Buddsoddiad o £750,000 mewn gwasanaethau gofal lleol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
banyan care homes

Mae benthyciad gwerth £750,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi’r gŵr a’r wraig, Shah a Nicky Seehootoorah i wireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref gofal preswyl eu hunain.

Gyda phrofiad helaeth ym maes gofal dementia arbenigol a henoed eiddil eu meddwl (EMI), sefydlodd Mr a Mrs Seehootoorah Banyan Care Homes Limited i brynu Cartref Gofal White Rose yn Nhredegar Newydd gan y darparwr gofal, Larchwood Care.

Mae White Rose yn gartref gofal pwrpasol sydd wedi’i gofrestru ar gyfer 32 o breswylwyr dros 65 oed, gan gynnwys y rheini sydd â dementia. Fe’i hadeiladwyd yn 1990 ac mae’r adeilad fel arfer dros 95% yn llawn, gyda’r rhan fwyaf o’r preswylwyr yn cael eu hariannu’n gyhoeddus gan awdurdodau lleol gan gynnwys Caerffili, Blaenau Gwent a Bro Morgannwg.

Mae’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi Banyan Care Homes i ddiogelu swyddi’r 42 aelod o staff sy’n darparu gofal 24/7, a chadw’r un rheolwr a fu’n rhan annatod o’r gwaith o redeg y cartref gofal yn llwyddiannus ar gyfer y perchnogion blaenorol. Mae hefyd yn sicrhau parhad gofal i breswylwyr yn y gymuned leol.

Dywedodd Shah Seehootoorah: “Mae Larchwood Care yn gweithredu’n bennaf yn Nwyrain Lloegr ond roedden nhw wedi datblygu enw rhagorol i White Rose, sy’n brawf o’r gofal o ansawdd uchel a roddir i breswylwyr gan y tîm, ac mae pob un ohonynt yn ymfalchïo’n fawr yn eu gwaith ac wir yn gofalu am eu preswylwyr.

“Mae ein profiad yn y sector gofal yn golygu ein bod yn gwybod beth sy’n gwneud cartref gofal preswyl gwych; amgylchedd croesawgar, gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg yn dda a pharhad gofal gan staff sydd wir yn ystyriol o’u preswylwyr. Mae gan White Rose hyn, ond heb y cyllid gan Fanc Datblygu Cymru, ni fyddem byth wedi gallu cwblhau’r pryniant, gan nad oedd Covid-19 yn eu hatal rhag gallu bodloni ein hamserlenni.

“Mae dull agored a thryloyw y tîm o’r Banc Datblygu wedi gwneud y broses yn rhwydd; roedden nhw’n gwrando ac wedi dangos diddordeb yn ein dyheadau ar gyfer y White Rose a’n cynlluniau ar gyfer Banyan Care yn y dyfodol. Mae eu cefnogaeth yn golygu ein bod wedi gallu diogelu gwasanaethau i breswylwyr a diogelu 42 o swyddi. Ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo i dalu’r holl staff yn fwy na’r isafswm cyflog, a byddwn yn cyflwyno polisi prynu’n lleol fel ein bod yn defnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.”

Cyflwynwyd Banc Datblygu Cymru i Nicky a Shah Seehootoorah gan Gary Boyce o Christie Finance. Bu’r Swyddog Gweithredol Buddsoddi, Ruby Harcombe, a’r Swyddog Gweithredol Buddsoddi Cynorthwyol, Emily Jones, yn gweithio ar y cynnig. Dywedon nhw: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Nicky a Shah ar y buddsoddiad hwn a’u cefnogi gyda’r cyllid a oedd ei angen arnyn nhw i ddechrau eu taith eu hunain fel perchnogion busnes, gan adael i’r tîm barhau i wasanaethu eu cymuned leol yn ddiogel gan wybod bod eu swyddi’n cael eu gwarchod.

“Wrth i ni gyd fyw’n hirach, mae’n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru y dylai pob un ohonom allu heneiddio’n dda a byw mewn cymunedau sy’n ystyriol o oedran, lle mae pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u parchu. Yn wir, mae gofal yn sector allweddol o’r economi sylfaenol, felly rydym yn arbennig o falch ein bod wedi gallu darparu’r cyllid a fydd yn cadw Cartref Gofal White Rose fel rhan annatod o’r gymuned leol.”

 

Cafodd y benthyciad gwerth £750,000 gan Fanc Datblygu Cymru ei ariannu drwy Gronfa Fusnes Cymru. Mae Cronfa Fusnes Cymru, sy’n werth £204 miliwn, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac mae ar agor i fusnesau bach a chanolig (y rheini sydd â llai na 250 o weithwyr) yng Nghymru, neu sy’n fodlon symud i Gymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn ac ecwiti rhwng £50,000 a £2 filiwn ar gael, ac mae’r telerau’n amrywio o un i saith mlynedd.

Gweithredodd Harrison Clark Rickerbys ar ran Banyan Care Homes Limited.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr