Banc Datblygu Cymru yn penodi Rhys Jones fel cyfarwyddwr anweithredol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
rhys jones

Mae'n bleser gan Fanc Datblygu Cymru gyhoeddi penodiad Rhys Jones fel cyfarwyddwr anweithredol. Mae Rhys, 36, yn gyd-sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Masnachol SportPursuit Limited, sy'n fanwerthwr digidol ar gyfer aelodau yn unig, sy'n canolbwyntio ar chwaraeon. Mae'n siaradwr Cymraeg ac yn byw yng Nghymru. Daw ei benodiad i rym o'r 1af o Fawrth 2020. 

Meddai Mr Gareth Bullock, y Cadeirydd, “Bydd Rhys yn dod â phrofiad dwfn i’r Bwrdd o adeiladu busnes o’r dechrau un, yr heriau o godi arian sefydliadol a sut i lwyddo mewn masnach ddigidol. Mae ei daith fusnes yn adlewyrchu'r hyn y mae'r Banc Datblygu yn ymdrechu i'w hwyluso i'r mentergarwyr o Gymru y mae'n eu gwasanaethu.”

Dywedodd Mr Jones, "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi ar fwrdd Banc Datblygu Cymru. Mae'n amser cyffrous i ymuno â'r sefydliad gyda'r twf cyflym mewn cronfeydd, sectorau a’r busnesau y mae'n eu cefnogi. Gobeithio y gallaf helpu'r Banc Datblygu i ddod yn agosach fyth at anghenion busnesau mentergar sy'n dechrau o'r newydd a BBaCh mewn marchnad gynyddol ddigidol."