Buddsoddiad o £1m yn BiVictriX Therapeutics gan gyfranddalwyr presennol a Chronfa'r Dyfodol i hyrwyddo triniaeth Lewcemia

Michael-Bakewall
Dirprwy Pennaeth Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan BiVictriX.

Mae BiVictriX Therapeutics sy'n seiliedig yn Llanelwy wedi cyhoeddi bod cylch cyllido gwerth £1m wedi'i gwblhau gan gyfranddalwyr presennol gan gynnwys Banc Datblygu Cymru, Acceleris Private Investors a BioCity Investments ochr yn ochr â Chronfa'r Dyfodol.

Mae Cronfa'r Dyfodol yn fenter benthyciadau trosiadol gan y llywodraeth a sefydlwyd i fuddsoddi ym BBaCh y DU ac mae dros £588m wedi'i fuddsoddi hyd yma. Mae buddsoddiad Cronfa’r Dyfodol wedi helpu i ddad-risgio’r buddsoddiad a wneir gan fuddsoddwyr presennol fel bod BiVictriX yn gallu parhau ar ei lwybr datblygu yn ddi-oed.

Dywedodd Tiffany Thorn, Prif Weithredwr BiVictriX Therapeutics: “Mae Cronfa’r Dyfodol yn fenter i’w chroesawu i ni a hoffwn estyn diolch twymgalon i’n buddsoddwyr cyfredol sy’n parhau i gredu yn y busnes ac yn ei gefnogi.”

Mae BiVictriX yn gwmni biotechnoleg, gyda dau brif leoliad yn y Ganolfan OpTic yn Llanelwy a'r Bio Hub ym Mharc Alderley, sy'n ail ddyfeisio'r dull o drin therapi canser i leihau sgîl-effeithiau a chynyddu nerthedd. Nod ei therapiwteg arloesol Bi-Cygni® yw chwyldroi triniaeth Lewcemia Myeloid Acíwt (“LMA”) a chanserau ymosodol eraill, anodd eu trin.

Mae therapiwteg Bi-Cygni® yn cynnwys fector targedu deu-benodol, wedi'i gysylltu â chyffur cemotherapi gwenwynig iawn, ac maent wedi'u cynllunio i dargedu'r celloedd canser yn ddetholus gyda manwl gywirdeb. Trwy ddefnyddio dull rhwymo deuol newydd, mae therapiwteg Bi-Cygni® wedi cael ei beirianyddu i adnabod olion bysedd antigen sy'n benodol i ganser, sy'n absennol o gelloedd iach. Mae rhwymo trachywiredd i'r celloedd canser yn arwain at fewnoli'r moleciwl a rhyddhau'r llwyth tâl cytotocsig hynod nerthol; trwy hynny mae'r celloedd canser yn cael eu lladd, a gadewir celloedd iach yn ddianaf. Wrth osgoi targedu celloedd iach mae hyn yn galluogi gostyngiad sylweddol yn y gwenwyndra arferol yn sgil therapi canser a bydd yn caniatáu ar gyfer mwy o nerthedd yn y driniaeth, a thrwy hynny galluogir datblygiad dosbarth newydd chwyldroadol o gyffuriau canser sy’n fwy effeithiol a diogel. Mae'r platfform Bi-Cygni® wedi'i gyfuno â gwybodaeth y cwmni yn darparu ystod amrywiol o gyfleoedd i'r cwmni gymhwyso'r dull o weithredu i nifer o systemau dosbarthu cyffuriau arloesol, megis ADCau a CAR-T, ac ar draws ystod amrywiol o ganserau ymosodol.

Bydd yr arian cyllido yn galluogi'r cwmni i ddatblygu ei ased arweiniol, BVX001, wedi iddynt gael data hynod o galonogol am anifeiliaid.

Nod yr ased arweiniol, BVX001, yw darparu therapi newydd sy'n newid torri cwys newydd ar gyfer LMA, math ymosodol iawn o ganser y gwaed sy'n hynod o anodd ei ganfod a'i drin. Mae LMA yn cyfrif am 90% o'r holl achosion o lewcemia acíwt mewn oedolion. Os na chaiff y canser ei ganfod mewn pryd, gall y clefyd ledaenu'n gyflym, gan ladd y claf mewn ychydig ddyddiau i wythnosau yn unig. Mae'r opsiynau triniaeth cyfredol yn parhau i fod yn gyfyngedig oherwydd gwenwyndra uchel a diffyg targedu penodol. Ar gyfartaledd dim ond pump o bob 100 o gleifion sy’n cael diagnosis o LMA, 65 oed neu drosodd, fydd yn disgwyl byw am bum mlynedd neu fwy, sy'n cynrychioli un o'r cyfraddau goroesi isaf ar draws pob math o ganser. Mae angen datblygu therapïau mwy effeithiol a mwy diogel ar frys, fel BVX001, i wirioneddol wella goroesiad cleifion o'r afiechyd hynod ddinistriol hwn.

Dechreuodd BiVictriX weithrediadau yn 2017 ac mae'n ystyried Banc Datblygu Cymru, Alderley Park Ventures, BioCity Investments ac unigolion Gwerth Net Uchel ymhlith ei sylfaen o gyfranddalwyr. Mae'r cwmni wedi cael cyngor gan Acceleris Capital o'r cychwyn cyntaf.

Dywedodd Michael Bakewell a arweiniodd y buddsoddiad ecwiti ar gyfer Banc Datblygu Cymru:

“Mae ein buddsoddiad ecwiti parhaus yn BiVictriX yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi busnesau technoleg uchelgeisiol sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru. Mae'r rownd ddiweddaraf hon gyda Chronfa'r Dyfodol ochr yn ochr â chyfranddalwyr presennol yn golygu eu bod bellach yn gallu parhau â'u gwaith mawr ei angen i symud triniaeth lewcemia yn ei flaen."

Dywedodd Patrick Molyneux, Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol yn Acceleris Capital: “Rydym yn falch iawn o gyflwyno cyfalaf pellach i BiVictriX, gan ein rhwydwaith o fuddsoddwyr a chyfranddalwyr presennol. Mae'r fargen hon yn enghraifft berffaith o'n strategaeth i ganolbwyntio ar dechnolegau sy'n torri cwys newydd sy'n mynd i'r afael ag angen heb ei ddiwallu ym maes iechyd a lles. Mae angen i Therapi Canser leihau gwenwyndra a chynyddu nerthedd a chredwn fod Tiffany a’r tîm yn BiVictriX yn gweithio’n dda i symud yr ased arweiniol a’r Platfform Bi-Cygni cyffrous yn ei flaen.