Buddsoddiad o £520,000 yn dod â busnes technoleg ariannol newydd i Gaerdydd

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Cynllunio busnes
Cyfrifeg
Marchnata
Dechrau busnes
Mentrau tech
Technoleg
Prosper

Mae Prosper, sy’n ddarparwr buddsoddiadau a phensiynau, yn sefydlu swyddfa gefn ym Nghwr y Ddinas ar ôl cael buddsoddiad o £520,000 gan Fanc Datblygu Cymru a syndicet o 11 o angylion busnes.

Sefydlwyd Prosper yn 2021 gan Nick Perrett a Ricky Knox a oedd eisoes wedi cydweithio i greu Tandem Bank, sy’n gyflogwr mawr yng Nghymru gyda 250 o staff. Fe wnaeth Phil Bungey ymuno â nhw; roedd yn arfer bod yn Brif Swyddog Gweithredu yng nghwmni Nutmeg, sy’n gwmni technoleg rheoli cyfoeth. 

Gyda chefnogaeth gan sylfaenwyr Monzo, Capital One ac Admiral, mae Prosper bellach wedi cael buddsoddiad o dros £4 miliwn. Mae’r prif fuddsoddwr, Simon Bell, sydd hefyd yn sylfaenydd grŵp angylion technoleg ariannol a thechnoleg yswiriant, Rebel Syndicates, yn arwain y syndicet o 11 o angylion busnes sy’n buddsoddi £270,000. Cafodd hefyd arian cyfatebol o £250,000 gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Roedd Hugh James yn gweithredu ar ran y syndicet angylion a Chronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Cynghorwyd Prosper gan gwmni cyfreithiol annibynnol o’r DU, sef Burges Salmon.

Mae Prosper yn darparu pensiynau, buddsoddiadau a chynilion. Mae'r sylfaenwyr yn elwa o fynediad heb ffi at 30 o gronfeydd mynegai gan brif reolwyr asedau’r byd, dim ffioedd platfform a dim ffioedd trafodion. Yn y dyfodol, bydd Prosper yn codi ffi platfform teg ar aelodau, yn ogystal â ffioedd isel, teg a thryloyw ar gyfer unrhyw gynnyrch buddsoddi arall y mae’r cwmni’n credu sy’n cynrychioli gwerth mawr.

Dywedodd Ricky Knox, Cadeirydd Prosper: “Mae’n wych bod Prosper yn cael ei gefnogi gan Angylion Buddsoddi Cymru ac angylion Cymru yn ein darpariaeth cyllid diweddaraf. Mae cael cefnogaeth gan David Stevens, y dyn a greodd Admiral sy’n gwmni ungorn Cymreig, yn dangos ymddiriedaeth i genhadaeth Prosper. Rydyn ni’n edrych ymlaen at dyfu ein sylfaen yng Nghymru dros amser, gan adeiladu ar y llwyddiant a gawsom yn y rhanbarth gyda’n busnes blaenorol, sef Tandem, drwy greu hyd at 100 o swyddi.”

Dywedodd Simon Bell, y prif fuddsoddwr: “Mae hwn yn dîm o entrepreneuriaid technoleg ariannol profiadol sydd â llwyddiant blaenorol o sefydlu a thyfu busnesau bancio. Mae’n gamp wirioneddol i Gymru o gofio bod Tandem Bank bellach yn un o’r banciau gwyrdd mwyaf blaenllaw yn y DU. ”

Tom Preene yw Rheolwr Gweithrediadau Angylion Buddsoddi Cymru. Dywedodd: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r Banc Datblygu gefnogi syndicet profiadol iawn o angylion busnes i helpu i sbarduno twf Prosper yng Nghymru. Eu gwybodaeth a’u buddsoddiad ynghyd â’n harian cyfatebol yw’r hyn a fydd yn sbarduno twf y busnes addawol hwn; gan greu swyddi a sicrhau gwerth i economi Cymru.”

Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, yn gronfa oddefol sy’n ceisio annog mwy o fuddsoddiad gweithredol gan angylion. Caiff ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru. Mae’r gronfa gyd-fuddsoddi pum mlynedd yn cymryd rhan mewn rowndiau buddsoddi syndicet drwy gyd-fuddsoddi benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000, ynghyd â syndicetiau angylion a buddsoddwyr arweiniol. Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn cydlynu hyn ar ran Banc Datblygu Cymru.