Buddsoddiadau o £21.3 miliwn ym musnesau Gorllewin Cymru ar lefel uwch nac erioed

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
development bank of wales llanelli

Mae Banc Datblygu Cymru wedi rhyddhau ffigurau sy'n dangos bod y buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn busnesau bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru yn uwch nac erioed.

Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti gwerth £21.3 miliwn wedi bod o fudd i 72 o fusnesau ar hyd a lled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn 2018, gan gynhyrchu gwerthiant sector breifat o £33.1 miliwn ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cymharu â £11.6 miliwn yn 2017.

Meddai'r Rheolwr Rhanbarthol, Alun Thomas: "Er gwaethaf yr ansicrwydd parhaus sy'n ymwneud â Brexit, cawsom nifer o ymholiadau yn ystod 2018 gan fusnesau sy’n dechrau o'r newydd a busnesau bach a chanolig sefydledig sy'n chwilio am fenthyciadau neu ecwiti o hyd at £5 miliwn.

"Dyfarnwyd cyfanswm o £21.3 miliwn o fuddsoddiadau i 72 o fusnesau sy'n profi bod yna ddigon o awydd i dyfu yn y rhanbarth hwn o hyd; mewn gwirionedd, a dweud y gwir, mae hynny bron yn ddwbl yr £11.6 miliwn yn 2017."

Mae'r rhai sydd wedi cael budd yn 2018 yn cynnwys gwmni olew annibynnol ‘Olew dros Gymru / Oil4Wales’ a gafodd fenthyciad o £350,000 i ariannu datblygiad gorsaf lenwi tanwydd yn Nantycaws. Dyfarnwyd £200,000 i DRL Partitions sy'n seiliedig yn Nafen.

Aeth Alun Thomas yn ei flaen i ddweud : "Mae cael mynediad at gyllid yn gwneud gwahaniaeth mawr i dwf a chynaliadwyedd, a dyna pam yr ydym yn parhau i weithio'n galed i helpu busnesau lleol i ffynnu. O brynu stoc a chyfarpar newydd, adeiladau newydd, pryniannau rheoli neu gaffaeliadau, mae perchnogion reolwyr eisiau gweld dull gweithredu masnachol tuag at fuddsoddiadau sydd wedi'u teilwra i ddiwallu eu hanghenion hwy. Mae'r math o arian cyllido y gallwn ei ddarparu yn amrywio'n eang o fenthyciadau micro o £1,000 i ecwiti hyd at £5 miliwn; felly mae yna rywbeth i bawb mewn gwirionedd.

"Mae’r broses syml a chyflym o wneud penderfyniadau, ynghyd â'n presenoldeb ar lawr gwlad, wedi helpu i roi hwb i'r lefel ymholiadau ac mae perchnogion busnes yn dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi ein dull gweithredu wyneb yn wyneb. Yn amrywio o entrepreneuriaid yn chwilio am gyllid ar gyfer busnesau sy'n dechrau o'r newydd i fusnesau sy'n bwriadu cymryd y cam nesaf, rydym yn awyddus i sicrhau bod 2019 yn flwyddyn arall sy'n werth chweil."

Mae gan y Banc Datblygu Cymru dîm o wyth wedi eu lleoli yn Nafen, Llanelli. Mae hyn yn cynnwys Clare Sullivan sydd newydd gael ei phenodi, sydd wedi ymuno â ni o HSBC fel Swyddog Buddsoddi. Ochr yn ochr gyda'r Swyddog Datblygu Eiddo Alwyn Thomas a'r Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol Ashley Jones.