Blwyddyn a cyfeiriad newydd ar gyfer Fairyhill

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Fairyhill

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Llywodraeth Cymru.

Heddiw, ymwelodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth, â Fairyhill i weld sut mae’r perchnogion newydd yn trawsnewid y gwesty a bwyty enwog hwn yn lleoliad ar gyfer cynnal digwyddiadau arbennig

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu drwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth a Banc Datblygu Cymru.

Mae’r perchnogion newydd wedi penderfynu troi’r adeilad rhestredig Gradd II ysblennydd hwn yn lleoliad ar gyfer cynnal digwyddiadau arbennig yn unig, gyda’r un cyntaf i’w gynnal ar 1 Mawrth 2018. Prynwyd yr eiddo fis Tachwedd diwethaf gan Oldwalls, cwmni uchel ei glod sy’n arbenigo mewn priodasau sydd wedi llwyddo i gael £200,000 o’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth a £350,000 gan Banc Datblygu Cymru.

Mae’r prosiect adnewyddu’n cynnwys gwaith i adeiladu estyniad i adain orllewin yr hen dŷ, a’i enw fydd yr Orendy. Bydd yr estyniad modern hwn yn gallu darparu seddi i 150 o bobl. Bydd yr ystafell ar gael hefyd i bob math o ddigwyddiadau, a bydd yn ategu’r ymgyrch bresennol i ddenu mwy o ddigwyddiadau busnes i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog: 

“Mae’n hyfryd cael gweld heddiw y cynnydd sydd wedi’i wneud yn Fairyhill a dw i wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi’r fenter hon mewn ardal lle mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad holl bwysig at yr economi.  Ar ôl gorffen y gwaith yn y gwanwyn, bydd Fairyhill yn lleoliad penigamp ar gyfer priodasau, wrth gwrs. Ond bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r hyn y mae gan Gymru i’w gynnig i’r farchnad ar gyfer cynadleddau a busnes.

Dywedodd Andrew Hole, y Rheolwr-Gyfarwyddwr:

“Rydyn ni’n credu mai canolbwyntio ar ddigwyddiadau arbennig a phriodasau yw sail llwyddiant Oldwalls, ac rydyn ni’n bwriadu parhau i wneud hyn yn Fairyhill. Rydyn ni wedi buddsoddi’n sylweddol yn y 24 o erwau rhestredig yma er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau’r eiddo gwerthfawr hwn yn y dyfodol. Bydd yr ailwampio yn sicrhau bod miliynau o bunnoedd yn mynd i’r economi leol hefyd gan ein bod wedi ymrwymo i ddefnyddio cyflenwyr yng Nghymru i wneud y gwaith adnewyddu. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gynnal priodasau a digwyddiadau er mwyn rhannu awyrgylch hudol Fairyhill ag ymwelwyr”.

Dywedodd Raymond Walters, Swyddog Gweithredol Portffolio Banc Datblygu Cymru: 

"Mae Oldwalls eisoes wedi’I sefydlu fel un o'r lleoliadau priodas mwyaf blaenllaw  yng Nghymru. Rydym yn falch i allu cefnogi busnes lleol fel hwn sydd yn tyfu wrth iddynt drawsnewid Fairyhill yn fusnes cyffrous ac yn gyrchfan briodas."

Croesawodd Fairhill fwy o ymwelwyr nag erioed y penwythnos diwethaf yn ystod arddangosfa priodasau, ac felly fe fydd yna arddangosfa briodasau arall yn Fairyhill ar 13 a 14 Ionawr, o 12pm i 5pm. Gellir ymweld ag Oldwalls Gower, y chwaer-leoliad hefyd. Mae’n bosibl archebu Fairyhill nawr ar gyfer priodasau a digwyddiadau unigol yn 2018.

Mae Fairyhill yn cael ei gydnabod yn un o’r gwestai gwledig mwyaf godidog yn y DU. Mae nifer o westeion enwog wedi aros yn y gwesty, er enghraifft, seren Hollywood, Paul Newman, pan gynhaliwyd priodas ei fab yno. Ymhlith ymwelwyr enwog eraill mae un o gyn brifweinidogion Prydain, Joan Collins a Katherine Jenkins.