Banc Datblygu yn ymadael a Vortex IOT Limited yn dilyn caffaeliad gan Marston Holdings

alex
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Adrian Sutton (Prif Swyddog Gweithredol Vortex).

Mae Banc Datblygu Cymru wedi gadael Vortex IoT Limited yn llwyddiannus dim ond tair blynedd ar ôl darparu cyllid cyfalaf cyn-sbarduno cychwynnol i’r cwmni technoleg newydd sydd bellach yn cyflogi 35.

Mae'r cyflenwr o synwyryddion amgylcheddol, rhwydweithiau a datrysiadau data sydd wedi'i leoli yng Nghastell-nedd wedi cael ei gaffael gan Marston Holdings , darparwr blaenllaw'r DU o atebion trafnidiaeth integredig, a alluogir gan dechnoleg. Nid yw'r ffigurau wedi'u datgelu.   

Mae Marston yn cefnogi cleientiaid y llywodraeth, cyfleustodau a'r sector preifat trwy ddarparu datrysiadau integredig sy'n arwain y farchnad sy'n galluogi technoleg, o ddylunio hyd at weithredu, rheoli ac adfer. Mae cleientiaid Marston yn cynnwys awdurdodau lleol sy'n ceisio adeiladu cynlluniau amgylcheddol sy'n lleihau tagfeydd a llygredd. Gyda chaffael Vortex, bydd Marston yn cryfhau ei gynnig trwy ddarparu datrysiadau ansawdd aer cyflenwol sy'n cynyddu ymwybyddiaeth, yn nodi mannau problemus o ran llygredd ac yn gwella iechyd y cyhoedd.     

Gyda'i bencadlys yng Nghastell-nedd, sefydlwyd Vortex IoT gan y Prif Weithredwr Adrian Sutton a PST Behzad Heravi. Mae'n cynnwys tîm tra medrus o 35 sy'n cynnwys peirianwyr ag arbenigedd mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, Deallusrwydd Artiffisial (AI), 5G, technoleg laser LiDAR a dysgu peirianyddol. 

Fel cyllidwyr ecwiti, buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £250,000 o gyfalaf cyn-sbarduno a dilynwyd hynny gyda £250,000 pellach o Gronfa Busnes Cymru ochr yn ochr â’r Start-up Funding Club (SFC Capital) yn Llundain. Ar ôl galluogi Vortex i gynyddu mewn dim ond tair blynedd, mae'r Banc Datblygu bellach wedi ymadael.

Dywedodd Adrian Sutton, Prif Weithredwr Vortex IoT: “Mae ymuno â Marston Holdings yn cyflymu gallu Vortex IoT i ddarparu gwerth cymdeithasol a newid amgylcheddol i gleientiaid, ac rydym yn falch iawn o adeiladu ar y cyd ar y perthnasoedd presennol yr ydym wedi’u sefydlu fel partneriaid dibynadwy i’n cleientiaid yn dod â datrysiadau monitro dinasoedd clyfar ac amgylcheddol blaengar i’r farchnad.

“Gwnaeth y cyllid ecwiti a chymorth gan y Banc Datblygu wahaniaeth i’n busnes, gan ein galluogi i fod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd gyda datblygiad atebion sy’n helpu i leihau allyriadau carbon. Dyna hefyd sydd wedi rhoi’r llwyfan i ni adeiladu busnes sy’n ddeniadol i chwaraewyr mwy fel Marston sy’n golygu y gallwn barhau i dyfu gyda budd yr ecosystem Gymreig o’n cwmpas.”

Dywedodd Alexander Leigh, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel buddsoddwyr cynnar yn Vortex gyda chyfalaf cyn-sbarduno a chyllid dilynol, rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi twf y busnes cyffrous hwn dros y tair blynedd diwethaf.

“Mae'n beth gwerth chweil ymadael â busnes newydd ar ôl cyfnod mor fyr, yn enwedig ar ôl gweld y tîm yn elwa o'r cymorth sydd ar gael yma yng Nghymru. Gallent fod wedi sefydlu unrhyw le yn y byd ond dewisodd Gymru oherwydd ein hagwedd gadarnhaol, y cymorth sydd ar gael i fentergarwyr yn y sector technoleg a’r sylfaen costau is. 

“Mae caffael Vortex gan Marston bellach yn cyflymu’r cyfle i’r tîm gyflwyno eu datrysiadau ansawdd aer arloesol sydd eu hangen yn fawr iawn ar gyfer economi di-garbon tra hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn swyddi medrus iawn o’u canolfan yng Nghastell-nedd. Mae’n stori lwyddiant wych yr ydym yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan ynddi. 

Mae caffael Vortex yn dilyn caffaeliadau 2019 Videalert, cyflenwr atebion rheoli traffig deallus; ParkTrade, busnes taliadau tollau a chasgliadau Ewropeaidd o Sweden; a LogicValley, datblygwr Indiaidd sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial (DA). Mae cynhyrchion Vortex yn cryfhau adran technoleg trafnidiaeth Marston ymhellach, gan sicrhau bod Marston yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion esblygol ei sylfaen cleientiaid.   

Ychwanegodd Mark Hoskin, Prif Swyddog Masnachol yn Marston Holdings: “Mae gennym hanes hir o weithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus, ac mae’r caffaeliad hwn yn adlewyrchu adborth cleientiaid sy’n chwilio am atebion arloesol, wedi’u galluogi gan dechnoleg. Dangosodd COP26 gefnogaeth y cyhoedd i yrru’r newid i economi di-garbon, ac rydym yn falch o wella ymhellach ein gallu i gefnogi ein cleientiaid a’u preswylwyr trwy gymunedau glanach, iachach a mwy cyfeillgar i bobl.”

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni