthol a loteri staff misol, i godi £57,870 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon.

Bydd y Banc Datblygu yn codi arian ar gyfer bigmoose yn 2025/26. Wedi'i sefydlu gan y tîm tad a merch Jeff a Chloe Smith, mae bigmoose yn darparu therapi a chwnsela i'r rhai sy'n mynd trwy anawsterau gyda'u hiechyd meddwl, tra hefyd yn darparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i'r rhai sy'n edrych i helpu eraill.

Dywedodd Siân Price, a reolodd y bartneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon yn ystod 2024/25, ochr yn ochr â Donna Williams: “Rydym wedi cael blwyddyn wych o godi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon, gyda chydweithwyr o bob rhan o’r busnes yn cymryd rhan. Mae clefyd y galon a chylchrediad y gwaed wedi effeithio ar ein dau deulu, ac rydym wedi clywed gan lawer o gydweithwyr eraill sydd hefyd wedi cael eu heffeithio. Rydym mor falch o’r cyfanswm a godwyd ar gyfer yr elusen wych hon.”

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru: “Llongyfarchiadau i’r tîm ym Manc Datblygu Cymru am flwyddyn anhygoel o godi arian i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. Mae codi mwy na £57,000 mewn blwyddyn yn gofyn am ymroddiad sylweddol ac rydym mor ddiolchgar am yr ymdrechion a’r nifer o ddigwyddiadau i ariannu ein hymchwil sy’n achub bywydau. Diolch o galon.”

Enwebwyd yr elusen iechyd meddwl bigmoose fel partner elusen ar gyfer 2025/26 gan y cydweithwyr Donna Strohmeyer, Cai Greenslade, Giorgia Di-Girolamo a Navid Falatoori .

Dywedodd Donna: “Mae’r elusen hon yn bersonol iawn i mi a’m cydweithwyr a’i henwebodd. Mae naill ai ni ein hunain, neu aelodau o’n teuluoedd wedi defnyddio gwasanaethau bigmoose a gallant dystio sut mae’r elusen yn helpu pobl o ddifri. Mae iechyd meddwl yn fater mor bwysig sy’n cyffwrdd â bywydau cymaint o’n cydweithwyr a’u teuluoedd ac mae’n wych gallu cefnogi elusen a all weithredu’n gyflym i ddarparu cefnogaeth ar unwaith i’r rhai sydd ei hangen.”

Jeff Smith, Prif Weithredwr bigmoose : “Mae’r berthynas rhwng bigmoose a phobl Banc Datblygu Cymru eisoes yn gryf, ac mae’r angerdd a’r brwdfrydedd dros yr hyn a wnawn yn ein helusen wedi cael ei adlewyrchu gan bawb yr ydym wedi cwrdd â nhw ar ddechrau’r daith hon. Ac felly, rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’n gilydd, ar yr hyn a fydd yn arwain at i ni helpu ac achub bywydau gyda’n gilydd.”