Buddsoddiad ecwiti mewn BBaCh y DU yn cynyddu 24% i £8.5 biliwn

Rhian-Elston
Cyfarwyddwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
rhian

Mae Adroddiad Traciwr Ecwiti Busnesau Bach blynyddol Banc Busnes Prydain yn dangos bod Cymru yn perfformio'n well na rhannau eraill o'r DU

Cododd gwerth cyfanswm buddsoddiad ecwiti mewn BBaCh y DU 24% i £8.5bn yn 2019, sef y swm uchaf a gofnodwyd. Gyda’r nifer uchaf erioed o fargeinion, (yn codi 4% i 1,832) a meintiau bargeinion i fyny 21% mae’n gwrthdroi’r dirywiad a adroddwyd yn 2018, yn ôl yr adroddiad Traciwr Ecwiti Busnesau Bach diweddaraf a gyhoeddwyd gan Fanc Busnes Prydain.

Gyda 73 bargen yn 2019, perfformiodd Cymru yn well na sawl rhan o'r DU ac roedd yn cyfrif am 4% o gyfanswm cyfran bargeinion 2019 y DU. Cyflawnodd Cymru 3.3 bargen fesul 10,000 o BBaCh a chyfanswm gwerth buddsoddiad o £60m (i fyny 17%) o'i gymharu â chyfartaledd o 1.9 bargen fesul 10,000 o BBaCh  ar draws pob rhanbarth arall yn y DU (ac eithrio Llundain). Gyda 28 bargen ecwiti yn 2019, Caerdydd oedd y 5ed awdurdod dosbarth lleol ar y cyd yn y DU pan eithrir Bwrdeistrefi Llundain.

Yn ôl Beauhurst, cadwodd Banc Datblygu Cymru ei statws fel un o’r pum buddsoddwr technoleg gorau yn y DU yn 2019 (yn ôl cyfaint). Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Banc Datblygu yn dangos buddsoddiad ecwiti o £16 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2019/20.

Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae adroddiad Traciwr Ecwiti Busnesau Bach, sy’n dadansoddi data Beauhurst ar fuddsoddiadau ecwiti ledled y DU yn 2019, yn darparu meincnod pwysig o’r farchnad yn union cyn y pandemig Cofid-19. Digwyddodd 48% o’r bargeinion yn ôl nifer yn Llundain ond mae’n braf gweld bod maint y gweithgaredd yma yng Nghymru yn gryf o’i gymharu â holl ranbarthau eraill y DU, gyda Chymru’n dod yn drydydd yn unig ar ôl Llundain a’r Alban am fargeinion fesul 10,000 o BBaCh. Mae hyn yn arwydd clir o hyder buddsoddwyr ym musnesau Cymru a'u potensial i dyfu.

“Mae cyllid ecwiti fwyaf addas ar gyfer busnesau twf uchel sydd angen arian parod i gyflymu eu cynlluniau twf, neu fusnesau technoleg cam cynnar na allant gefnogi ad-daliadau benthyciad tra bydd eu busnes yn datblygu. Cyfeirir ato'n aml fel cyfalaf amyneddgar, oherwydd bod buddsoddiad ecwiti yn bartneriaeth hirach na benthyciad.

“Y fantais yw nad oes rhaid i berchennog busnes wneud ad-daliadau misol ac felly gellir defnyddio'r holl fuddsoddiad a godir i gyflymu twf.

“Mae dewis y partner buddsoddi tymor hir cywir yn golygu bod busnesau hefyd yn elwa o sgiliau, cysylltiadau a phrofiad gwerthfawr. Mae'r berthynas yn seiliedig ar gymaint mwy na chyfalaf yn unig; mae buddsoddwyr cefnogol fel y Banc Datblygu yn ychwanegu gwerth at y tîm rheoli oherwydd bod ganddynt fuddiant breintiedig yn llwyddiant y busnes - ei dwf, ei broffidioldeb a'i gynnydd mewn gwerth.

“Wrth i effaith economaidd Cofid-19 barhau i effeithio ar fusnesau ledled y wlad, bydd llawer o berchnogion busnes yn ystyried buddsoddi mewn ecwiti fel ffordd o gefnogi twf, buddsoddi mewn arloesedd, efallai caffael busnes arall. Nawr yw'r amser i ystyried buddsoddiad  cyfalaf tymor hir a all roi'r pŵer a'r gefnogaeth i berchnogion busnes gyflymu twf.”

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi Nutrivend ers 2012. Mae'n cael ei redeg gan y cyn-chwaraewyr rhyngwladol rygbi Scott Morgan a Barry Davies, a wnaeth gais i ddechrau am micro fenthyciad i sefydlu'r busnes. Mae buddsoddiad ecwiti dilynol o £675,000 wedi galluogi'r busnes i fynd o nerth i nerth ynghyd â phenodi Nigel Skinner yn gyfarwyddwr anweithredol.

Dywedodd Scott Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Nutrivend: “Bu'n daith gyffrous iawn. Ers i ni sefydlu Nutrivend a derbyn ein cyllid cychwynnol, rydym wedi tyfu'r busnes o'r adeg pan oedd yn ddim ond fi i 20 aelod o staff. Bellach mae gennym ddepos ledled y DU.

“Mae'r benthyciad a'r buddsoddiad ecwiti  gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn rhan sylfaenol i'n galluogi i dyfu'r busnes. Heb fuddsoddiad, mae'n cyrraedd y pwynt lle rydych chi'n brwydro ymlaen, ar eich pen eich hun ac yn ceisio gwneud y gorau y gallwch. Mae rhai perchnogion busnes o'r farn, trwy werthu cyfranddaliadau yn eu busnes, eu bod yn rhoi rhywbeth i ffwrdd. Ond, 'dydych chi ddim yn rhoi cyfranddaliadau yn eich busnes i ffwrdd - rydych chi'n eu gwerthu ac yn cael gwerth yn gyfnewid.

“Mewn gwirionedd, trwy werthu cyfran yn eich busnes nawr, mae’n bosib iawn y gallwch chi gyflymu eich cynlluniau twf a chreu busnes llawer mwy, sy'n fwy proffidiol. Felly, y cwestiwn i'w ofyn i chi'ch hun yw a ydych chi'n barod i werthu cyfran o'ch cwmni nawr er mwyn cael cyfran o fusnes llawer mwy yn y dyfodol - a chyflawni'ch uchelgeisiau ar gyfer y busnes? Fe wnaethon ni ac fe weithiodd i ni. Rwy’n gwybod y byddaf yn edrych yn ôl ymhen deng mlynedd ’gan wybod bod y busnes wedi cael pob cyfle i lwyddo.”

Gall Banc Datblygu Cymru fuddsoddi o £1,000 i £5 miliwn ar y tro mewn busnesau yng Nghymru i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae buddsoddiad ecwiti o £50,000 i £5 miliwn ar gael i fusnesau sefydledig gymryd cam twf sylweddol yn ei flaen a gall ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer cwmnïau technoleg cyn-refeniw sy'n dechrau o'r newydd. Bydd y banc datblygu yn cyd-fuddsoddi ochr yn ochr â banciau, cyllidwyr torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill.