Buddsoddiad o £1.25 miliwn yn cefnogi ehangu portffolio llety gwyliau ar Ynys Môn

Claire-Grimshaw
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Bull Bay/Rhosneigr

Mae dau eiddo ar Ynys Môn wedi cael eu hadnewyddu'n sylweddol ar ôl i Fanc Datblygu Cymru gadarnhau buddsoddiad o £1.25 miliwn – trwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru – i gefnogi prosiectau adfywio diweddaraf The Neighbourhood Group.

Mae NH Bull Bay Ltd wedi sicrhau £350,000 i gaffael ac adnewyddu The Anchorage ym Mhorth Llechog, gan drawsnewid y llety gwyliau presennol yn un sydd bellach yn llety gwyliau o ansawdd uchel gydag wyth ystafell wely. Mae £900,000 pellach wedi'i ddarparu i NH Rhosneigr Ltd ar gyfer caffael ac ailddatblygu eiddo yn Llanfaelog, a fydd yn dod yn gartref gwyliau 11 ystafell wely o'r radd flaenaf . Mae NH Rhosneigr ac NH Bull Bay ill dau yn rhan o bortffolio eiddo wedi'u hadnewyddu The Neighbourhood Group.

Wedi'i ffurfio yn 2021, mae The Neighbourhood Group yn arbenigo mewn caffael ac adnewyddu adeiladau sy'n tanberfformio, sy’n ddiangen neu’n segur, neu'n wag, gan eu troi'n lletai gwyliau tymor byr o ansawdd uchel.

Gyda ethos o weithio'n foesegol ac yn gynaliadwy yn y farchnad, mae'r busnes yn canolbwyntio ar ddod ag eiddo gwag sydd wedi eu hesgeluso neu eiddo sy'n methu yn ôl i ddefnydd, gan gadw, cynnal a gweithredu'r holl asedau yn y tymor hir. Mae gwariant adnewyddu a chyflogaeth barhaus yn aros o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt, gyda'r busnes yn defnyddio cyflenwyr, isgontractwyr a chrefftwyr lleol lle bynnag y bo modd.

Mae’r prosiectau hyn ym Mhorth Llechog a Rhosneigr yn adeiladu ar hanes llwyddiannus y Grŵp, gan gynnwys dau adnewyddiad llety gwyliau wedi'u cwblhau ar raddfa debyg yng ngogledd Cymru. Disgwylir i'r eiddo 11 ystafell wely newydd yn Rhosneigr yn unig ddenu dros 700 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gefnogi siopau, bwytai ac atyniadau ymwelwyr lleol.

Dywedodd Paul Mather, Cyfarwyddwr The Neighbourhood Group: “Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan y Banc Datblygu wedi bod yn allweddol wrth gyflawni prosiectau adnewyddu ledled gogledd Cymru a’n galluogi i dyfu i’r busnes rydyn ni heddiw.

"Drwy ein buddsoddiadau mewn datblygiadau adfywio lleol, rydym wrth ein bodd yn chwarae rhan wrth adfywio cymunedau a gwella economïau lleol. Edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith hanfodol hwn a chael effaith barhaol a chadarnhaol yn yr ardaloedd yr ydym yn gweithredu ynddynt. Ein cenhadaeth yw adfer yr adeiladau hyn i'w gogoniant gwreiddiol wrth sicrhau eu lle yng nghalonnau'r cymunedau er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau."

Dywedodd Claire Grimshaw, Swyddog Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: “Mae gan The Neighbourhood Group hanes clir o gymryd adeiladau sy’n tanberfformio ac yn aml yn ddiangen neu’n segur a’u troi’n asedau o ansawdd uchel sy’n cyfrannu at yr economi leol.

“Mae ein buddsoddiadau ym Mhorth Llechog a Rhosneigr wedi dod â’r eiddo hyn yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol, gan gefnogi cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn a helpu i gynyddu gwariant ymwelwyr ledled Ynys Môn. Rydym yn falch o fod yn cefnogi twf parhaus y busnes wrth iddo ehangu ei bortffolio ledled gogledd Cymru.”