Banc Datblygu yn buddsoddi mewn busnes ffrwythau a llysiau lleol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
The Vale Grocer PR 1 - Ch Dd Alex Baines, Liz and Chris Kameen.

Fe wnaeth blwch llysiau a benthyciad micro llwybr carlam o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru ysbrydoli Liz a Chris Kameen, sy'n ŵr a’r wraig, i ehangu eu busnes ffrwythau a llysiau yn Ninbych.  

Mae The Vale Grocer yn cyflenwi ac yn gwerthu ffrwythau a llysiau organig sydd naill ai’n cael eu tyfu’n lleol gan y teulu Kameen neu’n cael eu cyflenwi gan ffermwyr drwy Organic North, sef cyfanwerthwr organig.  Gall cwsmeriaid yn Ninbych a Rhuthun a’r cyffiniau danysgrifio i gael blwch llysiau yn wythnosol i’w cartref neu alw yn siop The Vale Grocer yn Ninbych.  

Mae’r benthyciad llwybr carlam o £20,000 gan y Banc Datblygu yn cael ei ddefnyddio i baratoi uned ddiwydiannol newydd yn Ninbych, yn ogystal â chyllido cerbyd mwy o faint i gynyddu danfoniadau. Gyda chyfleuster storio wedi ei oeri a man pacio pwrpasol, y nod yw y bydd yr uned yn dod yn ganolfan lle gall cwsmeriaid brynu cynnyrch organig ffres a nwyddau groser. 

Mae’r teulu Kameen o’r farn bod cael blwch llysiau yn ffordd wych o fwyta’n dymhorol a’i fod yn ffynhonnell dda o ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio prydau wythnosol. Dywedodd Liz: “Gadawyd blwch llysiau yn ein cartref newydd fel anrheg. Ychydig a wyddem ni pa ran y byddai’r bocs hwn yn ei chwarae yn ein dyfodol. Fe wnaethon ni gofrestru ar gyfer bocs wythnosol ac fe wnaethon ni sylweddoli’n fuan sut mae cael blwch llysiau wedi trawsnewid ein dull o goginio. Yn hytrach na mynd i’r siopau i brynu llysiau ar gyfer pryd o fwyd roeddem eisiau ei goginio, cawsom ein gorfodi i fod yn fwy creadigol a defnyddio’r hyn a oedd gennym. Fe wnaeth hyn ein hysbrydoli i ymgymryd â’r busnes ein hunain.  

“Rydyn ni nawr yn tyfu cymaint ag y gallwn ni ein hunain ac rydyn ni’n gweithio’n galed i gael mwy o ffermwyr yn lleol i dyfu cynnyrch organig y gallwn ni ei brynu a’i werthu. I ni, mae’n ymwneud â rhoi dewis arall i bobl leol yn lle archfarchnadoedd prif ffrwd, a dod â phobl yn nes at y tyfwyr a’r cynhyrchwyr. Mae’r cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu y gallwn ddechrau cynyddu’r hyn y gallwn ni ei wneud gyda’r busnes, ac roedd y broses mor gyflym a hawdd a diffwdan; Daeth popeth at ei gilydd yn gyflym ac mae’n teimlo bod y Banc Datblygu wir yn deall yr hyn rydym yn ceisio ei wneud.” 

Ychwanegodd Alex Baines o Fanc Datblygu Cymru: “Mae Chris a Liz yn enghraifft wych o sut gall brwdfrydedd dros wneud y peth iawn wneud synnwyr busnes da hefyd  Maen nhw’n helpu eu cwsmeriaid i leihau eu defnydd o ddeunydd pecynnu a milltiroedd bwyd a bod o fudd i’r gymuned leol drwy wneud rhywbeth maen nhw’n credu ynddo. Mae’n wych gweld ein benthyciadau micro llwybr carlam yn cael eu defnyddio’n dda fel hyn ar lefel leol yma yng ngogledd Cymru.” 

Gall busnesau bach, unig fasnachwyr a mentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu yng Nghymru ers dros ddwy flynedd wneud cais am ficro-fenthyciad llwybr carlam gan Fanc Datblygu Cymru. Mae hyd at £25,000 ar gael a gwneir penderfyniadau ar fenthyciadau newydd i gwsmeriaid o fewn dau ddiwrnod gwaith.