Banc Datblygu Cymru yn siarad am arian cyllido ar gyfer busnesau Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Bydd Banc Datblygu Cymru yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru eto eleni. Cynhelir sioe amaethyddol fwyaf Ewrop yn Llanfair-ym-Muallt ar Faes Sioe Frenhinol Cymru o ddydd Llun 22 Gorffennaf tan ddydd Iau 25 Gorffennaf. Bydd swyddogion buddsoddi o'r Banc Datblygu wrth law i siarad am syniadau busnes ac i ateb cwestiynau gan berchnogion ac entrepreneuriaid busnes yng Nghymru ar stondin E374 yn y Pafiliwn Gwyrdd.


Yn ogystal â sesiynau galw heibio drwy'r wythnos, mae'r Banc Datblygu yn cynnal nifer o ddigwyddiadau mewn partneriaeth â Ffederasiwn Busnesau Bach, Busnes Cymru a thîm Twristiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r sesiynau Cwrdd â'r Arbenigwyr yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu tocynnau ar-lein. Cynhelir y sesiynau o 9:30 ddydd Mawrth 23 Gorffennaf, 14:00 ddydd Mercher a 9:30 ddydd Iau.  

Ar y dydd Mercher, bydd y Banc Datblygu hefyd yn cyd-gynnal trafodaeth panel ar arweinyddiaeth gyda Brewin Dolphin. Ynghyd â siaradwyr o Brewin Dolphin, Banc Datblygu Cymru a Capital Law, bydd y panel yn siarad am eu teithiau busnes, sut i oresgyn pethau anodd a sut i gyflawni llwyddiant a lles ariannol. Gellir archebu tocynnau am ddim trwy e-bostio wales.events@brewin.co.uk <mailto:wales.events@brewin.co.uk>

Mae gan y Banc Datblygu ystod amrywiol o arian ar gael i helpu pob sector gan gynnwys; ffermio, twristiaeth, manwerthu, a bwyd a diod. Gall busnesau glywed mwy o wybodaeth am gyllid o Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn. Prif amcan y gronfa yw ariannu prosiectau twristiaeth sydd â siawns o greu effaith gadarnhaol ar dyfu'r sector ac economi Cymru.

Mae micro-fenthyciadau llai o £1,000 hyd at £50,000 ar gael o Gronfa Micro-Fenthyciadau newydd Cymru, sef cronfa £16.2 miliwn a all gefnogi masnachwyr unigol a busnesau bach i ganolig ar hyd a lled Cymru. Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cefnogodd y Banc Datblygu fusnesau Cymru gyda 220 o micro fenthyciadau.

Meddai Gaynor Morris, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru yng nghanolbarth Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn ôl yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru arall. Mae amrywiaeth eang o fusnesau ac entrepreneuriaid yn mynychu'r digwyddiad hwn bob blwyddyn i ddangos y gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae hi wastad yn bleser gweld y gymuned leol yn gweithio mewn partneriaeth yn y digwyddiad hwn ac i ddal i fyny â chwsmeriaid a chydweithwyr mewn cynghorau lleol, banciau, Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd gennym staff buddsoddi wrth law yn ystod yr wythnos i siarad ynghylch sut y gallwn ni helpu busnesau i ddechrau, cryfhau a thyfu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am arian cyllido gennym ni. Mae ein digwyddiadau Cwrdd â'r Arbenigwyr yn gyfle gwych i gael cyngor gan ein panelwyr ac i rwydweithio â busnesau eraill.”

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi twf busnesau yng Nghymru. Y flwyddyn ariannol ddiwethaf buddsoddodd y Banc Datblygu £80 miliwn mewn busnesau yng Nghymru. Buddsoddwyd £37 miliwn yn ne Cymru, £26 miliwn yn y canolbarth a'r gorllewin, ac £17 miliwn yn y gogledd.

Maent yn rheoli dros £1 biliwn mewn cronfeydd a gallant gynnig benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti i gwmnïau cymwys o £1,000 i £5 miliwn. I wirio a ydych yn gymwys neu i wneud cais am gyllid ewch i weld bancdatblygu.cymru.