Buddsoddiad i gwmni sgaffaldiau o’r Barri adeiladu ar gyfer y dyfodol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
CASS scaffolding

Mae’r arbenigwyr sgaffaldiau, ‘CASS Supplies Limited’ (CASS), wedi sicrhau buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru a fydd yn galluogi’r cwmni i adeiladu ar gyfer y dyfodol. 

Wedi’i leoli yn y Barri, cafodd CASS ei sefydlu yn 2008 gan Tom Gent, y Rheolwr Gyfarwyddwr.  Mae’r tîm, sy’n cynnwys 64 aelod o staff, yn cyflenwi sgaffaldiau ar gyfer prosiectau adeiladu ar hyd a lled Cymru, de orllewin Lloegr a choridor yr M4. Ymysg ei gleientiaid mae’r Formation Group, R&M Williams, ISG, Morgan Sindall, Intelle a Bouygues.  Mae eu prosiectau cyfredol yn cynnwys Ysgol Uwchradd Whitmore ac Ysgol Uwchradd Pencoedtre yn y Barri, y Tŵr Fusion ym Mryste, Carnegie House yn Llundain, a safle Watkin Jones yn Wilder Street, Bryste.

Bydd y benthyciad gan y Banc Datblygu yn helpu CASS i brynu’r offer sgaffaldiau sydd eu hangen arno i ateb y galw cynyddol. Bydd y costau dros y tymor hir yn llai, a fydd yn caniatáu iddynt fuddsoddi mewn adnoddau ychwanegol, gan gynnwys penodi pum prentis newydd.

Dywedodd Tom Gent, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae Covid wedi effeithio arnom ni i gyd ond rydyn ni’n adeiladu ar gyfer y dyfodol ac yn buddsoddi yn ein cyfarpar a’n pobl, er mwyn gallu addasu i’r normal newydd ac edrych tua’r dyfodol gyda hyder. Drwy wella ein harbedion effeithlonrwydd, rydyn ni’n gallu buddsoddi yn y busnes drwy adnoddau ychwanegol; a chreu pum cyfle prentisiaeth newydd i bobl leol o ganlyniad i lif arian gwell.

“Mae cyllid gan Fanc Datblygu Cymru yn hyblyg ac yn fforddiadwy ond gwir werth ei gymorth yw gwybod bod gennym ni bartner buddsoddi sy’n credu yn ein model busnes ac sy’n awyddus i’n helpu ni i lwyddo. Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu busnes llwyddiannus ar gyfer y tymor hir.”

Roedd y Swyddogion Gweithredol Buddsoddi Navid Falatoori a Joanna Thomas wedi gweithio ar y cytundeb i Fanc Datblygu Cymru. Dywedon nhw: “Mae Tom a’r tîm yn CASS wedi cadw’n brysur drwy Covid-19 drwy wneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau i ddarparu atebion sgaffaldio yn ddiogel ac yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol.

“Gan weithredu yn y marchnadoedd masnachol a phreswyl, mae CASS yn elwa ar dîm o sgaffaldwyr medrus a phrofiadol iawn, a hanes cryf a phroffidiol. Bydd buddsoddi yn y busnes yn creu cyfleoedd twf dros y tymor hir. Mae ein cyllid yn rhoi gwell rheolaeth, hyblygrwydd ac amser ymateb i gwsmeriaid. Bydd llai o bwysau ar y llif arian hefyd yn galluogi rhagor o fuddsoddiad, gan gynnwys creu swyddi newydd.”

Daeth y cyllid ar gyfer y cytundeb o Gronfa Fusnes Cymru, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cafodd y busnes gyllid gan Gynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru hefyd. Roedd cronfa Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru yn rhan o Gronfa Cadernid Economaidd ehangach Llywodraeth Cymru, gwerth £500m. Darparodd gyfalaf gweithio i fusnesau a oedd yn wynebu anawsterau o ran eu llif arian o ganlyniad i bandemig Covid-19. Buddsoddodd y gronfa dros £92 miliwn a helpu 1,331 o fusnesau i ddiogelu dros 16,000 o swyddi.