Mae Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru newydd gwerth £40 miliwn wedi'i lansio gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi allbryniannau a mewnbryniannau gan reolwyr ledled y wlad—gan helpu i gynnal perchnogaeth Gymreig, diogelu swyddi, a sicrhau parhad busnes hirdymor.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd, mae'r gronfa'n cynnig pecynnau ecwiti a dyled strwythuredig rhwng £500,000 a £5 miliwn gyda thelerau hyd at saith mlynedd. Rhagwelir y bydd yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi ledled Cymru ac yn adeiladu ar lwyddiant Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru gwerth £25 miliwn, sy'n cau eleni ar ôl cefnogi 26 o bryniannau a diogelu dros 700 o swyddi ers ei lansio yn 2019.
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi croesawu’r gronfa, gan ddweud: “Sefydlwyd Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru i gadw perchnogaeth ar fusnesau yng Nghymru, drwy gefnogi timau rheoli i brynu allan rheolwyr perchnogion sydd naill ai’n bwriadu ymddeol neu wireddu elw o’u cyfranddaliadau ecwiti.
“Rwyf wrth fy modd y bydd y Banc Datblygu yn defnyddio’r gronfa newydd hon o £40 miliwn i gefnogi cytundebau olyniaeth, sy’n chwarae rhan allweddol wrth gadw busnesau wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau lleol. Bydd ein buddsoddiad ar y cyd ochr yn ochr â Chronfa Bensiwn Clwyd yn creu mwy o gyfleoedd, yn datgloi potensial twf newydd ac yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o berchnogion busnesau yng Nghymru.”
Y buddsoddiad cyntaf a wnaed drwy'r gronfa newydd yw pecyn nodedig gwerth £5 miliwn ar gyfer Dragon Recycling Solutions Limited—sy'n galluogi pryniant rheoli ac yn sicrhau dyfodol y busnes sydd wedi'i leoli yn Nhredegar. Mae'r cytundeb yn diogelu 120 o swyddi medrus ac yn nodi'r drydedd tro i'r Banc Datblygu gefnogi Dragon ers 2016. Mae'r pecyn £5 miliwn yn cynnwys £2.25 miliwn o ecwiti o Gronfa Olyniaeth Busnes Cymru a £2.75 miliwn o ddyled o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.
O dan arweiniad tîm deinamig o bedwar — tri ohonynt yn fenywod — mae’r allbryniant yn gweld Beth Bysouth yn cael ei phenodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gerard Howard, y Rheolwr Ariannol Mikiko Minty, a’r Cyfarwyddwr Cydymffurfio Tracy Medlicott, a’r Cadeirydd newydd Mark Pulman.
Mae Dragon RS yn prosesu tua 3 miliwn o fesuryddion clyfar yn flynyddol, gan weithredu contractau cenedlaethol gyda chyflenwyr ynni mawr.
Dywedodd Beth Bysouth: “Mae marchnad y mesuryddion clyfar yn parhau i ehangu’n gyflym, wedi’i yrru gan uwchraddiadau technolegol a seilwaith ynni sy’n esblygu. Gyda diddymu rhwydweithiau 2G a 3G yn raddol, rhaid disodli mesuryddion traddodiadol â modelau sy’n gydnaws â 4G/5G, ac mae dirywiad naturiol batris lithiwm thionyl clorid yn golygu bod angen eu disodli yn anochel. Ychwanegwch at hynny gyfraddau atgyweirio uwch ac anghydnawsedd ar draws darparwyr ynni, ac nid yw’r cyfle i Dragon RS erioed wedi bod yn gliriach.
“Mae ein gwasanaethau arbenigol fel prosesu Achos Defnydd 4 ac ailgylchu batris LTC eisoes wedi denu diddordeb cryf, ac rydym yn gyffrous i ehangu ein gwasanaethau dosbarthu, atgyweirio ac ailgylchu er mwyn atgyfnerthu ein safle yn y farchnad ac atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.
“Rydym wrth ein bodd yn mynd â Dragon RS i’w bennod nesaf. Mae’r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn drawsnewidiol—nid yn ariannol yn unig ond yn y gred maen nhw wedi’i dangos yn ein gweledigaeth, ein tîm a’n potensial. Mae eu cefnogaeth yn rhoi’r hyder a’r adnoddau inni i wthio ffiniau, tyfu’n gynaliadwy a pharhau i greu swyddi medrus yma yn Nhredegar.”
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd fel buddsoddwr sefydliadol, bydd Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru newydd yn adeiladu ar etifeddiaeth Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru drwy gefnogi twf economaidd a diogelu swyddi yng Nghymru.
“Mae Dragon RS yn fusnes Cymreig nodedig sydd â’i wreiddiau yn Nhredegar ac sydd ag ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd ac arloesedd. Dyma’n union y math o fusnes yr ydym yn falch o’i gefnogi.”
Mae Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru yn cynnig cymysgedd o ecwiti a dyled i strwythuro pecynnau ariannu amyneddgar o £500,000 i £5 miliwn. Mae telerau hyd at saith mlynedd ar gael i helpu i ariannu buddsoddiadau olyniaeth. Rhagwelir y bydd y gronfa'n cefnogi dros 1000 o swyddi.