Buddsoddiad o £1 miliwn ar gyfer busnes Cymreig newydd ei sefydlu sy'n mynd i'r afael â phroblem fyd-eang, gwerth $2.5 triliwn-doler

alex
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
hexigone

Mae cwmni newydd sydd wedi darganfod ffordd fwy diogel a doethach o fynd i'r afael â chyrydiad wedi sicrhau hwb ariannol o £1m; ac fe fydd yn cefnogi cynlluniau uchelgeisiol fel ei fod yn safon y diwydiant ym maes technoleg gwrth-gyrydu.

Mae cyrydiad yn costio 2.5 miliwn o ddoleri i economi'r byd bob blwyddyn, ac yn y mis diwethaf, gwaharddodd yr UE ei atalydd mwyaf effeithiol, cromad hecsafalent, o achos pryderon iechyd. Mae Hexigone Inhibitors yn llenwi'r bwlch hwn trwy gynnig ychwanegyn newydd ar gyfer araenau metel sy'n ddiogel, ac fe all fod ddeg gwaith yn fwy effeithiol na'r dewisiadau eraill sy'n arwain y farchnad ...ac mae'n  diogelu adeiladau, ceir ac awyrennau am gyfnod hwy.

Mae technoleg - Intelli-ion - yn diogelu mewn ffordd unigryw. Yn wahanol i'w cystadleuwyr, mae Hexigone yn defnyddio cronfeydd micro 'cemegol ddeallus' sy'n golygu bod yr araenau'n ymateb i'r amgylchedd, sy'n sbarduno atalydd fel ei fod yn cael ei ryddhau 'yn ôl y gofyn'.

Mae'r dull arloesol hwn o fynd i'r afael â chyrydiad wedi sicrhau buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru a'r buddsoddwyr angel, Phil Buck ac Andy Lewis, yn ogystal â benthyciad arloesi gan Innovate UK; sy'n werth dros £1 miliwn. Ynghyd â chymorth gan yr arbenigwyr buddsoddi Owen Sennet ac AgorIP, bydd yr arian yn galluogi i'r cwmni gyflwyno eu cynnyrch i farchnad triliwn doler ar draws y byd, gan ddod â swyddi a buddsoddiad pellach i Dde Cymru.

Mae'r tîm eisoes yn gweithio gydag 20 o bartneriaid y diwydiant ar draws 4 cyfandir, gan gynnwys cynhyrchwyr araenu arweiniol ar sail byd-eang. Yn ystod y 12 mis diwethaf; gyda chefnogaeth gan y Rhaglen Cyflymu Twf; Mae Hexigone wedi tyfu o 1 i 7 o weithwyr, a chyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, maent yn anelu at greu 40 o swyddi mewn ardal lle gwelwyd gostyngiad yn hanesyddol.

Dywedodd Alexander Leigh, Swyddog Buddsoddi Mentrau Technoleg yn y Banc Datblygu:

"Bydd y pecyn ariannu gan y Banc Datblygu a chyd-fuddsoddwyr eraill yn helpu Hexigone i fasnachu a dosbarthu'r cynnyrch ar raddfa lawn. Mae hyn yn ei wneud yn gwbl addas ar gyfer Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru sy'n cefnogi cwmnïau arloesol sy'n deillio o'r Brifysgol ac mae'n eu helpu i ddod â'u cynhyrchion i'r farchnad, gan greu swyddi a chyfoeth gwerth uchel yng Nghymru.”

Ychwanegodd Tim Sawyer, Prif Swyddog Buddsoddi gydag Innovate UK:

"Rydym yn falch iawn mai Hexigone yw un o'r cwmnïau cyntaf i dderbyn benthyciad arloesi gan Innovate UK. Gall heriau sylweddol olygu bod cyfleoedd gwych yn dod i’r amlwg, fel y dangoswyd gan ddull gweithredu cyffrous newydd Hexigone tuag at atal cyrydiad.”

Fe wnaeth y Prif Weithredwr a'r sylfaenydd, Dr Patrick Dodds, y darganfyddiad wrth weithio ym Mhrifysgol Abertawe ar ei doethuriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer doethuriaeth a ariennir gan Ewrop (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd). Ei nod oedd ymchwilio i ddewisiadau amgen eraill i'r atalydd carsinogenig a waharddwyd yn ddiweddar, cromad hecsafalent; a gafodd ei wneud yn enwog gan Erin Brockovich yn y 1990au. Canlyniad yr ymchwil hon oedd cynnyrch sy'n newid y dirwedd ar gyfer y diwydiannau adeiladu, modurol ac awyrofod ... a dull newydd, ddiogelach a doethach o fynd i'r afael â chyrydiad.

Dywedodd arbenigwr yn y diwydiant a'r buddsoddwr, Phil Buck:

"Yn ystod fy nghyfnod o ddeugain mlynedd yn y diwydiant rydym wedi bod yn chwilio am bigment gwrth-gyrydu cymharol sy'n darparu'r un canlyniadau â chymhlygau plwm a chromadau. Nid yw unrhyw un o'r datblygiadau newydd wedi cyflawni hynny. Nawr, o'r diwedd, mae gennym atalydd cyrydiad sy'n darparu lefel perfformiad y mae ein cleientiaid ei angen i ddiogelu eu hasedau (ceir, adeiladau, awyrennau a llongau); a'r bobl sy'n eu defnyddio; a hynny am gyfnod hirach. Erbyn hyn, mae Hexigone yn gallu cynnig yr hyn mae'r diwydiant cyrydu wedi bod yn chwilio amdano, ers cenhedlaeth ac mae'n dangos bod gan Gymru y sgiliau a'r doniau i adeiladu cynhyrchion a busnesau o'r radd flaenaf.”