Buddsoddiad gwerth £440,000 yn pweru technoleg AI ar gyfer yr henoed

Linzi-Plant
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Technoleg busnesau
Twf
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
Tendertec

Mae Banc Datblygu Cymru wedi arwain cylch ariannu gwerth £440,000, gyda buddsoddiad ecwiti o £250,000, mewn technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) sy’n helpu i gadw’r henoed yn iach, yn annibynnol ac yn ddiogel.

Fel llwyfan gofal cysylltiedig, sy’n rhoi preifatrwydd yn gyntaf, mae synwyryddion Hestia yn casglu data synhwyro gwres ac yn cofnodi tymheredd, symudiadau dyddiol, patrymau gorffwys ac unrhyw gwympiadau. Nid yw hyn cynnwys defnyddio camerâu.

Afroditi Konidari a Rui Zhang, a sefydlodd Tendertec yng Nghaerdydd yn 2017, sy’n gyfrifol am ddyfeisio Hestia. Mae’r ddau yn ofalwyr o bell ac yn rhannu cefndir ym meysydd iechyd digidol, gofal cysylltiedig ac adeiladau clyfar.

Yn ogystal â’r Banc Datblygu, mae’r swyddfa deuluol Puffin Point, ynghyd ag angylion busnes ac angylion Theti Club, hefyd wedi buddsoddi. Ynghyd â buddsoddiad blaenorol gan Metavallon VC, a grant gwerth £1.4 miliwn gan Innovate UK a her Designed for Ageing UKRI yn 2022, bydd Tendertec yn defnyddio’r arian i helpu i ehangu’r cwmni i’r farchnad gofal cymdeithasol ehangach ac i greu mwy o gyfleoedd yn Ewrop – yn enwedig yn y sector gofal cartref.

Dywedodd Dr Afroditi Konidari, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Tendertec: “Mae’r boblogaeth oedrannus yn tyfu’n gyflym, ac mae’r sector gofal yn ei chael hi’n anodd dal i fyny. Mae’r sefyllfa bresennol yn galw am atebion AI, fel Hestia, i fynd i'r afael â'r angen brys am ofalwyr ac i gyflawni potensial economaidd y sector gofal, a’i botensial i greu swyddi,”

Dywedodd Rui Zhang, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Tendertec: “Mae gan bob un ohonom ni rieni a neiniau a theidiau sy’n heneiddio, ac rydyn ni’n ymwybodol iawn, pan na allwch chi fod gyda rhywun drwy’r amser, eich bod yn siŵr o fethu symptomau cynnar eiddilwch a dirywiad yn eu hiechyd. Mae Hestia yn darparu gwelededd 24/7 i risgiau posibl, gan gynnig sicrwydd drwy dechnoleg monitro o bell. Ers sefydlu Tendertec, rydyn ni wedi cofnodi 5,000 a mwy o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â chwympo a symptomau cynnar eiddilwch, gan alluogi’r rhai sydd ag anghenion gofal cymhleth i gael ymyrraeth gynnar a pharhau i fod yn annibynnol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu seilwaith lle gall pobl hŷn a’u gofalwyr ffynnu gyda’i gilydd, felly rydyn ni’n ddiolchgar i Banc Datblygu Cymru a’n hangylion busnes sydd wedi buddsoddi am eu cefnogaeth barhaus.”

Mae Linzi Plant yn Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae gan Afroditi a Rui ddiddordeb mawr mewn gofal sy’n defnyddio technoleg, ac maen nhw’n arbenigo mewn dysgu peirianyddol a gwaith dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Bydd ein harian ni’n eu helpu nhw i helpu eraill i aros yn iach, yn annibynnol ac yn ddiogel, drwy ddarparu atebion sy’n cael eu gyrru gan ddata, ac sy’n gost-effeithiol, yn bersonol ac yn ataliol.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda’r cyd-fuddsoddwr, Puffin Point. Fel swyddfa deuluol, maen nhw’n enghraifft wych o sut rydyn ni’n denu rhagor o fuddsoddwyr i Gymru ac yn ysgogi rhagor o fuddsoddiad i fusnesau yng Nghymru.”

Dywedodd Will Chawner, Buddsoddwr yn Puffin Point: “Mae Tendertec yn ticio llawer o flychau i ni o safbwynt buddsoddi, ac mae ganddyn nhw dîm rheoli gwych. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae eu hateb arloesol yn mesur yn erbyn ei botensial aruthrol.”

Daeth y buddsoddiad ar gyfer Tendertec o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru, sy’n werth £20 miliwn ac sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £350,000 ar gael i fusnesau technoleg yng Nghymru, a’r rhai sy’n fodlon symud i Gymru yn ystod cam prawf cysyniad.