Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu yn ariannu fferyllfa gymunedol newydd yn Nhywyn

Scott-Hughes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Feryllfa Tywyn

Mae fferyllfa gymunedol newydd wedi agor yn Nhywyn wrth i’r fferyllydd Naeem Anjam geisio datblygu rhwydwaith o fferyllfeydd ledled Gogledd Cymru.

Mae’r gwaith ffitio ar Fferyllfa Tywyn wedi cael ei ariannu’n rhannol gan fenthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru. Gyda chontract gan GIG Cymru i roi cyffuriau ar bresgripsiwn, mae’n cynnig holl wasanaethau’r GIG a rhai gwasanaethau preifat, presgripsiynu annibynnol ar gyfer cyflyrau acíwt cyffredin, cyfleoedd i gontractwyr annibynnol rentu unrhyw un o’i dair ystafell ymgynghori,  detholiad manwerthol cystadleuol.

Mae Naeem Anjam hefyd yn rhedeg Fferyllfa Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Dywedodd: “Fe wnes i syrthio mewn cariad â Gogledd Cymru wrth wneud gwaith locwm yn 2016. Mae'n fy atgoffa'n fawr iawn o Seland Newydd, lle gwnes i gymhwyso fel fferyllydd ar ôl cwblhau fy ngradd ym Mhrifysgol Caerfaddon yn 2012. Erbyn hyn mae gennym dîm o ddeg ar draws y ddwy fferyllfa a gobeithio y byddwn yn gallu ehangu ymhellach wrth i gyfleoedd godi. Mae fferyllfeydd cymunedol yn rhan mor bwysig o fywyd pobl o bob oed, felly rwy’n ddiolchgar iawn i’r Banc Datblygu am gynnig eu cefnogaeth i mi. Maen nhw wedi bod yn agored, gonest a chefnogol drwy gydol y broses, ac mae croeso mawr iddyn nhw wrth geisio agor busnes newydd.”

Mae Scott Hughes yn Uwch Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae’n braf gallu cefnogi Naeem gyda’i gynlluniau i ddarparu mynediad haws at wasanaethau fferyllol i gymuned Tywyn. Ein gobaith yw y bydd pobl leol ac ymwelwyr sydd angen fferyllydd yn cael budd o Fferyllfa Tywyn, ac edrychwn ymlaen at gefnogi Naeem gyda’i gynlluniau ar gyfer twf pellach yn y rhanbarth.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Fferyllfa Tywyn o Gronfa Fusnes Cymru a gaeodd ddiwedd mis Rhagfyr 2023, ar ôl buddsoddi £216 miliwn. Roedd y gronfa’n cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, ac yn darparu benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti ar gyfer cytundebau rhwng £50,000 a £5 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n symud i Gymru. Cafodd ei ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru.