Banc Datblygu Cymru yn penodi Clare Sullivan

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Clare Sullivan

Mae Banc Datblygu Cymru wedi penodi Clare Sullivan fel Swyddog Buddsoddi yn ei swyddfeydd yn Llanelli.

Mae Clare yn rhan o'r tîm Buddsoddiadau Newydd, sy'n adeiladu perthnasau o amgylch Gorllewin Cymru gyda gweithwyr proffesiynol a pherchnogion busnes er mwyn eu helpu i dyfu a ffynnu.

Symudodd i'w rôl newydd ar ôl 15 mlynedd fel rheolwr perthynas ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda'r HSBC.

Dywedodd: “Mae fy rôl fel Swyddog Buddsoddi yn fy ngalluogi i gwrdd â busnesau lleol, trafod atebion cyllid a fydd yn anochel yn caniatáu i'r busnes hwnnw dyfu, creu swyddi ychwanegol ac ychwanegu at yr economi leol. Mae'r amrywiaeth o fusnesau rydw i wedi cwrdd â nhw ac wedi dod i wybod am eu gofynion wedi bod yn agoriad llygad. O fenthyciadau cyfalaf gweithio a chyllid caffael i all bryniannau rheoli, does dim dwy sgwrs na dau fusnes yr un fath ac mae'r hyblygrwydd o ran sut y gellir trefnu'r bargeinion hyn i'w groesawu.”

Dywed Clare, sy'n fam i ddau, fod gweithio yn y banc datblygu hefyd wedi caniatáu iddi gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith o achos mae'n annog ac yn cefnogi gweithio hyblyg.

"Mae gen i ddau o blant bach ac 'rwy'n gweithio'n llawn amser, felly mae'n hanfodol i mi weithio i gwmni sy'n caniatáu gweithio hyblyg. Rydw i'n gweithio gyda chydweithwyr gwych sydd i gyd yn gefnogol iawn ac yn hawdd mynd atynt ac maent ganddynt agwedd ymroddedig iawn tuag at dyfu economi Cymru. 'Rwy'n edrych ymlaen at fy nyfodol gyda'r banc. Mae chwarae rhan gyda chwmnïau lleol a'u gweld yn tyfu ac yn ffynnu yn rhoi boddhad mawr i mi ac mae'n rhywbeth 'rydw i'n teimlo'n gryf iawn yn ei gylch.”

Mae gan Fanc Datblygu Cymru swyddfeydd ar hyd a lled y wlad, yn Llanelli, Caerdydd, Llanelwy ac mae ei bencadlys yn Wrecsam. Ar hyn o bryd mae 181 o weithwyr yng Nghymru.

Dywedodd Nick Stork, Dirprwy Reolwr y Gronfa: “Rydym wrth ein bodd bod Clare yn ymuno â'n tîm. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad bancio masnachol gyda hi yn ogystal â brwdfrydedd tuag at gefnogi busnesau bach a chanolig Gorllewin Cymru.”