Buddsoddiad ym musnesau Cymru yn cyrraedd £100 miliwn ar gyfer Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
giles thorley

Mae Banc Datblygu Cymru wedi adrodd bod 457 o fuddsoddiadau, sy'n dod i gyfanswm o £103.3 miliwn, wedi cael eu gwneud yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar y 31 Mawrth 2020. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Mae’r buddsoddiadau cyffredinol yn dod i £23.2 miliwn, sy'n gynnydd o 29%, o'i gymharu â’r flwyddyn yn dod i ben yn 2018/19
  • Fe wnaed 457 o fuddsoddiadau o'i gymharu â 420 pan ddaeth y flwyddyn i ben yn 2018/19
  • Trosolwyd £75.9 pellach o'r sector breifat
  • Gwnaed £43.4 m (42% o'r holl fuddsoddiadau) i gwsmeriaid presennol
  • Mae cyfanswm y buddsoddiad mewn datblygu eiddo yn £34.1 miliwn i fyny 47% o £23.2 miliwn pan ddaeth y flwyddyn i ben yn 2018/19
  • Roedd cyfanswm y buddsoddiad ecwiti yn £16.0 miliwn
  • Gwnaed 51 buddsoddiad gwerth cyfanswm o £11.44 miliwn mewn mentrau technoleg cam cynnar
  • Roedd maint bargeinion micro fenthyciadau ar gyfartaledd yn £23,500 (benthyciadau hyd at £50,000)

 

Mae'r ffigur buddsoddi cyffredinol o £103.3 miliwn yn godiad o 29% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a ddenodd fuddsoddiad ychwanegol o £75.9 miliwn o drosoledd o'r sector breifat ar draws 457 o fuddsoddiadau unigol. Mae 3,964 o swyddi wedi cael eu creu neu eu diogelu.

Roedd gwasgariad cytbwys ledled y wlad gyda £38.7 miliwn wedi'i fuddsoddi yn Ne Cymru, £34.3 miliwn yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a £30.4 miliwn yng Ngogledd Cymru.

Roedd dros hanner nifer y buddsoddiadau ar gyfer benthyciadau bach, micro fenthyciadau hyd at £50,000, gyda maint y bargeinion ar gyfartaledd yn £23,500. Elwodd 265 o fusnesau yn sgil micro-fenthyciadau a defnyddiodd 73 o'r rhain y cynllun benthyciadau llwybr cyflym newydd i gael gafael ar £899,500. Lansiwyd y benthyciadau llwybr cyflym wedi'i ddiweddaru gan Fanc Datblygu Cymru ym mis Rhagfyr 2019 ac mae'r rhain ar gael i bob busnes sydd wedi bod yn masnachu yng Nghymru ers dros ddwy flynedd. Yn flaenorol roedd cyllid wedi'i gyfyngu i £10,000 ond mae benthyciadau hyd at £25,000 bellach ar gael gyda phenderfyniad yn cael ei wneud mewn dim ond dau ddiwrnod gwaith.

Cynyddodd buddsoddiadau mewn cynlluniau eiddo 47% o £23.2 miliwn yn 2018/19 i £34.1 miliwn. Cefnogwyd 44 o ddatblygwyr eiddo BBaCh ar draws 52 o wahanol brosiectau gan gynnwys 30 o ddatblygiadau newydd gan ddarparu 263 o unedau tai marchnad a 70 o unedau fforddiadwy ar draws 16.15 hectar o dir ac 19 o Awdurdodau Unedol gwahanol. Yn 2019/20 hefyd lansiwyd Cronfa Eiddo Masnachol Cymru a Chynllun Hunanadeiladu Cymru.

Y cyntaf i elwa o Gronfa Eiddo Masnachol Cymru oedd datblygwyr o Aberystwyth, Ellis Development Company (Wales) Ltd ar gyfer datblygu 100,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol newydd gan gynnwys 12 uned a oedd yn dod i gyfanswm o 16,910 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol ysgafn hapfasnachol a masnachol.

Roedd £43.4 m (42% o'r holl fuddsoddiadau a wnaed) i gwsmeriaid presennol. Cofnododd y Banc Datblygu ddau allbryniant yn 2019/20 gyda Pinnacle Document Solutions ac Yard Associates. Roedd gan y rhain werth allbrynu cyfun o £2.8 miliwn wedi'i rannu'n gyfartal rhwng dyled ac ecwiti.

