Buddsoddiad o £250k yn golygu bod swyddi ar y gweill i Ferthyr

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
celtic storage

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Celtic Cold Storage.

Mae busnes storio oer sydd newydd ei lansio gyda chefnogaeth pecyn buddsoddi o £250,000 yn anelu at greu swyddi yn y Cymoedd wrth i'r ardal ymladd yn ôl yn erbyn effeithiau Covid 19.

Mae Celtic Cold Storage Ltd, menter newydd ym Merthyr Tudful, yn cynnig gwasanaeth pacio, storio oer a chludiant cyflawn i archfarchnadoedd blaenllaw, yn ogystal ag i gyflenwyr bwyd llai.

Mae’r busnes wedi’i lansio gan dîm o dri - Andy Phillips, Jayne Bowen-Davies a Marion Jellings - sydd gyda’i gilydd â 60 mlynedd o brofiad cyflenwol yn y diwydiant.

Ar hyn o bryd mae deg o bobl yn cael eu cyflogi yn y cyfleuster sydd newydd gael ei greu, ac ymhen tair blynedd y nod yw dyblu i weithlu o 20 o leiaf, meddai'r Cyfarwyddwr Jayne Bowen-Davies. “Mae’r Cymoedd, fel llawer o ardaloedd eraill, yn dioddef yn ddrwg oherwydd effeithiau Covid,” meddai.

“Byddwn yn falch iawn os gallwn roi swyddi yn ôl yn y Cymoedd a gwneud yr hyn a allwn i helpu'r economi leol i fownsio'n ôl o'r sefyllfa ofnadwy hon.”

Ymhlith y cleientiaid mae Morrisons, M&S a Castle Dairies. “Yn ogystal â’r manwerthwyr bwyd mwy rydym yn gweld ein hunain yn gweithio gydag ystod o gleientiaid llai ac yn cynnig gwasanaeth arbenigol mewn meysydd arbenigol o’r farchnad,” ychwanegodd. “Byddwn yn anelu at ddarparu ar gyfer eu hanghenion o’r dechrau i’r diwedd.”

Mae gan y cwmni gapasiti rhewgell 1000-paled, a'r bwriad yw cynyddu hyn, a hefyd ychwanegu mwy o allu pecynnu. “Mewn tair blynedd rydym yn gobeithio y byddwn ni'n cyflogi mwy o bobl ac yn gweld twf sylweddol,” meddai.

Mae'r pecyn buddsoddi o £250,000 yn cynnwys benthyciadau o £50,000 gan is-gwmni Tata Steel UKSE a Banc Datblygu Cymru, a chyllid asedau o £60,000 gan Propel. Codwyd £90,000 arall mewn cyllid asedau gan Aldermore Bank. Brocerwyd y pecyn gan Verde Corporate Finance, sy'n rhan o'r GS Verde Group.

Dywedodd Martin Palmer, Swyddog Buddsoddi gydag UKSE: “Mae hi wastad yn dda gweld swyddi newydd yn cael eu creu yn y Cymoedd, ac yn enwedig yn erbyn cefndir y problemau economaidd a achoswyd gan y Pandemig. Mae gan y tîm rheoli flynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant a chysylltiadau rhagorol ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn.”

Cynorthwyodd Mike Fenwick, Cyfarwyddwr Cyswllt Verde Corporate Finance, y cwmni wrth godi’r cyllid, ynghyd â pharatoi'r cynllun busnes a'r rhagolygon ariannol sy'n ofynnol i wneud hynny. Meddai Mike: “Roedd yn bleser cefnogi’r tîm rheoli drwy’r broses hon, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol ar gyfer codi cyllid ar gyfer busnesau newydd. Maent yn dîm gwych ac wedi adeiladu cyfleuster o'r radd flaenaf ym Merthyr, a fydd yn gwasanaethu anghenion cwsmeriaid yn y sector bwyd. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r busnes newydd ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Emily Wood, Swyddog Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru: “Mae'r fargen hon yn cynrychioli cydweithredu rhagorol rhwng Celtic Cold Storage a'u cyllidwyr. Fel cyd-fuddsoddwyr, rydym yn falch iawn o allu cynnig micro fenthyciad a fydd yn helpu i greu swyddi ym Merthyr Tudful a chefnogi twf Celtic Cold Storage fel busnes newydd.”

Ychwanegodd Mark Mountford o Propel: “Mae Propel yn falch iawn o gefnogi Celtic Cold Storage Ltd gyda chyfleuster Cyllid Asedau o £60,000 i helpu i gaffael offer sy'n hanfodol i'r busnes. Gweithiodd Propel yn agos â'u tîm rheoli i ddeall eu cynllun busnes yn llawn; ac maen nhw'n falch bod gan Celtic Cold Storage Ltd gynnig cadarnhaol ynghyd â'r bonws ychwanegol o greu swyddi newydd yn yr ardal."