Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru yn agor drysau i Dragon Fire Doors

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dragon Fire Doors

Mae Dragon Fire Doors o Gonwy yn cynyddu graddfa’r gwaith o gynnal a chadw a gosod drysau tân masnachol yn dilyn buddsoddiad o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i sefydlu gan y Cyfarwyddwr Neil Wansbrough yn 2015, mae Dragon Fire Doors wedi’i ardystio gan Q ac mae’n arbenigo mewn darparu arolygon drysau tân ynghyd â gwasanaethau gosod a chynnal a chadw drysau tân ar gyfer y sector tai cymdeithasol. Mae cleientiaid allweddol yn cynnwys Tai Gogledd Cymru, Tai ClwydAlyn , Linc Housing a Stori Cymru. Mae cleientiaid eraill wedi cynnwys adeiladau'r GIG, canolfannau gweithgareddau awyr agored, cartrefi gofal preifat, tai amlfeddiannaeth (TAmlM) a busnesau preifat.

Y benthyciad o £35,000 yw ail fuddsoddiad y Banc Datblygu gyda Dragon Fire Doors wedi cael micro-fenthyciad trac cyflym o £25,000 yn 2022 i helpu i gefnogi’r cwmni drwy’r pandemig Covid-19.

Neil Wansbrough : “Mae newid deddfwriaeth a ffocws cynyddol ar ddiogelwch tân yn golygu bod galw cynyddol am ardystiad ar ddrysau tân. Mae mwyafrif ein gwaith yn y sector tai cymdeithasol ond rydym hefyd yn gosod drysau ar gyfer contractwyr adeiladu, datblygwyr a landlordiaid. Fe wnaeth y benthyciad cyntaf gan y Banc Datblygu ein galluogi i ddod allan o’r pandemig gydag optimistiaeth o’r newydd ar gyfer dyfodol y busnes felly fe wnaethom fuddsoddi mewn offer ychwanegol a cherbydau fflyd ynghyd ag uned newydd yng Nghanolfan Westbourne yn Y Rhyl. Bydd y benthyciad diweddaraf hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am brynu’r deunyddiau sydd eu hangen arnom i wireddu gofynion ein llyfr archebion cynyddol.”

Mae Malcolm Green yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Gyda hanes profedig ac enw rhagorol ym maes saernïaeth a diogelwch tân, mae Neil wedi adeiladu busnes llwyddiannus gyda throedle cryf yn y sector tai. Mae ein cefnogaeth barhaus yn helpu i hybu Dragon Fire Doors a chyflymu’r twf ar adeg pan fo’r cyfle yn y farchnad yn prysuro o ddifri.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Dragon Fire Doors o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thelerau o hyd at 15 mlynedd.