Buddsoddiad o £250,00 i amddiffyn anifeiliaid a swyddi

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
sophia the sea lion

Bydd benthyciad o £250,000 ar gyfer Sw Mynydd Cymru yn helpu i ddiogelu 140 o wahanol rywogaethau o anifeiliaid a swyddi 39 o bobl wrth i Cofid-19 orfodi cau'r atyniad poblogaidd i dwristiaid.

Caeodd y sw ar yr 22ain o Fawrth, - fe sefydlwyd Sw Mynydd Cymru ym 1963 a hi yw'r Sw hynaf a mwyaf sefydledig yng Nghymru. Mae'n sw sy'n eiddo i elusen ac fe'i cydnabyddir fel Sw Cenedlaethol Cymru. Mae'n croesawu dros 160,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Wedi'i lleoli mewn 37 erw yn edrych dros Fae Colwyn a mynyddoedd y Carneddau, mae'r sw yn gartref i dros 140 o rywogaethau gan gynnwys ymlusgiaid, adar, primatau a chathod mawr. Mae rhai o'r anifeiliaid wedi cael eu dosbarthu fel rhai sydd mewn perygl ac yn cael eu rheoli trwy gyfrwng y Rhaglen Rhywogaethau mewn Perygl Ewropeaidd.

Daw'r benthyciad o £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru o Gynllun Benthyciad Busnes Cofid-19 Cymru. Bydd yn darparu llif arian mawr ei angen i helpu i gadw'r anifeiliaid fel eu bod yn cael eu bwydo, eu dyfrio ac yn cael eu cadw'n gynnes. Bydd hefyd yn cefnogi costau rhedeg parhaus ac yn pontio'r bwlch cyllido o ran refeniw a gollwyd o £500,000 rhwng misoedd Ebrill a Mai.

Mae Jennifer Jesse yn Gyfarwyddwr ar Sw Mynydd Cymru. Meddai: “Nid oes amheuaeth bod y rhain yn adeg heriol i bob un ohonom ond mae’r argyfwng hwn yn un o’r gwaethaf y mae Sw Cenedlaethol Cymru erioed wedi’i wynebu yn ei hanes 57 mlynedd.

“Tra bod y gatiau ar gau, mae ein tîm ymroddedig a gweithgar yn parhau i ddarparu'r gofal gorau i'n hanifeiliaid anhygoel, fel maen nhw bob amser. Mae'r mwyafrif o'n refeniw yn cael ei gynhyrchu trwy gyfrwng ymwelwyr a gyda hynny wedi mynd yn gyfan gwbl, mae effaith ariannol y cau wedi bod yn hynod o galed. Mae bellach yn costio £118,000 y mis i'r Sw redeg. Rydym yn parhau i chwilio am grantiau a rhoddion preifat ac mae dros £150,000 wedi'i roi hyd yn hyn. Mae'r benthyciad o £250,000 yn achubiaeth sy'n golygu ein bod yn gallu parhau i ofalu am ein hanifeiliaid yn y cyfamser. Fodd bynnag, hyd nes ein bod yn gallu agor ein gatiau i ymwelwyr eto, mae cefnogaeth ac arian parhaus yn dal i fod yn hanfodol i ni er mwyn parhau i ddarparu gofal a darparu cartref i'n preswylwyr rhyfeddol niferus."

Mae Chris Hayward yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “A hithau'n denu tua 160,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, mae Sw Mynydd Cymru yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu i gyd.

“Fel llinach ar gyfer twristiaeth yng Ngogledd Cymru, mae’r sw yn denu ymwelwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Heb os, mae'n porthi ac yn meithrin Gogledd Cymru fel atyniad ehangach ac yn eistedd wrth galon y diwydiant twristiaeth ochr yn ochr ag atyniadau mawr eraill. Mae Cofid-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y sw, yn enwedig gan fod angen y ceidwaid i barhau i weithio i ofalu am yr anifeiliaid. Rydym yn falch iawn o fod yn gwneud ein rhan i helpu i ddiogelu dyfodol y trysor cenedlaethol hwn.”

Lansiwyd Cynllun Benthyciad Busnes £100 miliwn Cofid-19 Cymru  gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan yr achosion Cofid-19.

Llwyddodd cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau ac unig fasnachwyr sydd wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd i gael gafael ar fenthyciadau hyd at £250,000 ar gyfradd sefydlog o 2% gyda gwyliau ad-dalu'r llog a'r cyfalaf am y 12 mis cyntaf.