Banc Datblygu yn helpu i ddatgloi twf ar gyfer cwmni newydd technoleg cartref yn Ne Cymru SecuraCo

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Marchnata
Mentrau tech
Technoleg
SecuraCo

Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu cwmni technoleg cartref newydd yn Ne Cymru i fynd i'r farchnad y gwanwyn hwn gyda micro fenthyciad o £50,000 i helpu i lansio eu system cloi cartref clyfar cyntaf Securaki.

Disgwylir i'r system cloi cartref hon chwyldroi'r farchnad diogelwch cartref craff, a gallai arwain at olygu bod goriadau / allweddi drysau yn rhywbeth o'r gorffennol. Gellir gosod Securaki ar y rhan fwyaf o gloeon drws yn gyflym ac yn hawdd, heb unrhyw arbenigedd arbenigol, gan drosi unrhyw glo yn glo craff - gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer nid yn unig perchnogion tai ond hefyd eiddo â phreswylwyr dros dro fel eiddo rhent ac AirBnB.

Ar ôl eu gosod, gall defnyddwyr gloi neu ddatgloi eu drysau o bell heb allweddi, gan ddefnyddio eu ffobiau, eu bysellbadiau digidol neu eu ffonau clyfar. Mae ap symudol Securaki hefyd yn caniatáu i berchnogion wirio a yw drysau wedi'u cloi neu eu datgloi, monitro gweithgaredd defnyddwyr eraill, a darparu mynediad dros dro neu â therfyn amser pan fo angen. Dyma hefyd yr unig glo smart y gellir ei ddefnyddio gyda 90% o ddrysau'r DU a'r rhan fwyaf o ddrysau Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Mae'r cwmni newydd o Gaerdydd bellach wedi arwyddo cytundeb dosbarthu gyda Nimans, un o brif ddosbarthwyr technoleg y DU, i fynd â'r cwmni newydd arloesol i'r farchnad ddomestig a masnachol. Bydd y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru yn amhrisiadwy i gefnogi’r lansiad hwn, gan ganiatáu iddynt gael cynnyrch allan i gwsmeriaid yn gynnar yn y gwanwyn.

Syniad Gavin Jones, mentergarwr adeiladu yw SecuraCo, gyda’r cwmni yn ddiweddarach yn ymuno â’r mentergarwr technoleg Nadeeke Illeperuma. Mae gan y ddau ddegawdau o brofiad yn y farchnad, a helpodd nhw i greu, dylunio, a datblygu’r datrysiad arloesol hwn, gyda’r cytundeb gyda Nimans yn cael ei lywio gan Simon Humphries, cyfarwyddwr gwerthu a marchnata’r busnes.

Meddai Prif Weithredwr a sylfaenydd SecuraCo, Gavin Jones : “Rydym i gyd yn gwybod o brofiad personol pa mor rhwystredig a dirdynnol y gall colli eich goriadau / allweddi fod. Dyna sut y cefais y syniad ar gyfer Securaki. O ystyried ei gymhwysiad cyffredinol i unrhyw fath o glo, a pha mor hawdd y gellir ei osod, rydym yn obeithiol y gall Securaki wneud y pwysau a’r sdraen hwnnw yn rhywbeth o'r gorffennol - nid yn unig ar gyfer cartrefi unigol, ond hefyd ar gyfer adeiladau mwy fel blociau fflatiau a gweithleoedd, yn ogystal ag eiddo rhent.

“Rydym yn gyffrous i’w cael allan i’r farchnad y gwanwyn hwn diolch i gefnogaeth y Banc Datblygu a’n dosbarthwyr. A dim ond ein cynnyrch cyntaf ydi hwn - mae gennym ni hefyd gynlluniau i ychwanegu mwy o gynhyrchion at deulu cynnyrch SecuraCo, gan gynnwys camerâu smart, larymau a chlychau drws.”

Ychwanegodd Cyd-sylfaenydd SecuraCo, Nadeeke Illeperuma : “Ein cenhadaeth yw helpu i wneud technoleg cartref clyfar yn hygyrch i bawb, gyda’n cynnyrch cyntaf yn helpu i drosi pob clo yn glo craff / clyfar. Gyda Securaki, roeddem yn canolbwyntio nid yn unig ar greu cynnyrch a oedd yn hawdd ei ddefnyddio ac yn ymgorffori technoleg arloesol ond a oedd hefyd wedi'i ddylunio'n hyfryd fel y byddai pob defnyddiwr eisiau un ar eu drws."

Dywedodd Claire Vokes, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Roedd yn bleser gweithio gyda Gavin a Nadeeke yn SecuraCo. Mae gan eu cynnyrch botensial gwych, ac edrychwn ymlaen at weld SecuraCo yn caffael eu cwsmeriaid cyntaf wrth i’r unedau newydd ddechrau cael eu cyflwyno eleni.

“Gall ein micro fenthyciadau helpu busnesau i gymryd y camau nesaf yn eu twf, gan gynnwys dod â chynnyrch newydd i’r farchnad neu lansio gwasanaethau newydd.

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £32.5 miliwn yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael i fusnesau bach a chanolig, gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr a phartneriaethau gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng un a 10 mlynedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i weld bancdatblygu.cymru