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae'r Coronafeirws wedi rhoi pwysau digynsail ar yr economi ac wrth inni gynllunio ein hadferiad rwyf wedi bod yn glir fy mod am inni adeiladu pethau’n ôl yn well.

“Mae'r canlyniadau gorau hyd yma heddiw yn dangos y rôl hanfodol y mae Banc Datblygu Cymru yn ei chwarae wrth wneud yn union hynny. Mae'n darparu cefnogaeth gyflym, hyblyg ac ymatebol i anghenion busnes Cymru, a fydd yn bwysicach nag erioed wrth i ni gynllunio ar gyfer adferiad.

“Mae cyfleuster benthyca y Banc Datblygu, a grëwyd i helpu i ymdrin ag effaith y feirws, eisoes wedi dyrannu bron i £100 miliwn i fwy na 1,200 o fusnesau, gyda staff yn gweithio’n ddiflino ochr yn ochr â ni i ddarparu achubiaeth hanfodol sydd wedi diogelu miloedd o swyddi.

“Mae hynny yn ychwanegol at y ffigurau trawiadol y mae’r Banc wedi’u cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy’n dangos cynnydd o bron i 30% mewn buddsoddiadau. Mae'r ffigurau'n dyst cywir o'r gwerth y mae'r Banc yn ei ychwanegu at ein heconomi a'r dirwedd fusnes fywiog yr ydym yn ei maethu yma yng Nghymru. Mae ein ffocws ar becyn amrywiol o gymorth busnes yn allweddol i wella ein cydnerthedd economaidd a bydd yn hanfodol wrth i ni weithio i sbarduno twf cynhwysol ledled Cymru.”

Roedd cyfanswm y buddsoddiad a wnaed mewn busnesau technoleg cyfnod cynnar yn £11.44 miliwn ar draws 51 buddsoddiad. Roedd hyn yn cynnwys 22 a oedd yn fuddsoddiadau ecwiti sbarduno o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru, gwerth cyfanswm o £3.52 miliwn, - perfformiad gorau erioed y gronfa hon.

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Er bod y flwyddyn wedi gorffen mewn ffordd na allai neb fod wedi'i ragweld gyda Cofid-19, roedd 2019/20 mewn gwirionedd yn 12 mis eithriadol i fusnes Cymru gyda’r buddsoddiad uchaf erioed ar gyfer pob cam twf, cwmnïau cychwynnol, twf uchel a chwmnïau sefydledig o bob maint. Rwy’n falch iawn ein bod wedi cadw ein statws fel un o’r pum buddsoddwr technoleg gorau yn y DU ym mlwyddyn galendr 2019 (yn ôl cyfaint) yn ôl Adroddiad Beauhurst.

“Mae'n arbennig o galonogol gweld cwsmeriaid yn dychwelyd am fwy o gefnogaeth. Mae'r berthynas sydd gennym gyda'n cwsmeriaid yn seiliedig ar werth a chefnogaeth hirdymor. Nid yw'n ymwneud â'r arian yn unig, rydyn ni yma i feithrin twf a dyna pam rydyn ni'n gweithio'n galed i gefnogi datblygiad busnesau cryf sy'n cael eu rhedeg yn dda a fydd yn creu swyddi a ffyniant economaidd yn y dyfodol.

“Ar ôl gwneud dros 256 o atgyfeiriadau i Busnes Cymru yn ystod y flwyddyn, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn hwyluso cyflwyniadau i gynghorwyr, cyfarwyddwyr cyllid a chyfarwyddwyr anweithredol i helpu ein cwsmeriaid i gael y gefnogaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt.

“Mae ein tîm eiddo arbenigol a ehangwyd yn ddiweddar yn parhau i berfformio'n arbennig o dda. Mae'n un o'n meysydd mwyaf gweithgar yn y busnes gyda chyfanswm o £34,097 miliwn wedi'i gymeradwyo ar gyfer prosiectau datblygu eiddo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cymysgedd o brosiectau masnachol a phreswyl a defnydd cymysg.

“Busnesau bach a chanolig yw anadl einioes ein heconomi. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyllid sydd ei angen i gefnogi twf, creu swyddi a gyrru uchelgais ym mhob cwr a chornel o'n cenedl wych.”